Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Llyfr doniol - yn codi'r felan

Druan o ffermwyr - druan o ddarllenwyr

Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002

‘Sna’m llonydd i’ ga’l! (2 gan Margiad Roberts
Gwasg Carreg Gwalch £4.50

Dwy seren
Adolygiad gan Dafydd Meirion

Does dim cof gen i imi agor llyfr doniol o’r blaen ac imi deimlo’n drist wrth ei ddarllen. Ond dyna wnaeth ‘Sna’m llonydd i’ ga’l.

Yn wir, mi gododd o’r felan arna i.
Os ydych chi â’ch bryd ar fynd i fynd yn ffarmwr, peidiwch â’i ddarllen o, neu ewch chi byth!

A dwn i ddim a ddylwn ei argymell i rywun sy’n ffermio'n barod; byddai o neu hi’n teimlo’n well wedi ei ddarllen o allu cydymdeimlo efo Ifor a Marian ynteu a fyddai o’n fwy tebyg o roi’r ffidil yn y to?

Yn erbyn y byd

Mae pawb a phopeth yn erbyn Ifor Corsydd Mawr - y tywydd, yr anifeilaidi ac, yn bennaf, y Ministri a’i rheolau, ei rheoladau, ei thagiau a’i ffurflenni.

A dylai’r awdur wybod cystal â neb. Dydy Margiad Roberts yn wraig fferm ei hun.

O dan y doniol, wedi’i lledaenu’n drwchus, mae neges - yn wi,r cri o blaid y ffermwyr. Ond a dydy’r neges yn mynd yn fwrn ar brydiau?

A fyddai’n well fod wedi cael Ifor allan o’i fferm a’i drafferthion am dipyn? Ond fel fysa Ifor yn ei ddweud, does ganddo ddim amser. Mae hi’n frwydr o fore tan nos, o un pen i’r flwyddyn i’r llall.

Rwy'n cofio cael yr un teimladau o ddarllen Grapes of Wrath gan John Steinbeck. Y ffarmwr bach yn erbyn y byd.

Y trogod ar ei warthaf

Mae’r ‘trogod’ neu’r biwrocratiaid ar ei ôl, yn ei orfodi i wneud hyn ac yn ei orfodi i beidio gwneud y llall.

"Roedd pob tag mawr melyn yn costio pumpunt yr un a phob un yn fawr ac yn felyn er mwyn i’r dynion o’r Ministri fedru darllen y rhifa o bell er nad oedd y rhan fwya ohonyn nhw’n gwbod y gwahaniath rhwng buwch a hwch."

A phobol felly sy’n poeni Ifor, bobol wnaeth erioed ‘ddiwrnod go iawn o waith’.

"Doedd yr un o’r holl fiwrocratiaid a ddaeth yno i’w cynghori hi wedi dangos unrhyw awydd na bwriad o gwbwl i sefydlu ei fusnas ei hun," meddai Marian wrth iddi geisio sefydlu busnes Te Bach i ddod ag arian ychwanegol i’r fferm.

Mae Ifor yn rhestru faint o waith sydd yna efo anifeiliaid a hynny er mwyn ceisio gwneud elw bychan - hynny yw, os na wnaiff y Ministri atal ei sybsidi.

"’Da ni wedi bwydo, bugeilio, dipio, cneifio, marcio, doshio, injectio, trin traed, tendio, lapio gwlân ... porthi, bugeilio ... nes ’da ni’n dau ar ’n glinia. A ’da chi’n dwad yma un pnawn yn ych dillad glân a’ch dwylo meddal ac yn deud ’n bod ni’n twyllo hefo’r cyfri am nad yda chi’n fodlon derbyn mai heddiw farwodd y ddafad ’na."

O un trafferth i'r llall
Mae Ifor o un trafferth i’r llall, ac yn rhedeg drwy’r stori mai’r ffaith ei fod wedi cael cic gan fuwch yn ei benglin ac na all wneud yr amser i fynd i weld y meddyg.

Heb yr hiwmor, dwi’n siwr y byswn i wedi rhoi’r llyfr i lawr cyn cyrraedd ei hanner.

Ond dwi’n credu y dylai pawb ei ddarllen. Mi rydan ni i gyd yn bwyta cynnyrch y ffermwr ac efallai rhoith y llyfr yma rhyw syniad na nid allan o baced a thun y daw pob dim, ac efallai - ni bobol y dwylo meddal a’r job naw tan bump - y bydd gennyn ni rhywfaint o gydymdeimlad â phobol y pridd.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy