Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan Gwanas
Gwrach gan Gwanas

Nofel feiddgar am wrach a'i bryd ar ddial ydi nofel ddiweddaraf Bethan Gwanas - ac mae cyfle i chi ddarllen rhan ohoni yma


Mai 2003

Bydd nofel newydd feiddgar gan un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru yn cael ei chyhoeddi ar Fehefin 2.

Bydd Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas yn herfeiddiol ac yn rhywiol. Mae'n cael ei disgrifio fel Buffy the Vampire Slayer yn cyfarfod y Stafell Ddirgel!

Mae'n troi o gwmpas Siwsi Owen - merch hynod ddeniadol sydd yn symud i fyw i fwthyn o'r enw Garth Wyllt mewn ardal wledig.

Gwneud i bobl ddioddef

Buan iawn y down i sylweddoli fod llawer iawn mwy i Siwsi nag y mae neb wedi feddwl a phen dim mae pobl sydd wedi'i phechu yn dechrau dioddef oherwydd ei galluoedd rhyfeddol.

Mae Bethan Gwanas yn un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru ymhlith oedolion a phlant fel ei gilydd ac esgorodd ei chyfrol am ferched yn chwarae rygbi, Amdani, ar gyfres deledu boblogaidd.

Magwyd Bethan yn y Brithdir, Sir Feirionnydd, a mynychodd ysgol gynradd y pentref ac Ysgol y Gader yn Nolgellau.

Ond pan ofynnwyd iddi ymhle y cafodd ei haddysg ychwanegodd hefyd "y tu allan i Neuadd Rhydymain ar nosweithiau'r aelwyd!"

Astudio Ffrangeg

Yr adeg honno ei huchelgais oedd bod unai yn air hostess neu newyddiadurwraig a chyda hynny mewn golwg astudiodd Ffrangeg yn y coleg ond ar Γ΄l treulio blwyddyn yn Ffrainc fel rhan o'i chwrs bu'n gwneud gwaith VSO yn Nigeria am ddwy flynedd.

Wedi hynny bu'n gweithio gyda Radio Cymru cyn dychwelyd i'r coleg i baratoi i fod yn athrawes a bu'n dysgu Ffrangeg am dair blynedd cyn symud i weithio yng ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.

Chwarae rygbi

Yn ystod ei chyfnod gyda'r Βι¶ΉΤΌΕΔ y dechreuodd chwarae rygbi ond y garreg filltir lenyddol yn ei bywyd oedd cael ysgoloriaeth i sgwennu nofel am ferched yn chwarae rygbi.

"A dwi heb stopio sgwennu ers hynny," meddai.

Dair blynedd yn Γ΄l symudodd yn Γ΄l i fyw ym Meirionnydd.

"Dwi'n byw mewn hen dy cerrig gyda gardd fendigedig a llond gwlad o fywyd gwyllt," meddai.

Lle sy'nn swnio nid yn annhebyg i gartref Siwsi Owen yn Gwrach y Gwyllt fel mae'n digwydd!

Daeth sgrifennu yn waith amser llawn iddi. Mae'n cyfrannu colofn wythnosol i'r Herald Cymraeg a daeth rhagor o gyfresi teledu teledu i ddilyn yr Amdani gyntaf yn ogystal a nofelau fel Llinyn TrΓ΄ns a Bywyd Blodwen Jones i bobl ifainc.

Ei chyfrol ddiweddaraf ydi Byd Bethan a gyhoeddwyd y llynedd.

Y mae'n huawdl ynglyn a lles awduron a'u hawl i dal teg am eu llafur.

Beiddgar a heriol

Cyhoeddir ei nofel ddiweddaraf, Gwrach y Gwyllt, gan wasg Gomer.

"Mae hi'n feiddgar, heriol, llawn o gomedi a thywyllwch," meddai llefarydd ar ran y wasg. "Buffy the Vampire Slayer meets Y Stafell Ddirgel!"

Gwrach yw'r cymeriad canolog, Siwsi Owensy'n symud i fyw i ganol cymdeithas wledig Gymreig gyda'i bryd ar ddial yn ffyrdd mwyaf ofnadwy ar ddisgynyddion rhai a wnaeth gam ΓΆ hi yn y gorffennol.

Mae'n nofel afaelgar sy'n mynd i fod yn boblogaidd gyda darllenwyr o bob oed.

Meddai Bethan:

"Roedd y syniad o sgwennu nofel am wrachod wedi bod yn troi yn fy mhen ers blynyddoedd. Dwi ddim yn siwr iawn pam, cofiwch. Elfen o hud straeon plentyndod efallai, a dysgu wedyn am y ffeithiau erchyll am yr holl ferched diniwed gafodd eu cyhuddo a'u lladd dros y canrifoedd.

"Mwya ro'n i'n darllen a dysgu am wrachod, mwy ro'n i eisiau sgwennu'r storis,

"Mi fues i'n meddwl am y nofel hon am flwyddyn dda cyn dechrau ei sgwennu, ac ymchwilio'n fanwl am fisoedd wedyn, cyn cymryd blwyddyn dda arall i'w sgwennu.

"Ar adegau, roedd hi'n boenus, yn fy sigo go iawn, ac ro'n i'n aml yn teimlo fel ei thaflu drwy'r ffenest. Ond ar adegau eraill, roedd hi'n bleser pur i'w chreu, a'r stori yn sgwennu ei hun, bron."

i ddarllen rhan o'r nofel cyn ei chyhoeddi.











Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy