Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hen Friwiau - clawr
Nofel Ronseal!

Gwneud be sy'n cael i ddweud ar y clawr!

Chwefror 2003

Hen Friwiau gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch Β£6.50

Adolygiad gan Elin Meredith

Meddai'r broliant ar glawr y llyfr yma:
"Mae'r awdur yn sylwgar ac yn deall y natur ddynol, ac nid oes amheuaeth ei fod yn medru ysgrifennu naratif cyffrous a deialog dda."

Ond, peidiwch ΓΆ gadael i'r sylw athro-ysgol yma beri ichi droi eich trwyn ar Hen Friwiau.

Er ei bod hi'n frawddeg wir bob gair, dydi hi ddim yn gwneud cyfiawnder o gwbl ΓΆ gwead a rhediad tyn y nofel dditectif yma.

Stori dda

Mae Hen Friwiau yn dweud stori, a honno'n stori dda wedi ei dweud yn gelfydd a Dyfed Edwards wedi llwyddo i osgoi'r fagl o ysgrifennu er mwyn dangos clyfrwch geiriol neu syniadol ac wedi ysgrifennu nofel 'Ronseal' gan wneud yn union be mae'n ei ddweud ar y clawr sef dweud stori, dim mwy, dim llai.

A dyna'r math anoddaf o ysgrifennu i'w wneud yn dda medde nhw.

Llofruddiaeth merch ifanc

Newyddiadurwraig o'r enw Aleksa Jones ydy'r 'ditectif' yn y nofel yma. Cymeriad sy'n benderfynol o fynd at wraidd llofruddiaeth merch ifanc dros chwarter canrif ynghynt.

Wrth dyrchu i mewn i hen hanes, mae Aleksa'n codi sawl crachen ac yn siglo rhai o bileri'r gymdeithas wrth ddod yn anghyfforddus o agos at y gwir.

Yn Aleksa Jones mae'r awdur wedi creu prif gymeriad sy'n fodern, yn fyw ac yn gwbl greadadwy. Yn debyg iawn i dditectifs benywaidd cyfresi teledu fel Prime Suspect mae hi'n perthyn yn naturiol i'n cyfnod a'n cymdeithas ni, yn rhywun y gallwn i ei hadnabod fel merch sy'n byw yng Nghymru yn fy oes i - profiad prin iawn mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Mae hi'n braf gweld y rhyw deg yn brif gymeriad positif mewn llenyddiaeth Gymraeg am unwaith.

Mae yna ymgais i wau'r stori dditectif efo edau bywyd personol Aleksa drwy geisio rhoi rheswm am ei dycnwch wrth geisio canfod beth ddigwyddodd i'r ferch ifanc a laddwyd - sef bod Aleksa wedi cael erthyliad.

Mae'n ymgais i greu is-blot a'i gwneud hi'n fwy byw, ond dydw i ddim yn siwr os mai dyma'r ddyfais fwyaf effeithiol. Nid yw cymharu marwolaeth merch ifanc yn ei harddegau a babi nad yw erioed wedi bod yn taro deuddeg rhywsut.

Mynd dan groen

Er hynny mae ei pherthynas efo'i chyn gariad, a rhan ei chyfaill, Ffion, yn y stori, yn help i'w gwneud yn gymeriad mwy crwn.

Ond mae'n glod i Dyfed Edwards ei fod wedi llwyddo i fynd dan groen y cymeriad benywaidd cystal ac ysgrifennu deialog llyfn, naturiol nad yw'n tynnu sylw ato'i hun.

Yn newyddiadurwr ei hun ers 13 o flynyddoedd mae wedi tynnu ar ei brofiadau ei hun a'i adnabyddiaeth o lefydd a phobl i greu sefyllfaoedd credadwy, hyd yn oed mewn plot sydd ar brydiau'n anghredadwy.

Cymeriadau hunllefus
Er bod yr awdur yn ymhyfrydu mewn datgelu'r stori inni wrth ei bwysau a chreu'r potensial i sawl tro yn y gynffon, roedd gen i ofn i ddiwedd y nofel droi yn ychydig o ffars yn arddull y League of Gentlemen.

Daw trigolion y dref o fewn trwch blewyn i ymddangos fel cymeriadau hunllefus o bentref dychmygol Royston Vasey, ond caiff hynny ei osgoi jyst mewn pryd.

Un o brif fanteision Aleksa Jones ydy ei bod hi'n ymddangos yn ddi-wreiddiau. Does dim sΓ΄n am deulu a chartref i dynnu oddi ar y stori ac mae hynny'n rhoi elfen o ddirgelwch iddi hefyd.

Mae yma ddigonedd o sgΓ΄p i'w datblygu mewn nofel ddilynol felly ac mi fyddwn i yn bendant yn awyddus i ddarllen am ei hanturiaethau eto.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy