ΒιΆΉΤΌΕΔ


Explore the ΒιΆΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ΒιΆΉΤΌΕΔ ΒιΆΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Canu fel caneris

Cynnyrch plant a'u bardd

Mehefin 2003

Caneri Pinc ar Dywod Euraid gan Menna Elfyn. Cerddi Bardd Plant Cymru 2002-3 a Beirdd Ifanc Cymru. Darluniau gan Sarah Berry, Catrin Meirion Jones a SiΓ΄n Morris. Hughes. Β£4.99.

Adolygiad gan Lowri Johnston

Llyfr sy'n cynnwys cerddi gan Fardd Plant Cymru 2002-03, Menna Elfyn, a rhai o'r plant y bu hi'n gweithio gyda nhw dros y flwyddyn yw hwn.

Teithiodd Menna Elfyn i sawl ysgol yng Nghymru yn cynnal gweithdai barddoni gyda'r plant a'u hannog i ysgrifennu.

Llawn dychymyg

Gwelwn o ffrwyth eu llafur i'r plant fwynhau eu hunain yn fawr iawn - mae'n gasgliad hyfryd o gerddi creadigol ac yn llawn dychymyg.

Mae 59 o gerddi yn y gyfrol hon; deg gan Menna Elfyn a 49 gan blant.

Mae cerddi Menna Elfyn yn rhai reit hoffus a gellir dweud bod dylanwad y plant arni yn reit amlwg yma. Mae'n adrodd chwedl y pinwydd a'r caneri a Spike, cimwch 65 oed o Galiffornia, a llawer mwy, wrth gwrs.

Rhoi hyder

Ac wedyn down at gerddi'r beirdd ifanc. Yn sicr, mae'r gyfrol yn rhoi hyder inni fod yna lu o feirdd ifanc dawnus yng Nghymru - rhai, efallai, na fyddai byth wedi meddwl ysgrifennu cerdd ond wedi llwyddo'n wych.

Cawn gipolwg ar feddyliau blant Cymru a beth maen nhw'n poeni amdano. Diddorol oedd gweld elfen o fyd natur yn ymddangos sawl gwaith yn y cerddi megis, Y Goedwig Law, Llyn Padarn a Hydref.

Mae yna hefyd lawer o gerddi am anifeiliaid er enghraifft, Pilipala, Y Robin Goch, Dafad, Alarch, Y Wiwer.

Yn sicr mae'n amlwg bod byd natur yn bwysig iawn i'r plant.

Gwelwn hefyd beth sy'n poeni'r plant; Anobaith, Bachgen Bach Unig a Pam Bywyd?

Ysgrifennodd Thomas Coombe a Katie Skuse o Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Abercarn yn Bachgen Bach Unig;
Bachgen yn eistedd ar y wal.
Meddwl am gi - heb ffrind
A phawb yn chwerthin am ei ben.
Coes yn brifo.
Eisiau Mam a Dad.

Cysglyd, breuddwydiol ac unig.


Cerdd drist ac eithaf personol yw hon ac mi oeddwn i yn ei hoffi gan ei fod yn dangos teimladau'r plant a'r hyn y maent yn poeni amdano. Mae'r plant yn agor eu calonnau ac yn dangos beth sy'n mynd ymlaen yn eu meddyliau.

Ychwanegu lliw
Mae'r lluniau yn y gyfrol hefyd yn ychwanegu ychydig o liw i'r llyfr ac yn dod Γ’'r cerddi yn fyw i ni.

Un gerdd hoffais yn fawr oedd Pwy sy' na? gan SiΓ΄n Edwards o Ysgol Cynddelw, Wrecsam. Cerdd yw hi am y wΓͺ ac mae'n gorffen gyda'r linell;
A dyna wers fawr i chi -
Peidio trystio neb ar y wΓͺ.


Mae'n debyg fod y plant wedi dysgu sut i gyflythrennu ac i gymharu gan fod y rhan fwyaf o'r cerddi yn llawn o rhain, gan eu gwneud yn hwylus i ddarllen.

Felly, cyfrol hwylus a diddorol, sydd bendant werth ei ddarllen. Mae'n addas i bawb - o bob oedran. Ac rwy'n siwr mae nid dyma'r tro olaf y byddwn ni'n clywed gan y beirdd ifanc - gobeithio eu bod wedi cael eu hysbrydoli i ysgrifennu mwy i'r dyfodol.




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the ΒιΆΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy