Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Cofiwch am yr eliffant!

Apelio am gymryd gofal o drysorau eglwysig sydd mewn peryg

Gorffennaf 2003

Eglwysi Cymru a'u Trysorau gan Edgar W. Parry. Gwasg Carreg Gwalch. £4.75.

Eliffant gyda thraed ceffyl, llwynog mewn dillad mynach, pelican â phedwar cyw yn ei nyth - dim ond rhai o'r symbolau annisgwyl sydd i'w gweld mewn eglwysi ar hyd a lled Cymru.

Ond er cymaint sydd i'w weld, gofid awdur llyfr sydd newydd ei gyhoeddi am hynodion eglwysig yw fod cymaint o 'drysorau' wedi eu colli dros y blynyddoedd.

Colli cyfoeth

Dro ar ôl tro y mae Edgar W. Parry yn cwyno am yr anfadwaith a fu yn ein heglwysi gyda chrefftwaith cain wedi ei rwygo a'i ddifetha a hyd yn oed ei losgi.

Mae'n galaru "gymaint y golled a gawsom trwy'r chwalu didrugaredd a fu ar waith coed cerfiedig gan y dryllwyr delwau."

A rhybuddia fod y perygl yn parhau gan alw'n daer arnom i fod ar ein gwyliadwriaeth i ddiogelu'r hyn sy'n aros.

Ymddengys nad anfadwaith bwriadol oedd hwn bob amser ac yn ei gyfrol mae'n nodi sawl enghraifft "lle mae'r eglwysi a'u cynnwys wedi eu difetha yn llwyr gan y rhai oedd yn eu hatgyweirio."

O ganlyniad, does yna ddim, erbyn heddiw, o'r gwaith coed gwreiddiol i'w weld yn y Gadeirlan ym Mangor.

Ffenestri godidog

Digwyddodd llawer o'r difrod y mae'n cwyno amdano yn ystod y cyfnod Fictoraidd ond ochr yn ochr â hynny bu'r Fictorianiaid yn gyfrifol hefyd "am osod nifer fawr o ffenestri lliw godidog mewn llawer iawn o eglwysi, yn ogystal â gwneud gwaith haearn addurnedig gwych."

Yr ochr gadarnhaol i bethau, er gwaethaf popeth, yw fod llawer o bethau gwych i'w gweld o hyd yn ein heglwysi a dywed mai un o ryfeddodau'r cyfnod presennol o ostyngiad mewn cynulleidfaoedd yw fod mwy a mwy o bobl yn mwynhau ymweld ag eglwysi hyd yn oed os nad yw hynny er mwyn addoli!

Trysorau'n llechu

Ac ymddengys na ddylai'r sawl sy'n chwilio am ryfeddodau gael ei ddallu i gyrchu'r mawr a'r ysblennydd yn unig, ychwaith.

"Yn yr eglwysi lleiaf a mwyaf diarffordd yn aml gellir gweld trysorau'n llechu; a'r trysorau hynny'n rhai amhrisiadwy. Ymhle arall y gallwn weld cymaint o drysorau sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd ac ymhle arall y cawn ni weld cymaint o waith coed cerfiedig a hynafol? Mae'r rhain yn drysorau gwirioneddol werthfawr ac yn llawn deilwng o'n sylw a'n gofal," meddai.

Mae'n cyflei y synwyrusrwydd arbennig yna a berthyn i'r profiad o ganfod gwaith crefftwyr sydd wedi hen adael y byd hwn:
"Wrth gydio yn y coed hyn heddiw a theimlo llaw y crefftwyr cynnar rydym yn pontio gagendor o dros bum can mlynedd . . . . Mae'r cyfrifoldeb yn pwyso'n drwm arnom," meddai.

Y dyfodol

Mae'r her o ddiogelu'r cyfoeth hwn yo'r pwys mwyaf i Edgar W. Parry:

"Ond beth am y dyfodol? Ydym ni am adael i'n heglwysi hynafol fynd yn adfeilion unwaith eto? Mae'r ffaith fod yn rhaid i nifer ohonynt gau yn sicr o fod yn creu problemau mawr cyn belled ag y mae'r trysorau hyn yn y cwestiwn. Beth sydd am ddigwydd iddynt?" meddai gan ddisgrifio rhai o'r sgriniau eglwysig sydd wedi goroesi fel "trysorau cenedlaethol".

"Ac yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd yn rhaid i ni fod yn barod i gymryd gofal ohonynt. Sut allwn ddisgwyl i gynulleidfa o ddeugain fod yn gyfrifol am ambell i drysor fel hyn?"

Dywed mai ei obaith yw y bydd llyfr fel ei un ef sy'n tynnu sylw at yr amryfal drysorau yn pigo cydwybod pobl i weithredu.

Cyfoeth y sgriniau

Mae peryg fod y gair trysorau yn rhoi camargraff yn y cyd-destun hwn gan mai sôn yn ydym nid am drysor yn yr ystyr gyffredin ond am gerfiadau ac addurniadau a'u tebyg sydd yn rhan hanfodol o adeiladau eglwysig.

Dyna'r sgriniau er enghraifft - dyfais yn wreiddiol i wahanu'r offeiriad a'r gynulleidfa:

"Roedd yn bwysig iawn fod y gwahaniaeth mawr rhwng yr offeiriad a'i gynulleidfa yn cael ei gadw mewn ffurf oedd yn eglur vi bawb. I ddangos hyn, codwyd barau o goed gyda lliain drostynt i gau'r allor o olwg y gynulleidfa, a dyna oedd y sgriniau cynharaf. Roedd yn weithred anghysegredig i unrhyw un heblaw am offeiriad, i fynd drwy'r llen

"Gyda threiglad y blynyddoedd daeth y sgrîn yn bwysig (ac) wrth i'r sgrîn ennill pwysigrwydd cai'r crefftwyr gyfle i ddangos eu gallu ac i greu'r rhwyllwaith arbennig a welir yn sgriniau 'r Canol Oesoedd," meddai.

Eliffantod a llwynogod!

Gwnâi'r hen grefftwyr ddefnydd helaeth o symbolau ac y mae pennod am hynny yn un ddifyr iawn yn cyfeirio at:

Sarff fytholegol a chanddi ail ben, ym mlaen ei chynffon, yn cynrychioli dichell.

Llwynog mewn dillad mynach yn pregethu i gynulleidfa o adar neu, yn Nhyddewi, llwynog mewn dillad merch gyda chadach am ei ben a theisen yn un law a phlât gwag yn y llall. Yn eglwys Gresffordd mae mewn pulpud yn pregethu i geiliog a naw o ieir!

Y Pelican
yn symbol o'r Crist croeshoeliedig oherwydd cred fod yr aderyn hwn yn bwydo'i gywion a'i waed ei hun.

Er bod sawl cerfiad o eliffant anaml, meddai Edgar W. Jones, y mae'r darlun yn un cywir. "Fe'i gwelir weithiau gyda thraed ceffyl a thro arall gyda chlustiau tebyg i rai ci!.

I gloi ei gyfrol mae'n cyfeirio mewn rhywfaint o fanylder at eglwysi penodol fel Llanfaes a Biwmares, Eglwys Fair ac Eglwys Dewi Sant Y Drenewydd, Llanengan ac yn y blaen.
Cyfrol ddifyr sy'n cynnwys nifer o luniau.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy