Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr
Yr hen ffordd - Geltaidd - o weld pethau

Cyfrol arloesol am weledigaeth gelfyddydol yr hen Geltiaid

Dydd Iau, Rhagfyr 12, 2002

Mae un o gerflunwyr amlycaf Cymru yn "tanseilio'n llwyr" y syniadau traddodiadol ynglyn ΓΆ chelfyddyd y Celtiaid mewn llyfr newydd.

Mewn astudiaeth sy'n cael ei disgrifio fel un "arloesol" a "newydd" gan y cyhoeddwyr, mae John Meirion Morris yn trafod perthynas celfyddyd y Celtiaid ΓΆ'u credoau.

"Cyflwynir safbwynt cwbl newydd ar elfennau'r gelfyddyd hynafol yn Y Weledigaeth Geltaidd, ac y mae disgwyl i'r gyfrol fod yn gyfraniad ysgytwol i'r drafodaeth," meddai'r Lolfa.

Mwy na phatrymau

Ac meddai John Meirion Morris: "Y mae f'y astudiaeth wedi f'y argyhoeddi fod mwy i'r gelfyddyd soffistegedig hon na phatrymau addurniedig a siapiau amwys, chwedl llawer o sylwebyddion.

"Y mae fy astudiaeth wedi fy argyhoeddi hefyd, fod i gelfyddyd La Tène seiliau crefyddol.

"Myfyrdod neu deimlad mewnol sy'n rhoi bod i'r gweithau hyn, symbolau ydynt. Y maent yn 'cynrychioli' pwerau ac y mae'n amlwg i mi fod gan yr artistiaid, a'r gymdeithas yma ymwybyddiaeth sylfaenol o gylch bywyd ac o lonyddwch ysbrydol."

Dros 150 o ddarluniau

Er mwyn esbonio ac atgyfnerthu ei ddadl a dangos cysondeb rhyfeddol themΓΆu y gelfyddyd, defnyddia'r awdur enghreifftiau o greiriau Celtaidd o bob rhan o Ewrop, ac mae'r gyfrol yn cynnwys dros 150 o ddarluniau llawn-lliw trawiadol.

Cymherir celfyddyd y Celtiaid gyda chelfyddydau eraill, hynach a chyfoes.

Cyfeirir at chwedlau hynafol fel y Mabinogion yn ogystal, 'Mae edrych ar ein traddodiad llenyddol ni'r Cymry drwy sbectol theori John yn brofiad cyffrous iawn.' meddai Mared Roberts o'r Lolfa.

"Mae'r un themΓΆu yn codi dro ar Γ΄l tro, bron nad ydi rhai o'r delweddau ar y creiriau yma, fel y panel o Bair Gundestrup sy'n ymddangos ar glawr-Γ΄l y gyfrol yn cynnig animeiddiad o rannau o'r Mabinogi!"

Hawdd ei darllen
Er yn bwnc astrus, mMae'r cyhoeddwyr yn disgrifio Y Weledigaeth Geltaidd fel cyfrol "hawdd iawn i'w darllen a'i deall" ac i'r diben hwnnw bu'r Athro Gwyn Thomas yn cydweithio gyda John Meirion Morris i greu fersiwn "hylaw a chyffrou" o ymchwil yr awdur.

"Fel gweddill Cyfres Celf 2000 - Cymru o Hud, Aneurin a Delweddau o'r Ymylon - mae'r diwyg a'r cynhyrchu o safon uchel," meddai Mared Roberts o'r Lolfa.

"Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi sawl llyfr uchelgeisiol iawn yn ddiweddar, heb os, Y Weledigaeth Geltaidd ydy pinacl hyn. Rydan ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed ymateb pobl i'r gyfrol.'

Cerflunydd dylanwadol

John Meirion Morris yw un o gerflunwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Dywed Iwan Bala fod ei waith "yn gyfoes ac yn oesol ar yr un pryd."

Ysbrydolir ef gan gelfyddydau hynafol, a chan gelf a chwedloniaeth y Celtiaid yn arbennig, a dyna oedd dechreuadau y gyfrol hon.

Y mae'n byw ym Mrynrefail, Arfon, ond daw yn wreiddiol o Lanuwchllyn.

Y Weledigaeth Geltaidd gan John Meirion Morris. Y Lolfa. Β£24.95 (clawr caled) 0 86243 554 4

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy