Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Dial am y gorffennol

Llofrudd yn dial am gamwri Cymry'r gorffennol

Gorffennaf 2003

Dial yr Hanner Brawd, Arwel Vittle, Y Lolfa Β£6.95
Adolygiad gan Catrin Jones


Wedi mwynhau taith gyffrous i Gymru 2082 yn nofel ddiwethaf Arwel Vittle, Talu'r Pris, roeddwn i'n awyddus iawn i weld beth oedd yn ein haros rhwng cloriau ei nofel ddiweddaraf.

Tra mai nofel antur oedd y llall, nofel lofruddiaeth yw ei ddewis y tro hwn a honno wedi ei gosod yng Nghymru heddiw.

Ond nid nofel lofruddiaeth gyffredin yw Dial yr Hanner Brawd. Unwaith eto mae dychymyg byw yr awdur ar waith.

Tra bo Cymry'r dyfodol yn 'talu'r pris' am lwfdra eu cyndadau yn y nofel ddiweddaf mae'r llofrudd yn gwneud ei orau i sicrhau na fydd Cymry'r dyfodol yn dioddef.

Cyfrannu at dranc

Dial ar yr unigolion hynny sy'n cyfrannu at dranc y cymunedau Cymraeg a'r iaith y mae.
Cymro Cymraeg i'r carn yw'r llofrudd, gwladgarwr eithafol sy'n dial ar y rhai y mae'n eu hystyried yn fygythiad - newyddiadurwr gwrth-Gymreig, aelod o'r Cynulliad a ffermwr cefnog sydd ΓΆ'i fryd ar wneud elw.

Ond yr hyn sy'n hynod am y llofrudd hwn yw ei fod yn mynnu gadael negeseuon ar ei Γ΄l yn y man y cyflawnodd y weithred. Negeseuon ar ffurf dyfyniadau o Bedair Cainc y Mabinogi!

Ydi mae'r llofrudd, neu'r Dialydd fel y'i gelwir, yn wr diwylliedig ac mae emosiynau cryfion iawn yn ei gymell i hela ei brae.

Trwy lygaid seicolegydd

Fe gawn ni'r darllewnyr gipolwg ar holl digwyddiadau'r nofel drwy lygaid Mathew; seicloegydd sy'n cynorthwyo hen ffrind coleg, y Ditectif Arolygydd Brynmor Davies, i ddatrys dirgelwch Y Dialydd.

Mae cynllun pendant i'r nofel gyda'r holl ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn gyfres o olygfeydd sy'n golygu y byddai'r cyfan wedi gweithio'n dda ar sgrΓ®n.

Mae digon yn digwydd yma i gadw'r darllenydd ar erchwyn ei sedd hyd y diwedd pan fo Mathew yn dod i ddeall meddwl Y Dialydd.

Blas Cymreig

Er imi fwynhau'r cyffro oedd yn ein harwain o un bennod i'r llall yr hyn a apeliodd fwyaf ata i oedd y ffaith fod y nofel wedi wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn naear Cymru.

Gwendid nifer o nofelau ditectif Cymraeg yn aml yw eu bod yn rhy debyg i'r llu o rai Saesneg sydd wedi eu cyhoeddi eisoes.
Ond mae stamp awdur Cymraeg yn amlwg ar y nofel hon.

Un elfen sydd i'w gyfrif am hyn yw dull dychanol yr awdur o ysgrifennu. Mae Arwel Vittle, trwy gyfrwng y cymeriadau, yn chwerthin ar ben y Cymry academaidd dosbarth canol Cymraeg a'u bywydau ffug.

Elfen arall yw fod delweddau a motifau'r Mabinogi yn gwau drwyddi.

Yn ogystal ΓΆ chael ein tywys i leoedd fel Aberhenfelen fe gawn gyfarfod rhai o'r cymeriadau - Math, Rhiannon, Branwen, Efnisien - maen nhw yma i gyd.

Dyma yn fwy na dim sy'n gwneud Dial yr Hanner Brawd mor wahanol ac yn llawer mwy na nofel lofruddiaeth yn unig.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy