Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Trafod Trons

Ditectif brith ar drywydd cyfrinach trons budur

Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002

Ydy Trons yn pants?

Trons gan Dafydd Meirion.
Tair seren
Adolygiad: Alun Lenny

Nawr dyma lyfr lliwgar. Hiwmor du mewn iaith goch yn son am aelod o'r glas yn canfod llofrudd drwy ddadansoddi stwff brown (wel beth 'y chi'n ddisgwyl mewn llyfr hiwmor ty bach ?).

Stori Agatha Christie

Mae'r senario'n debyg i'r hyn geir gan Agatha Christie.
Ledi Margaret Gwynne yn cael ei chanfod yn farw. Fe allai'r llofrudd fod yn un o hanner dwsin o bobol - ond dyna lle ma'r tebygrwydd 'da'r hen Agatha'n gorffen.

Arwr (gan ddefnyddio'r gair yn yr ystyr ehangaf bosib) y nofel (ditto) yw Sarjant Dic Huws o Arfon CID - cymeriad sydd wedi camu'n syth o'r hen gyfres deledu Glas y Dorlan dybiwn i.

Plisman o'r 'hen deip' yw Huws - neu Dic Bonc i'w ffrindiau. Sef un sy ddim yn cydnabod awdurod ac yn treulio mwy o'i amser mewn tafarn na gorsaf heddlu.

Yr unig gliw

Yno, mae'n cadw cwmni i Llew'r Hack, gohebydd o'r un anian. Gyda chymorth Hanna Banana (peidiwch gofyn) mae'r tri'n mynd ati i geisio canfod pwy laddodd Lady Margaret.

Yr unig gliw yw pâr o drons oedd wedi'i wthio i geg y corff.

"Trons, myn uffar i...ac un posh hefyd. Un sidan...' edrychodd Huws i mewn iddo ' ond dydy o ddim yn un glân....ma na sgidmarc arno fo".

Y sgidmarc hwnnw fydd yn darparu'r dystiolaeth DNA allweddol i ganfod y llofrudd.

Ond wrth gwrs, bydd yn rhaid i Ddic a'i ffrindiau gasglu deunydd cyffelyb gan y bobl mae nhw'n eu hamau - a hynny heb iddyn nhw wybod.

Hiwmor ty bach yn llythrennol.

Nid dros frecwast

Dyw Trons ddim yn llyfr i'w ddarllen dros frecwast !
R'oedd llyfr cyntaf Dafydd Mei - Pi Ar - yn wreiddiol ac yn ddigri ond ofnaf nad yw'r fformiwla wedi gweithio cystal yn Trons er bod yna ambell i gic fach gomic ynddo : "Trons jentlman ydy hwn. Un silc. Does 'na ddim rhai fel'ma i'w cael yn Sir Fôn."

Sy'n atgoffa rhywun o'r slyr enwoca erioed at bobol yr ynys gan Daniel Owen - "Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef."

Yn anffodus, prin yw'r dychan yn Trons ac yr ‘odd rhywun yn disgwyl mwy gan gymeriadau fel Derfel Dafydd, y cyflwynydd teledu a Deiniol Jones, yr aelod Cynulliad.
Collwyd cyfle.

Mae'r llyfr yn fyr iawn - dim ond 123 tudalen ond, ar y llaw arall, mae gormod o bwdin yn tagu ci.

Chwilio am anrheg
Mae'n llyfr hawdd i'w ddarllen. Y brawddegau'n fyr, a geiriau'r cymeriadau'n plethu'n rhwydd gyda geiriau'r awdur ac ar ôl chwarter canrif o Radio Cymru ni ddylai’r un Cymro na Chymraes gael gormod o drafferth gyda’r dafodiaith.

Bwysicaf oll, fe allai Trons - o ran testun, iaith ac arddull - apelio at bobol ifanc na fyddai byth yn darllen Cymraeg.

Os ydych chi'n chwilio am anrheg rhad i'ch nai pymtheg oed, fe allai prynu hwn iddo ddatrys problem a rhoi tipyn o street cred i chi'r un pryd.

Os 'y chi'n bymtheg oed - prynwch e eich hun. tair seren

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy