ΒιΆΉΤΌΕΔ


Explore the ΒιΆΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ΒιΆΉΤΌΕΔ ΒιΆΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dr Bruce Griffiths a Mel Williams
Galw am gasglu gwaith y casglwr

'Mae'n bryd cael casgliad o gyfraniadau Bob Owen Croesor'

Dydd Iau,Hydref 3, 2002

Dylid casglu at ei gilydd holl waith yr hanesydd a'r hynafiaethydd, Bob Owen Croesor, a'i gyhoeddi yn un gyfrol.

Daeth yr alwad oddi wrth y Dr Bruce Griffiths wrth iddo agor ffair lyfrau ail law yn Y Bala ddydd Sadwrn, Medi 28, 2002.

Miloedd o lyfrau

Ar lawr y ffairTrefnwyd y ffair gan Gymdeithas Bob Owen sydd hefyd yn cyhoeddi'r cylchgrawn, Y Casglwr, ac yr oedd yno gryn 60,000 o lyfrau ail law Cymraeg neu Gymreig ar werth gyda hyd yn oed y Llyfrgell Genedlaethol Γ’ bwrdd yno.

Teithiodd cannoedd o gasglwyr llyfrau o sawl rhan o Brydain i'r ffair a oedd yn rhan o ddathliadau chwarter canrif sefydlu'r Casglwr ac i gofio un o gasglwyr llyfrau hynotaf Cymru, Bob Owen Croesor a fu farw ddeugain mlynedd yn Γ΄l.

Yr oedd 28 o werthwyr yn bresennol, yn fusnesau ac yn gasglwyr preifat, a phrisiau'r llyfrau yn amrywio o ychydig geiniogau i fil o bunnau.

Agorwyd y ffair gan y Dr Bruce Griffiths a ddisgrifiwyd gan drefnydd y ffair, Mel Williams o Lanuwchllyn, golygydd Y Casglwr, fel y pennaf o eiriadurwyr Cymru
.
Galw am gyfrol

Gwnaeth y Dr Griffiths dair apΓͺl a'r bwysicaf yn sicr oedd yr un am gyhoeddi mewn un gyfrol holl draethodau ac erthyglau yr anhygoel Bob Owen a ddaeth i amlygrwydd pennaf yn ystod y pumdegau gyda chyfres o gyfraniadau dadleuol a dadlennol yn Y Cymro am ffigurau amlwg o hanes Cymru dan y pennawd, Dryllio'r Delwau
.
"Os oedd cyfraniad Bob Owen gymaint ag a ddywedir pam nad yw Dryllio'r Delwau a chyfraniadau eraill ar gael yn un gyfrol," meddai'r Dr Griffiths, prif olygydd Geiriadur yr Academi.

Rhwymo llyfrau

Yr oedd apΓͺl bwysig arall a wnaed gan y Dr Griffiths yn adlewyrchiad o'i ddiddordeb personol mewn rhwymo llyfrau - galwodd am i gorff fel y Llyfrgell Genedlaethol drefnu cyrsiau rhwymo llyfrau ar gyfer amaturiaid cyn i'r grefft fynd yn angof.

"Yr ydw i yn annog diddordeb mewn rhwymo llyfrau cyn iddi fynd yn ben set," meddai'r gwr sydd ei hun yn rhwymwr llyfrau celfydd.

Apeliodd hefyd am gael gwyl debyg i'r un a fu yn Y Bala ddydd Sadwrn yn ne Cymru.

Bob Owen Croesor - ei hanes:

Cofiant Bob OwenGanwyd Bob Owen Croesor yn Llanfrothen, Meirionnydd, yn 1885.

Yyn ei ddydd yr oedd yn hynafiaethydd a chasglwr llyfrau hynotaf Cymru ac yn llais huawdl ac awdurdodol a aeth ati i ddryllio delwedd rhai ffigurau amlwg yn hanes Cymru.

Yn was fferm ac yn fugail wrth ei waith ni chafodd fawr o addysg ffurfiol ond daeth yn arbenigwr cydnabyddedig a barchwyd gan ysgolheigion blaenllaw ar bynciau fel achyddiaeth y Cymry a'r mudo cynnar o Gymru i'r Unol Daleithiau.

Bu'n glerc chwarel yng Nghroesor a maes o law yn ddarlithydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yn ddarlledwr radio difyr gydag apΓͺl arbennig i'w draddodi gwerinol a dirodres.

Yn ei gartref yng Nghroesor yr oedd ganddo gannoedd ar gannoedd o lyfrau a llawysgrifau yr oedd wedi eu casglu dros y blynyddoedd.

Bu farw yn 1962 a chyhoeddwyd cofiant iddo yn 1977 gan Dyfed Evans, gohebydd Y Cymro a ymwelai'n wythnosol ag ef ar gyfer cofnodi Dryllio'r Delwau i'w cyhoeddi.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the ΒιΆΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy