Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Y Tebot Express
Pigo ar Tebot Express

Arbrawf sgwennu nofel ar y cyd

Mehefin 2003

Y Tebot Express'. Nofel Ni BT. Gwasg Carreg Gwalch. £3.99

Adolygiad gan Meirion P. Rees

Dyma lyfr unigryw, llyfr sydd wedi ei greu gan ddisgyblion o rhyw 17 o ysgolion Cymru.

Rhan o ymgyrch BT i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg oedd yr arbrawf gyda rhyw ddau neu dri o ddisgyblion o bob un o'r ysgolion yn cael cyfle i gyfrannu i'r nofel.

Mae'n rhaid dweud imi gael tipyn o sioc wrth ei darllen.

Siomi o'r ochr ora

Oherwydd y ffordd y crewyd y nofel, nid oeddwn yn disgwyl llawer pan eisteddais i lawr i'w ddarllen ond cefais fy siomi o'rr ochr orau gan fod y stori wedi ei hysgrifennu mewn modd slic iawn gan symud o un digwyddiad i'r llall yn rhwydd a chynnal diddordeb y darllenwr.

Mae'r iaith yn gyfoes ac er bod llawer o ddefnydd o fratiaith mae hyn yn ychwanegu at yr apêl ac yn ei wneud yn llyfr hawdd i'w ddarllen.

Dilyn helyntion gweithwyr y Tebot Express, caffi byrgrs Americanaidd newydd yn Aberystwyth, mae'r llyfr.

Mae yna bob math o gymeriadau yn y nofel, rhai gwahanol a difyr iawn. Er engraifft Gwen, nain sydd yn hoffi mwynhau ei hun o dro i dro a chyn berchrenwraig y Tebot Aur cyn enw y caffi cyn i Brad ei brynu.

Er enghraifft, reit fuan yn y llyfr mae yna noson Garioci yn y Tebot Express a dyma'r disgrifiad a gawn o Gwen,

"Daeth Gwen drwodd o'r cefn yn gwisgo ffrog goch llawer rhy dynn iddi, ei hwyneb yn blastar o golur tywyll a gliter, a wig tywyll fel brws ar ei phen."

Tipyn o gymeriad mae'n amlwg.

Prif gymeriad

Er bod y crynodeb ar gefn y llyfr yn awgrymu mai Brad yw'r prif gymeriad anaml iawn mae'r nofel yn cyfeirio ato. Ar y dechrau a'r diwedd yn bennaf, heblaw pan fo'n gweiddi ar ei staff a bygwth eu diswyddo.

Mae yna ambell i ddigwyddiad digri yn y nofel. Er enghraifft yn ystod y noson Garioci, mae Gwen a Wil wedi cael gormod i yfed a Gwen yn camddeall Wil.

"Ti eisie bach o Chardonnay, Gweni annwyl?' gofynnodd Wil ac mae Gwen yn camddeall gan feddwl mai wedi gweld merch o'r enw Chardonnay o'r gyfres Footballers Wives mae Wil, 'BLE?....Ond fe ddwedest ti dy fod ti wedi gweld Chardonnay sy yn Footballers Wives, Wili bach."

Doeddwn i ddim yn rowlio chwerthin drwy'r llyfr er bod yna botensial iddo fod yn ddoniol iawn oherwydd y sefyllfaoedd hectig yn y caffi.

Plot yn siomedig

I ddweud y gwir siomedig oedd y plot.

Arwydd stori dda i mi yw bod cliwiau i'w darganfod fesul dipyn fel bod y darllenwr yn llawn chwilfrydedd am y darganfyddiad mawr ar y diwedd.

Yn anffodus does dim felly yn y llyfr hwn. Cyfres o ddigwyddiadau sydd yma ac nid plot sy'n adeiladu trwy'r llyfr.

Mae'r darganfyddiad mawr sydd tua diwedd y llyfr yn siom am nad oes yna baratoi ar ei gyfer yn y stori.

Prif syniad stori y nofel yw fod y Tebot Express yn goroesi yr holl helyntion sy'n digwydd yno ond mae yna rai pethau yn y stori nad ydyn nhw'n gwneud synnwyr o gwbwl nac yn cyfrannu at y stori.

Er enghraifft mae Max yn cael ei ddiswyddo am fod yn ddiog ond nid yw Saran yn cael ei diswyddo am ddod a tharantiwla a llygod mawr i'r bar byrgrs.

Be nesaf?

Ond nid yw'r plot gwan ac ambell i ddigwyddid allan-o'i-le, yn amharu'n ormodol a'r hyn sy'n gwneud y llyfr yma yn un da yw nad oes gan y darllenwr syniad beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf.

Weithiau mae'n amlwg braidd mai plant ac nid oedolion sydd wedi sgrifennu'r stori ac i fwy nag un person fod yn sgrifennu.

Nid yw pob digwyddiad yn ffitio i mewn efo gweddill y llyfr. Er enghraifft pan fo'r criw yn mynd i weld cyngerdd Stereophonics, does dim yn digwydd yno sy'n cyfrannu at y stori heblaw fod Tomos yn gwneud ffwl ohono'i hun.

Mae yna bethau eraill hefyd sy'n awgrymu mai tîm ac nid un person fu'n sgrifennu.

Tafodiaith yn newid

Mae'r holl nofel wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith y de ond mewn rhai llefydd mae'r dafodiaeth honno yn dew ofnadwy ond mewn llefydd eraill yn weddol denau.

Nid yw'r iaith yn gyson. Hefyd mae'n rhaid fod gwahanol aelodau o'r tîm hefo syniadau gwahanol am nodweddion y cymeriadau.

Er enghraifft, mewn un lle mae Saran yn ferch swil sy'n cadw i'w hun ond mewn pennod arall yn fuan wedyn mae hi'n ymddwyn fel pe byddai wedi bod yn ffrindiau â Blod ers yn ferch fach ac yn y gig Stereophonics mae hi'n dipyn o slwt.

Mae'r llyfr yma werth £3.99 ac mi wnes i fwynhau ei ddarllen. Mae'r stori yn symud yn sydyn ac yn slic iawn. Edrych ymlaen at y nesaf!
Oed - 12 - 18


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy