|
|
Straeon
chwaraeon
Pum stori gyda blas mwy arnyn nhw
Mehefin 2003
|
Tipyn o Gamp 1. Golygydd, Delyth George. Gwasg Gomer. £4.50
Adolygiad gan Dylan Puw Rees.
Casgliad o bum stori am chwaraeon i rai rhwng naw a 13 gan bum awdur
gwahanol, Elin Meek, Mair Wynn Hughes, Helen Emanuel Davies, Emily
Huws a Meleri Wyn James.
Yn Diwrnod Ola'r Rali cawn hanes Carwyn a'i dad yn mynd
i Bencampwriaeth Ralïo'r Byd.
Tydi ei dad fawr o isho mynd ac mae'n fwy cyndyn o fwynhau pan yn
sylweddoli fod un o'r gyrwyr, Paul Roberts, yn gyn ddisgybl iddo yn
yr ysgol, ac yn un drwg hefyd.
Yn y rali mae Paul yn curo o bell ffordd ond mae'n cael damwain ac
mae'r car yn mynd i ffos.
Mae Carwyn a'i dad yn gweld hyn ac yn helpu ac mae Paul yn mynd ymlaen
i ennill y ras. Ond wrth ddreifio i ffwrdd mae car Paul yn taflu mwd
dros dad Carwyn ac mae'n gwylltio ac yn mynd adref.
Y noson honno mae Paul yn sôn am ei fuddugoliaeth ar y teledu ac mae'n
diolch yn gyhoeddus i Carwyn a'i dad. Mae hyn yn plesio tad Carwyn
yn ofnadwy ac mae'n ail feddwl am Paul yn enwedig pan yw'n cael llythyr
o ddiolch ganddo a gwahoddiad i weld y ffatri geir!
Yn Pwy yw'r Gorau? mae Meic yn caru beicio cefn gwlad
ac mae ei dad yn cael beic ail law iddo. Ond mae pawb arall hefo beic
modern newydd sbon a neith y beic ail law ddim mo'r tro, neu felly
mae Cai yn feddwl,
'Does ganddo fo ddim gobaith efo'r rhacsyn yna, yn nac oes, bois?'.
Ond ar waetha y beic ail law, a sbeit Cai, mae'r ddau yn gorffen hefo'i
gilydd ond Meic sy'n ennill y ras!
Gewch chi ddyfalu pam.
Hanes Anna sydd yn Y Cochion am Byth! Mae Anna yn aelod
o dîm pêl droed sy'n cael cyfle i fynd i chwarae i Stadiwm y Mileniwm.
Ond mae'r dyddiad yn croesi efo dyddiad gêm arall mae hi wedi addo
mynd i edrych arni gyda'i thaid.
Gan fod ei thaid yn ddall Anna sydd yn sylwebu iddo. Mae Anna yn siomedig
nad yw hi'n gallu mynd ond yn gorfod mynd efo'i thaid. Ond yn y gêm
honno mae sylwebydd proffesiynol yn clywed Anna ac yn cynnig iddi
hi sylwebu ar gêm Cymru.
Mae Anna wrth ei bodd ac mae hi, ei thaid a Ceri ei ffrind yn cael
mynd i Stadiwm y Mileniwm wedi'r cyfan.
Yn Pilipala yn y Bola mae Jodi yn dda yn nofio strôc
pili pala ac mae'n ennill y gala. Mae ei thad yn gweld fod ganddi
dalent ac mae'n gwneud iddi godi yn gynnar i fynd i nofio ond ar ôl
ychydig o wythnosau mae Jodi wedi blino ar hyn ond mae ei thad yn
ei gorfodi.
Un diwrnod mae'n dweud wrth ei thad ac mae o'n sylweddoli ei fod wedi
bod yn ei gwthio ac yn dweud fod ddrwg ganddo.' Dy fywyd di ydi o,
wedi'r cyfan.'
Yn y stori olaf, Chwarae Teg!, mae Mici a Laura yn dadlau
pwy yw'r pêl-droedwyr gorau, bechgyn yntau merched. Oes modd cytuno?
Y stori wnes i fwynhau fwyaf oedd Y Cochion am Byth!
Dwi'n chwarae pêl droed fy hun ac yn gwybod pa mor bwysig ydi medru
chwarae efo'ch tîm chi bob tro.
Roeddwn i yn gweld Anna yn dda iawn wrth ei thaid, ac wrth gwrs mae
hi'n cael gwobr am hynny yn y diwedd.
Mae yna rywfaint o'r da yn ennill y dydd ym mhob un o'r straeon a
dwi'n meddwl fod y ffordd mae'r awduron yn defnyddio digwyddiadau
chwaraeon i ddangos hynny yn llwyddiannus.
Y stori wnes i ei mwynhau leiaf oedd yr olaf, Chwarae Teg!
- stori ryfedd a braidd yn anodd i'w deall wrth i'r amser yn newid
a mynd yn ôl ac ymlaen.
Mi wnes i fwynhau darllen y llyfr yma. Roedd o'n apelio at rywun fel
fi sydd ddim yn darllen llawer am fod y straeon yn fyr ac wedi eu
lleoli ym myd chwaraeon.
Gan mai Tipyn o Gamp 1 ydi'r teitl dwi'n gobeithio y
bydd yna un arall reit fuan.
|
|
|