Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Welsh Wildlife
Y gwyllt mewn peryg

Rhybudd naturiaethwr mewn llyfr am fywyd gwyllt

Ebrill 2003
Welsh Wildlife gan David Jones. Y Lolfa. Β£4.95.

Y mae'r geiriau hynny gan Saunders Lewis sydd mewn peryg o gael eu hailadrodd hyd at syrffed yn cael eu dyfynnu mewn cyswllt mwy anarferol - ond llythrennol bron - mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae Gwinllan a roddwyd i'n gofal yw Cymru fy ngwlad/ I'w thraddodi i'm plant,/ Ac i blant fy mhlant,/ Yn dreftadaeth dragwyddol, yn gorffwys yn gwbl naturiol fel cyflwyniad i Welsh Wildlife, llyfr gan David Jones am y bywyd gwyllt, naturiol sydd yng Nghymru.

Yn gyfrol fechan Β£4.95 mae'n rhywfaint o ofid nad yw ar gael yn y Gymraeg hefyd.

Trydydd llyfr

David JonesBrodor o Gasnewydd ydi'r awdur a dyma ei drydydd llyfr am fyd natur Cymru.

Mae'n ymddangos yng nghyfres ddifyr It's Wales Gwasg y Lolfa gan gymryd ei lle'n gysurus ochr yn ochr a theitlau fel Welsh Organic Recipes, Welsh Mountain Walks, Welsh Railways, Welsh Rugby Heroes, Welsh Place Names ac yn y blaen.

Er yn gyfrol denau 106 dalen mae Welsh Wildlife yn adlewyrchiad teg o'r amrwyiaeth o fywyd gwyllt sydd yna yng Nghymru gyda'r awdurr yn rhyfeddu fod cymaint amrywiaeth mewn gwlad o ddim ond rhyw 20,763 kilometr sgwΓΆr.

Amrywiaeth ryfeddol

"Mae gan Gymru amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd," meddai - a'r rheini yn amrywio o uchelderau'r Wyddfa i wastadeddau Gwent.

Canlyniad y fath amrywiaeth o dirwedd yw amrywiaeth gyfatebol mewn anifeiliaid a phlanhigion ac y mae penodau yn y llyfr am Flodau, Rhedynnau, Coed, Adar, Mamaliaid, Amffibiaid, Pysgod, Gwyfynnod a Gloynnod a chreaduriaid heb asgwrn cefn.

Mae yna luniau - rhai camera a rhai pin ac inc - ond does yna ddim llun o bob peth.

Er mai llyfr Saesneg yw hwn byddai wedi bod yn braf gweld cynnwys enwau Cymraeg yr holl rywogaethau sy'n cael sylw ochr yn ochr a'r enwau Lladin gan fod rhyw gyfaredd arbennig yn perthyn i enwau Cymraeg rhai blodau ac anifeiliaid.

Hanner cant o rywogaethau sy'n cael sylw yma a chan ddyfynnu'r naturiaethwr arall hwnnw, William Condry, mae David Jones yn pwysleisio y byddai angen cyfrol wyddoniadurol ei maintioli i dynnu sylw at bopeth.

Y winllan dan warchae

Mae ganddo air o rybudd hefyd - yr un gair o rybudd ag sydd yna yng ngeiriau aml-ddyfynedig Saunders Lewis.

Ydi, mae'r winllan naturiol hefyd dan warchae ac wrth gyfeirio at fwy nag un rhywogaeth y mae gofidio ei fod yn prinhau.

"Bu harddwch cymhleth y tirwedd Cymreig dan ymysodiad dros yr hanner can mlynedd diwethaf," meddai gan feio mawredd galluoedd peiriannyddol dyn a'i ystyriaeth bitw o'r byd o'i gwmpas.

Diflannodd miloedd o filltiroedd o wrychoedd ac hyd at 90% o'r gweirgloddau heb sΓ΄n am rostiroedd a gweunydd - y cyfan oll ond yn rhan o'r pris a dalwyd am y pwyslais ar elw mewn amaethyddiaeth.

Y canlyniad yw fod erwau lawer o dir yn hesb o fywyd gwyllt.

Y frwydr wedi ei cholli?

"Byddai'r sinigiaid yn awgrymu bod y frwydr am gefn gwlad wedi ei cholli yn barod,; fod y mudiad cadwriaethol wedi ei rwymo mewn ymdrech olaf, enbyd, i gadw rhywbeth, unrhywbeth o dirwedd sydd wedi ei rhwygo," meddai.

Dydi o, fodd bynnag, ddim mor sicr ei bod ar ben arnom yn y cyswllt hwn ond y mae yn rhybuddio fod yn rhaid i agweddau newid.

"Mae'n wir," meddai, "nad mewn ychydig warchodfeydd y gorwedd tynged cefn gwlad a dyfodol bywyd gwyllt Cymru ond yn ffordd dyn o feddwl. Ac mae'n berffaith glir, os na fydd y ffordd honno o feddwl yn newid yn sylweddol . . . fe ddaw yn fater o bethau oedd yn arfer bod, ond nad ydynt mwyach."

Yn y cyfamser mae Welsh Wildlife yn ein tywys trwy wlad lle mae y pabi Cymreig, grugeiir duon, brain coesgoch, cornchwiglanod, llamhidyddion, geifr gwyllt, boncathod a'r wyrth yna o aderyn a achubwyd o ddibyn difodiant, y barcud coch, yn parhau yn bethau i ryfeddu atyn nhw - er bod rhai ohonyn nhw yn mynd yn brinach, brinach.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy