Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr X
Taith go wahanol

Nofel antur gan Geraint Lewis yn dilyn taith sbermyn yn ei ymdrech i ffrwythloni wy.

Dydd Iau, Awst 22, 2002

X gan Geraint Lewis.
Gwasg Carreg Gwalch. £5.95

Tair seren

Adolygiad gan Glyn Evans

Nofel antur yw hon ond un na welwyd ei hunion debyg o'r blaen yn y Gymraeg..

Dilyn y mae daith sbermyn yn ei ymdrech i ffrwythloni wy.

Ac os yr oeddych chi yn teimlo mai rhyw bleser munud awr yw cenhedlu nid felly mae hi'n edrych o safbwynt sberm sy'n ymgymryd ΓΆ'r daith gyffrous a pheryglus o'r ceilliau gwrywaidd i'r siambr fenywaidd lle mae wy yn cael ei ffrwythloni.

Enw'r sberm yn yr achos hwn ydi SAThAAG ac ef sy'n adrodd yr hanes. Ef yw arwr y nofel.

Syniad difyr a diddorol

Er bod y syniad yn un difyr a diddorol ni allai rhywun beidio ΓΆ holi wrth gychwyn ar y 234 o dudalennau a fyddai yma ddigon i gynnal darllenydd yr holl ffordd.

Fodd bynnag, cymerodd rywfaint o amser imi setlo'i lawr i awyrgylch y nofel a chael pethau'n glir yn y meddwl.

Un peth ydi darllen am rywun yn teithio ar draws Cymru - ar draws y byd, hyd yn oed - gan fod gennych amcan go lew lle maen nhw.

Peth arall yn hollol ydi cael eich arwain ar daith ar hyd ffyrdd gydag enwau fel fas defferens, chwarren Cowper, wrthetha ac ati ac fe gawn i fy hun yn troi'n aml at ddarlun o'r corff gwrywaidd a benywaidd mewnol sydd ar y ddalen agoriadol er mwyn gweld lle'n union yr oedd SAThAAG ar y map o'i fyd.

Gallwn fod wedi gwneud efo llun cliriach a mwy o ran maint na'r un sydd yna.

Map corfforol

Gyda'r map corfforol y mae yna hefyd lun o sbermyn gyda'r gwahanol rannau yn cael eu henwi fel bod yr anghyfarwydd yn gwybod am be mae SAAThAAg yn sΓ΄n pan yn cyfeirio at ei acrosom, sentriol ac yn y blaen.

Fel y dwedais, cymer ychydig o amser i ddod i arfer ΓΆ'r pethau hyn ond buan iawn y mae rhywun yn dod i ddallt y dalltings.

Byd a chynefin y sbermyn ydi corff darlithydd coleg o'r enw Iwan Morgan a gobaith y sbermyn - a Morgan, debygwn - yw cyrraedd wy yng nghorff Catrin Owen.

O gwmpas hyn y mae Geraint Lewis wedi creu byd rhyfeddol sy'n fywydegol gywir o ran amgylchedd ond o fewn y byd hwnnw rhoddir i'r cymeriadau sy'n cynnwys sbermau, hormonau ac ati briodoleddau yr ydym ni yn gyfarwydd ΓΆ hwy yn ein byw bob dydd ein hunain.

Dameg o'r cyflwr dynol
Yr hyn a gawn, o ganlyniad, yw dameg o'r cyflwr dynol ac ymwneud pobl ΓΆ'i gilydd ond y cyfan yn gweddu i'r darlun corfforol mewnol.

Clyfar - a difyr iawn ac nid heb ei hiwmor ychwaith gyda jΓ΄cs bach fel y sbermau mwy cyfoethog yn tarddu o Gerrigydrudion sy'n cael ei ddisgrifio fel, "Ardal foethus yn y gaill dde."

Cerrig a drudion - go brin fod angen eglurhad, does bosib.

A chawn 'gymeriadau' yn dweud pethau fel:

"Fy enw i yw ThThThAAS gyda llaw. Dwi'n dod o ardal Hafn Hadog, ardal yng Ngogledd Cawda'r gaill chwith," meddai yn ei acen frodorol, gan edrych yn ddwys.

Clybio a phartïo

Mae'r sbermau a'r creaduriaid eraill yn clybio, yn mynychu bariau ac yn partïo. Cychwyn y nofel gyda disgrifiad o noson yng nghlwb nos Androgen lle mae sioe drawswisgo o'r enw Genie Genie.

Llwydda Geraint Lewis i gynnal yr holl elfennau hyn yn ddeheuig iawn gyda'i ddull o drosglwyddo gwybodaeth am Iwan Morgan yn arbennig o lwyddiannus trwy gyfrwng sibrydion a chlecs ymhlith y sbermau.

"Mae (sic) nhw'n deud bod y cwrw ddim ar gael oherwydd bod y chwarren brostad ei hun yn ddiffygiol, a bod Iwan Morgan yn yr ysbyty am fod ganddo ganser y prostad," meddai un ohonyn nhw.

Cyn hynny, y stori oedd yn mynd o gwmpas oedd:

Mewn ysbyty
"Wel, yn un peth, cawsom ni gadarnhad lawr yma ddoe gan uwch swyddog niwrolegol, fod Mr Morgan mewn ysbyty," meddai ThThThAAS. "Roedd angen cadarnhau'r ffeithiau er mwyn rhoi taw ar y sΓ―on niferus, medda fo," ychwanegodd yn brudd.

Yna daw stori sy'n siwr o fod yn ddychryn i unrhyw sberm;
"Mae Iwan Morgan yn cael fasectomi," meddai o'r diwedd gan gladdu ei acrosom yn rhychau olewog fy nghynffon.

Ac meddai SAThAAg: "Mae'n rhaid bod y si am fasectomi arfaethedig Iwan Morgan wedi lledaenu drwy'r clwb fel tΓΆn mewn coedwig; gwelwyd terfysgoedd - rhwygwyd darnau amrywiol o feinwe gyswllt gan sberm rhwystredig ac ymladdai miloedd o wyau ei gilydd yn gwbl agored."

Da chi'n gweld bellach sut mae'r holl beth yn cael ei gynnal a ninnau wrth ddarllen ymlaen yn dod yn fwy a mwy cyfarwydd ΓΆ'r byd mewnol hwn lle mae marwolaeth rwber (gallwch ddychmygu beth yw hynny yn achos sberm) yn hunllef ac yn ofn a lle mae rhybuddion hadlifiad yn cael eu cyhoeddi pan yw'r hadau ar fin cael eu harllwys i gorff benyw.

Disgrifiad trawiadol

Mae yna ddisgrifiad trawiadol o'r weithred honno - o safbwynt y sberm! Gan atgoffa rhywun o ddisgrifiadau o filwyr, dyweder, yn 'mynd dros y top' mewn brwydr!

Mae'n ymwrthod ΓΆ themtasiwn amlwg i fod yn smyti a rhywiol awgrymog, fodd bynnag.

Wrth gwrs, mae angen mwy i gynnal nofel na medru cynnal yr awyrgylch hon a'r syniad hwn o gynefin ac y mae amhendantrwydd a ddaw SAAThAAG drwyddi a dal wy yn llwyddiannus.

O fewn y cynefin y mae cymdeithas yn cael ei chreu hefyd gyda gelynion a ffrindiau ymhlith y sbermau. Mae rhai yn aberthu, eraill yn twyllo.

Cariad a malais

O fewn y gymdeithas hon oddi mewn i'r corff dynol y mae cariad a malais ac ambell sbermyn mwy Thatcheraidd ei natur yn mynnu nad oes angen y fath beth ΓΆ chymdeithas beth bynnag:

"Dyw rhai ohonom ni ddim yn gweld yr angen am Gymdeithas," mynnodd. "Mae rhai yn gweld y cysyniad o gymdeithas yn rhwystr."

Dydi hi ddim y nofel hawsaf i'w darllen ac efallai ei bod fymryn yn rhy faith - sydd ddim yn rhywbeth yr ydych yn eich cael eich hun yn ei ddweud yn aml iawn am nofelau Cymraeg!

Fodd bynnag, mae'n un werth mynd i'r afael ΓΆ hi.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy