ΒιΆΉΤΌΕΔ


Explore the ΒιΆΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ΒιΆΉΤΌΕΔ ΒιΆΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Robin Chapman
Pwyso a mesur awdur Llyfr y Ganrif

Cyhoeddi bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis

Awst 2003

Nid yn unig y mae'n awdur Llyfr y Ganrif ac yn arloeswr y nofel Gymraeg fodern ond mae penderfyniad Islwyn Ffowc Elis i beidio a dal ati i sgrifennu yn ddirgelwch llenyddo nad yw wedi ei egluro.

Wedi cychwyn mor rhyfeddol o lwyddiannus nid yn unig fel nofelydd ond fel dramodydd radiohynod boblogaidd rhoddodd y gorau i sgrifennu cyn cyflawni yr addewid yr oedd pawb wedi ei weld yn ei waith.

Ac er iddo ef ei hun ddweud ei fod yn gweithio ar nofel fawr i goroni ei yrfa ni welodd hi byth olau dydd.

Dim rhyfedd felly fod diddordeb arbennig mewn bywgraffiad sydd newydd ei gyhoeddi gan T. Robin Chapman, Rhywfaint o Anfarwoldeb.

Meddai'r awdur "Mae'n amhosibl dychmygu ffurfafen lenyddol (na gwleidyddol na diwylliannol ehangach) Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif hebddo."

Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn Nyffryn Ceiriog yn 1924 ac mae'n byw heddiw yn Llanbedr Pont Steffan lle treuliodd bymtheng mlynedd yn ddarlithydd coleg.

Dylanwad Maldwyn

Yr oedd yn gwbl addas mai yn Y Babell LΓͺn ym Meifod yr wqythnos diwethaf y tynnwyd sylw at Rhywfaint o Anfarwoldeb gan y cyhoeddwyr ac y traddodwyd darlith amdano gan Robin Chapman.

Yn ystod ei gyfnod yn weinidog ym yng nghapel y Wesleaid ym Meifod yn y pumdegau y daeth y syniad iddo am yr enwocaf o'i nofelau, Cysgod y Cryman

Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ac yntau'n byw yn Llanfair Caereinion, yr ysgrifennwyd nofel sydd wedi hudo darllenwyr Cymraeg ym mhob degawd ers hynny.

Y sbardun i sgrifennu

Dywedodd Robin Chapman nad oes gronyn o amheuaeth mai ei brofiad o fyw yn Llanfair oedd y sbardun i ysgrifennu.

"Sylwodd llawer o adolygwyr a beirniaid bod harddwch Maldwyn yn gymeriad pwysig yn y gyfrol," meddai llefarydd o Wasg Gomer.

"Bron mor bwysig Γ’ Harri Vaughan, y prif gymeriad, mab fferm cyfoethog a breintiedig, sy'n fyfyriwr yn y Brifysgol ym Mangor ond sy'n dod o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth ac o'r herwydd yn troi ei gefn ar werthoedd ei dad - a'i gyfoeth," meddai.

Fel hyn y cofnodir y cefndir gan Islwyn Ffowc ei hunan, yng nghyfrol Robin Chapman:
Dau ddosbarth yn unig oedd yn fy hen ardal i, sef y bobl gyffredin a'r sgweier o Sais oedd yn byw yn y Plas. Ond yn y rhan hon o Faldwyn yr oedd graddfeydd cymdeithasol cymhleth. Nid Saeson oedd yn y ffermydd mawr, ond Cymry Cymraeg glΓ’n gloyw. Ac eto roedd y pentrefwyr yn edrych i fyny at y ffermwyr mawr a'u teuluoedd.

"Isaac Roberts y gof" ond "Mr Jones y Parc". Y ffermwyr mawr hyn oedd arweinwyr y gymdeithas, un efallai'n gynghorydd sir ac yn ynad heddwch, y lleill yn ddiaconiaid ne'n flaenoriaid yn y capeli.

Mi feddyliais, "Beth petai gan un o'r ffermwyr mawr hyn fab disglair, ac yntau, er ei anfon i ysgol breifat. . . yn mynd i'r Brifsgol ym Mangor, fy hen goleg i, lle byddai holl blant gogledd Cymru'n mynd yn y pedwar degau, ac yno'n troi'n erbyn crefydd a gwlediyddiaeth ryddfrydol ei deulu, oni fyddai cythrwfwl yn y teulu a'r ardal?

Llyfr y Ganrif

Dyna gychwyn y bestseller Cymraeg sydd wedi gwerthu bron i 50,000 ac a ddewiswyd gan ddarllenwyr Cymru yn llyfr Cymraeg y ganrif adeg dathliadau'r mileniwm.

Ar ben hynny, Islwyn Ffowc Elis oedd y llenor Cymraeg cyntaf i fentro ennill ei fywoliaeth o ysgrifennu a bu'n gyfrifol am weddnewid barn pobol am yr hyn yr oedd hi'n bosib ac yn dderbyniol ysgrifennu amdano yn Gymraeg.

Ond dydi'r darlun ddim mor syml a hynny gan i'r awdur hynod boblogaidd hwn gilio i'r cyrion ar yr union adeg yr oedd disgwyl am Y Nofel fawr ganddo.

Mae'n enciliad na chafodd erioed ei egluro'n llawn.

Rhywfaint o Anfarwoldeb : Bywgraffiad Islwyn Ffowc gan Robin Chapman. Gwasg Gomer.

Holi Robin Chapman

Cyfle i chi fynegi barn - ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the ΒιΆΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy