Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diwrnod y Llyfr
Gaby'n sgorio dros lyfrau

Dangos fod darllen yn gêm werth chweil

Dydd Iau, Ionawr 2, 2003

Mae'r pyndit chwaraeon o fri, Gaby Logan, wedi rhoi ei henw ar lyfrau tîm Cyngor Llyfrau Cymru - a hynny am y ffi leiaf erioed yn hanes pêl-droed – dim.

Ei thasg fydd hyrwyddo Diwrnod y Llyfr, Cymru sy'n cael ei gynnal ar Fawrth 6.

Merch Terry Yorath yw’r seren ddiweddaraf i ymuno â’r tîm a fydd yn hyrwyddo'r Diwrnod gyda'r nod o gael pobl o bob oed i ailddarganfod y mwynhad a geir o ddarllen.

Mae Gaby i’w gweld ar y posteri diweddaraf "Bacha Lyfr!" a fydd yn ymddangos ledled Cymru tua diwedd Ionawr ac ar dudalennau gwe arbennig i hyrwyddo Diwrnod y Llyfr ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru – www.cllc.org.uk – lle bydd yn rhoi neges ddwyieithog i gefnogi’r ymgyrch.

Yn ei neges at ddarpar ddarllenwyr, mae Gaby’n dweud: "Mae darllen mor gyffrous. Does dim yn well gennyf nag ymgolli mewn llyfr sy’n hoelio’ch sylw – rhowch gynnig arni, byddwch wrth eich bodd."
"Mae Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn syniad ardderchog ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi’r achlysur a fydd, gobeithio, yn annog pobl o bob oed i godi llyfr a darllen," meddai.
Dywedodd Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Gaby wedi dod i’r maes i gefnogi Diwrnod y Llyfr, Cymru – gobeithio bod hyn yn profi y gall cefnogwyr pêl-droed hefyd fwynhau darllen ac y gall darllen llyfrau apelio at bawb, beth bynnag eu hoed a’u diddordebau."

Bydd dathliadau Diwrnod y Llyfr yn dechrau ymhell cyn y Diwrnod ei hun gyda cannoedd o ddigwyddiadau mewn ysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau.

Bydd sefydliadau fel yr Academi, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trefnu gweithgareddau hefyd.

"Rydyn ni’n gobeithio ailadrodd y llwyddiant a gafwyd y llynedd pan fu miloedd o bobl ym mhob rhan o Gymru'n cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn gobeithio rhwydo hyd yn oed fwy o gefnogwyr eleni er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r llyfr," meddai Delyth.

Un llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n siwr o fod o ddiddordeb arbennig i Gaby yw, Mae'r Byd yn Grwn gan Dylan Llewelyn sydd yn ateb
H
oliadur Llais Llên


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy