ΒιΆΉΤΌΕΔ


Explore the ΒιΆΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ΒιΆΉΤΌΕΔ ΒιΆΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Confa Lescent, cariad ac ambell i jôc

Ond yr hen asbri wedi mynd o fywyd Tomos a Marged

Dydd Iau, Ionawr 9, 2003


Tomos, Neli Ann a Marged gan Wasg Gomer. £5.95.

Adolygiad gan Gwyn Griffiths


Yr wyf wedi bod yn edmygwr mawr o'r ddau hen gymeriad Tomos a Marged, creadigaethau gwledig a doniol W. J. Gruffydd.

Mewn papur newydd

Cymeriadau a ddaeth yn gyfarwydd i drigolion de Ceredigion a gogledd Penfro drwy gyfrwng colofnau'r pTeifi Seid, papur wythnosol yr ardal.

Roedd W. J. yn weinidog yn Y GlΓ΄g bryd hynny.

Ymddangosodd y casgliad cyntaf o'r straeon yn 1965 a daeth dwy gyfrol arall yn yr wyth mlynedd wedyn ond bu saib o bron i ugain mlynedd nes i'r cyfrolau hwyliog ail-gychwyn eto, ddeng mlynedd yn Γ΄l.

Cyfrolau a ddangosodd fod W. J. Gruffydd yn haeddu lle uchel ymhlith sgrifennwyr y stori ddigri Gymraeg - nid fod storiwyr Cymraeg digri yn or-niferus yn awr nac yn y gorffennol.

Sy'n gwneud imi feddwl; onid yw'n bryd i rywun fynd ati i gasglu cyfrol o straeon digri Cymraeg - fe gawn gasgliadau a blodeugerddi diddiwedd o farddoniaeth.

Wedi dweud hynny, fedra i ddim mynd ar fy llw y buaswn yn cynnwys yn y fath gasgliad yr un dim o gyfrol ddiweddaraf W. J. Gruffydd, Tomos, Neli Ann a Marged.

Canmolais y gyfrol flaenorol, Chwedlau Nant Gors Ddu, a gyhoeddwyd y llynedd i'r cymylau ond rwy'n poeni fod yr hen gymeriadau o fynydd-dir corsiog Ffair Rhos wedi chwythu'u plwc erbyn hyn.

Confa Lesio!

Nofel fach yn hytrach na chasgliad o straeon yw Tomos, Neli Ann a Marged.

Mae Tomos wedi bod yn yr ysbyty am lawdriniaeth a mynd i Awelfor "Confa Lescent" am adferiad llawn. Yno, mae rhyw weddw fach heger o'r enw Neli Ann yn cymryd ffansi ato a'i arwain ar gyfeiliorn - ychydig bach o "ar gyfeiliorn" dim byd rhy ddifrifol; pictiwrs, ty bwyta Chineaidd, y math yna o beth.

Wrth gwrs, mae'r hanes yn mynd ar amrantiad at Marged diolch i rai o drigolion siaradus y bryniau. Heb son am ymyrraeth dau dynnwr coes y "Confa Lescent", Stalin a Loffti.

Ymhlith y gemau o ddoniolwch mae Stalin a Loffti yn rhoi gwers hanes i Tomos.

"Ro'wn i'n meddwl mai yn y Batl o Waterlw yn y Boer War o'dd Napoleon yn ymladd, a'i fod wedi ca'l 'i dransporto i'r Eil o' Man."

"Nage. Yn Llunden o'dd Batl Waterlw. Ro'dd rownd l'ath gyda brawd mam ar bwys steshon Waterlw, a fe fuodd e'n gerthu lla'th sgim i'r sowldiwrs o'dd yn y Batl ...[a] rhoi digon o ddwr ar ben y sgim ..."

Pan fo nhw'n trafod y llun o'r cyrnol sydd yn y Confa Lescent mae Stalin yn dweud i'r cyrnol golli darn o'i glust yn Waterlw a Tomos yn cofio fel y bu bron iddo yntau golli ei glust wrth hogi'r bladur ar ei ysgwydd slawer dydd.

JΓ΄c dda yw honno am Constipation Hill. Er 'mod i'n ddigon cyfarwydd ag Aberystwyth, chlywais i mohoni o'r blaen!

Mae Ianto'r Hewl fel hwrdd yn y hydref (hwrdd ar viagra dd'wedwn i) eisie priodi Hannah JΓͺn a chael saith o blant. Er ei fod e mewn oed bod yn gallach.

Dim gast felen

Falle 'mod i'n gweld eisiau'r ast felen a gladdwyd yn y gyfrol ddiwetha wedi oes o erlid hyrddod strae o gaeau ei pherchennog.

Falle 'mod i'n fwy cysurus yng nghwmni Tomos pan fo yn ei gynefin nag yn Confa Lescent. Beth bynnag, chefais i ddim mo'r un hwyl gyda'r gyfrol hon.

Rwy'n gobeithio na fydd W. J. - sydd ddim yn credu mewn adolygiadau beth bynnag - yn cymryd ato os digwydd iddo ddarllen hyn ond, gwell hwyl tro nesaf.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the ΒιΆΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy