Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Rhyw, lager a rhaffau

Digon o iaith liwgar wrth i ferched dynnu rhaf

Gorffennaf 2003

Nofel 'liwgar' ei hiaith am dΓ®m o ferched sy'n tynnu rhaff ydi Nofel y Mis ar gyfer Gorffennaf.

Mae Dal Hi! gan Caryl Lewis sy'n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn cael ei disgrifio fel "portread bywiog a benywaidd" o gefn gwlad y Gymru gyfoes.

"Mae hi'n yn nofel sy'n torri sawl record ym myd ffuglen Gymraeg, ymysg rhain y record am y swmp ac amrywiaeth mwyaf o iaith 'liwgar' ac am fod yn un o'r nofelau prin hynny i gael ei sgwennu yn nhafodiaith Ceredigion," meddai llefarydd ar ran y wasg.

Ychwanegodd mai aelodau tΓ®m tynnu rhaff merched Tafarn y Rhos yw'r prif gymeriadau.

Lot o sbort

"Maent yn paratoi at y twrnament tynnu rhaff cenedlaethol ac yn byw bywydau llawn iawn: 'Dim sex, drugs and rock 'n roll, ond yn hytrach: rhyw, lager a rhaffau!" meddai Mared Roberts o'r Lolfa.

"Mae'r nofel yma yn lot o sbort i'w darllen," ychwanegodd, "ond dim jest chic-lit ydi hi. Mae 'na themΓΆu dwys yn cael eu trafod hefyd, fel profedigaeth, perthynas yn chwalu a thyndra cymuned glos."

Cystadleuaeth yn y Steddfod

Er yn nofel y mis ar gyfer Gorffennaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod y bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol a hynny mewn twrnament tynnu rhaff y bydd Y Lolfa yn ei drefnu ar y maes.

Daw Caryl Lewis o Ddihewyd ger Aberaeron. Y mae'n gweithio i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni celfyddydol Cymreig.

Graddiodd o Brifysgol Durham ac mae nofel i'r arddegau ganddi, Iawn Boi? yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Medi yn rhan o gyfres Pen Dafad.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy