|
|
Mwy
na'i haeddiant i dad Y Storm
Astudiaeth drylwyr a difyr o fywyd a gwaith Islwyn
Awst 2003
|
Islwyn, gan Glyn Tegai Hughes, Gwasg Prifysgol Cymru, 2003, 354 tt,
Β£15.99
Adolygiad gan Grahame Davies.
Mae'n rhaid mai creadur digon arwynebol ydw i. Er fy mod wedi darllen
Y Storm, cerdd fawr y bardd William Thomas (Islwyn), mae'n
rhaid imi gyfaddef mai'r hyn a gofiaf fwyaf am yr awdur o'r Ynys-ddu
yw ei eiriau olaf honedig.
Mwy o uchelgais na chyrhaeddiad
Fe gofir i Islwyn druan golli ei ddyweddi, Ann Bowen, pan fu hi farw
yn annhymig yn 1853 ychydig cyn eu priodas arfaethedig, a dyna'r bardd
ifanc yn mynd ati i fynegi ei hiraeth a'i ddryswch mewn cerdd faith,
uchelgeisiol, sef Y Storm, cerdd a ddiwygiwyd ganddo yn nes
ymlaen hefyd.
Ychydig o'r gerdd sy'n glynu yn fy nghof, a theg yw dweud ei bod yn
fwy enwog yn gyffredinol am ei huchelgais na'i chyrhaeddiad.
Yr hyn sy'n glynu yn y cof yw'r geiriau yr honnir i Islwyn eu llefaru
wrth iddo farw, chwarter canrif yn ddiweddarach. Erbyn hynny, roedd
wedi priodi llysferch mam Ann Bowen drwy ei hail briodas (sΓ΄n am gynnau
tΓ’n ar hen aelwyd).
"Diolch iti, Martha, am y cwbl a wnest i mi. Buost yn garedig iawn.
Rwyf yn mynd at Ann 'nawr."
Cwrtais, yn ddiau, ond ychydig yn tactless o dan yr amgylchiadau,
a dweud y lleia'.
Ysgolhaig cydwybodol
Mae Glyn Tegai Hughes yn ysgolhaig llawer rhy gydwybodol i ganolbwyntio'n
ormodol ar fanion fel geiriau olaf honedig.
Mae'r cwestiwn yna yn cael ei briod le, wrth gwrs, gydag ymchwil yr
awdur yn dangos mai yn Saesneg yn Γ΄l pob tebyg y llefarwyd geiriau
olaf y bardd, gan mai dyna oedd iaith ei aelwyd briodasol, ac yn dangos
hefyd fod 'na o leiaf dri fersiwn gwahanol o'r hyn a ddywedodd wrth
ymadael Γ’'r fuchedd hon.
Na, nid rhyw gasgliad o anecdotau yn unig a geir yma - er bod yma
ddigonedd o rai blasus hefyd - ond enghraifft o ysgolheictod trylwyr
i ryfeddu.
Eir i fanylder ynglyn ag achau teulu'r bardd, am hynt a helynt ei
berthynas gydag Ann, am ei yrfa fel pregethwr, beirniad, cystadleuwr
eisteddfodol a golygydd, ac, wrth gwrs, am ei waith fel bardd.
Cywirdeb a sylwgarwch
Ni allaf ond synnu at faint yr ymchwil a aeth i mewn i'r gyfrol hon.
Mae'n hynod nid yn unig am grynswth ei chynnwys ond am gywirdeb a
sylwgarwch y feirniadaeth.
Mae Islwyn yn sicr wedi cael ei haeddiant gyda chofiannydd a beirniad
mor ddisglair yn treulio amser uwchben ei waith.
Bron na ddywedwn ei fod wedi cael mwy na'i haeddiant, achos, yn fy
nhyb i o leiaf, mae 'na fwy o niwl nag o fellten yn storm fawr Islwyn
o beth wmbreth.
Er mor feistrolgar yw dadansoddiad Glyn Tegai Hughes o destun Y
Storm, teimlais weithiau fod y gorchwyl o dreulio'r fath ddoniau
ar waith mor ddiffygiol ychydig fel cyflogi llawfeddyg i dorri torth
- manwl, yn sicr, ond mwy manwl nag yr oedd y deunydd yn ei haeddu.
Teimlo dros yr awdur
Teimlais dros yr awdur yn treulio llawer mwy o ofal yn dehongli ac
yn egluro gwaith crwydrol a digyswllt Islwyn nag yr oedd bardd hwnnw
ei hun wedi trafferthu ei wneud wrth lunio'i waith .
Yn wir, credaf imi synhwyro, er gwaetha' cydwybodolrwydd amlwg yr
awdur, ryw ddiffyg amynedd gydag Islwyn ar ei ran yntau o bryd i'w
gilydd. "Nid yw byth yn hawdd gwybod at beth yn hollol y mae Islwyn
yn cyfeirio", meddai mewn un man. Amen ddywedaf innau.
Wrth sΓ΄n am arfer Islwyn o greu geiriau cyfansawdd drwy eu clymu gyda'r
gair "byd", er enghraifft "byd-ddyfnder" a "byd-gwmwl", fe ddywed:
"Dichon mai ymgais oedd y ddyfais yn y lle cyntaf i gwmpasu popeth,
i gofleidio'r holl ddaear neu, a bod yn llai haelfrydig ein barn,
i bwmpio gwynt i enwau ac ansoddeiriau cyffredin at wasanaethy syniad
o arucheledd."
Un enghraifft o ddawn dweud yr awdur yw hwnna, a cheir degau tebyg.
Cyffyrddiadau o hiwmor
Ceir cyffyrddiadau da o hiwmor hefyd, fel pan sonnir am Islwyn yn
mynd ar daith bregethu i godi arian at yr Hen Gorff yn Sir Aberteifi:
"nid y dasg hawsaf, gellid tybio".
Dyna fo wedyn yn sΓ΄n am fynych gwynion Islwyn ei fod wedi'i lethu
gyda'i weithgaredd diflino fel beirniad ac eisteddfotwr:
"Fe'n temtir i ddweud os oedd yn mynd ati fel lladd nadroedd, mai
cyrff penbyliaid a gafwyd yn rhy aml ar faes y frwydr."
Rhaid
imi gyfaddef imi ddechrau diffygio braidd yn y penodau ar gefndir
deallusol Y Storm, ac yn ystod y dadansoddiad manwl ar y gerdd
ei hun.
Ond mae'r gyfrol yn bywiogi gryn dipyn yn y penodau canlynol wrth
inni ddilyn trywydd mwy bywgraffyddol ac olrhain ail briodas Islwyn
a'i yrfa ddiweddarach.
"Y methiant mwyaf ysblennydd yn hanes ein llΓͺn," oedd barn R Williams
Parry ar Islwyn, ac nid yw llyfr Glyn Tegai Hughes yn newid y farn
honno, nac yn ceisio gwneud ychwaith.
Yr hyn a wna yw gosod y cyd-destun hanesyddol a deallusol yn hynod
o lwyddiannus, a dadansoddi'r testun a seicoleg y bardd gyda threiddgarwch
a chraffter rhyfeddol ac, yn aml iawn, gyda ffraethineb sych.
Anodd yw dychmygu gwell llyfr ar Islwyn na hwn.
Bywiogrwydd Cymraeg
Fel nodyn i gloi, un o'r pethau sy'n synnu rhywun wrth ddarllen y
llyfr hwn yw bywiogrwydd bywyd Cymraeg yr hen Sir Fynwy yn ystod ail
hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn ferw o gapeli, cyfnodolion,
a chymdeithasau llenyddol Cymraeg- a hynny mewn mannau yr ystyriwn
bellach fel rhai Seisnigedig iawn, megis Brynmawr, Tredegar, a Chasnewydd.
Dyna gynhysgaeth gyfoethog y dylid ei dwyn mewn cof wrth i'r brifwyl
ymweld Γ’'r ardal hon yn 2004, yn sicr. Braf fyddai meddwl y daw o'r
ardaloedd hyn eto feirdd a llenorion fel Islwyn - er, wrth gwrs, y
gellir gobeithio eu bod ychydig yn fwy cryno eu harddull.
Cyfle i chi fynegi barn - ebostiwch
|
|
|