Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Trysorau Penfro

Ond ambell i fardd yn eisiau mewn cyfrol newydd

Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002

Cerddi Sir Benfro. Golygydd: Mererid Hopwood. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. £6.95
Pedair seren
gan Gwyn Griffiths


Roeddwn i wedi prynu Cerddi Sir Benfro) ac wedi anghofio am hynny pan ddaeth copi arall drwy’r post â chais am adolygiad.

Wedyn y sylweddolais fod gen i gopi yn barod. Rhaid na wnaeth lawer o argraff arna i yn y lle cyntaf. Ond wedi gorfod ei darllen yn ofalus fe wnaeth argraff arnaf.

Cerrig a chromlechi yn or-amlwg

Mae’n gasgliad, fel gweddill y gyfres mae’n debyg, o gant union o gerddi, pob un am y sir neu ran ohoni.

Mae thema’r cerrig a’r cromlechi a’r mynyddoedd yn or-amlwg a gwneir yn fawr o Waldo Williams – ei gerddi a cherddi amdano.

Wn i beth fyddai e’n y'i feddwl o’r moli mawr arno sydd mor gyffredin bellach.

Diolch, felly, am Englynion y Tato i’n hatgoffa am ddoniolwch a direidi Waldo. Er mai mewn englyn Saesneg yng nghanol y casgliad y cawn yr unig gyfeiriad Sir Benfroaidd – at y Down Belows - i gyfiawnhau eu cynnwys yn y gyfrol.

You’re all right with Early Rose – O, Kerr’s Pink
Are spuds fit for heroes.
And up to date Potatoes
Be large with the Down Belows.

Cefais y mwynhad mwyaf yn ail-ddarllen y nifer o gerddi o waith W. R. Evans sydd yn y gyfrol, nifer ohonyn nhw yn nhafodiaith y fro ac un, Y Frwydr, yn ein hatgoffa o frwydr lwyddiannus trigolion y Preseli i gadw’u tir rhag rhaib y Swyddfa Ryfel.

Y dafodiaith

Roeddwn yn falch o weld cynifer o gerddi mewn tafodiaith – Pwllderi Dewi Emrys, wrth gwrs, sawl cerdd o waith W. R., un hyfryd gan Eirwyn George i Foel Cwm Cerwyn (ac yntau wedi dweud wrthyf droeon na sgrifennodd e erioed gerdd mewn tafodiaith!), ±Ê±ð²Ô³¦Ã¢°ù gan Rachel Philipps James a thinc tafodieithol neu ddau gan Ceri Wyn Jones.

Mae angen i ddeheuwyr fod yn fwy hyderus o’u tafodiethoedd a neb yn fwy na phobl Sir Benfro sy’n berchen ar un o’r hynotaf a mwyaf difyr ohonynt.

Tafodieithoedd sy’n cyfoethogi iaith.

Braf gweld sonedau yn y casgliad – a aeth y mesur mâs o ffasiwn? - ond buaswn wedi hoffi gweld mwy o waith yr arch-sonedwr T. E. Nicholas a hynny ar draul y pytiau o gywyddau Rhys Nanmor, William Llyn, Ieuan Deulwyn ac ati nad ydynt yn ychwanegu llawer at y casgliad.

Cefais fwynhad mawr o ddarllen cywydd Idris Reynolds, Porth-gain. Rwyf innau’n hoff iawn o dafarn y Sloop. A daeth dyddiau ysgol yn ôl wrth ddarllen eto Barti Ddu, I. D. Hooson. Ydy ynte mâs o ffasiwn erbyn hyn?

Beirdd ar goll

Ond ble mae W. J. Gruffydd, Y Glôg gynt, a Dilwyn Miles? Dydyn nhw ddim yn haeddu llithro o’r rhwyd.

Rwy'n cofio cerdd dafodiaith ardderchog i’r Cardi Bach gan W. J. Gruffydd yn ennill yng Ngwyl Fawr Aberteifi tua 1963.

Dylsai Dilwyn Miles – sonedwr medrus arall - fod yma.

Tywyslyfr crand o gyfrol y byddaf yn mynd ag e gyda mi ar fy nheithiau o gwmpas Sir Benfro yn y dyfodol.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy