|
|
Trwy
lygaid plentyn
Nofel am deimladau cymysg
Dydd Iau, Mai 30, 2002
|
Lôn Gweunydd gan Ifor Wyn Williams.
Gwasg Pantycelyn. £6.
Adolygiad gan Glyn Evans.
Lôn Gweunydd yn y nofel hon yw’r ffordd droellog sy’n arwain o'r lle
mae’r bws yn aros tuag at fferm taid a nain bachgen bach sy'n ceisio
dygymod a mawrolaeth ei dad.
Mae o arwyddocâd oherwydd mai i lawr y ffordd hon y mae’n cerdded
gan ddisgwyl gweld ei fam, sydd wedi ei adael, yn cyrraedd ar y bws
- ond dydi hi ddim yn dod.
Does dim ond angen dweud hynna i sylweddoli fod yna wewyr, siom, teimladrwydd
a digalondid yn y nofel hon.
Mewn llaw llai crefftus nag un Ifor Wyn Williams gallai fod naill
ai'n sentimental, ddagreullyd neu'n llethol drwml.
Y gwrthwyneb sy’n wir. Mae’n ddarn o lenyddiaeth delynegaidd sy’n
cyfleu i’r dim ddiniweidrwydd ac ing plentyndod.
Mae’r sgrifennu'n rhagorol yn ei lwyddiant i gyfleu teimladau ac awyrgylch.
Angen gair o eglurhad
Ar
ddalennau cyntaf y llyfrl, fodd bynnag, fe ddylai fod yna rywbeth
yn egluro cefndir ei chyhoeddi achos nofel sy’n cael ei chyhoeddi
dair blynedd wedi marwolaeth ei hawdur yw hon.
Tra yr oedd yn dioddef o ganser y sgrifennodd Ifor Wyn Williams y
nofel a hynny ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod
Genedlaethol.
Yr oedd eisoes wedi ennill y Fedal honno gyda nofel drawiadol, Gwres
o’r Gorllewin, yn 1971, ond yn gweld y testun Pan ddaw yfory
yng nghystadleuaeth 1999 yn un a fyddai’n gweddu i thema oedd ganddo
wedi ei sylfaenu ar ddigwyddiadau yn ei fachgendod ei hun.
Bu farw cyn yr Eisteddfod ac er na fu’n fuddugol y tro hwn fe gafodd
ei waith ganmoliaeth uchel.
Ei gymar, Anne Roberts, sicrhaodd ei chyhoeddi yn awr ac yr ydym yn
ddyledus iddi am hynny gan fod hon yn nofel hunangofiannol gwerth
chweil.
Pwyslais ar ddeialog
Yn awdur 14 o lyfrau i gyd yr oedd Ifor Wyn Williams yn sgriptiwr
dramâu teledu hefyd. Dim rhyfedd, felly, ei fod yn awdur a roddai
bwyslais mawr ar grefft deialog ac mae olion pendant o’i afael sicr
a'i farn sicr ar y grefft honno fan hyn.
Trwy lygaid Robat Wyn y gwelir y byd yn y nofel hon a bu cof Ifor
Wyn Williams o’i blentyndod a'i werthfawrogiad o olwg plentyn ar y
byd yn gaffaeliad mawr iddo gan fod hwn yn ddadansoddiad treiddgar
sy’n deffro ynom ninnau atgofion am hen ddyheadau ac ofnau.
Mae’r defnydd o Lôn Gweunydd ei hun yn eithriadol o gelfydd a hithau'n
gysur ac yn fwgan bob yn ail.
Trwy sgyrsiau eraill
Yr un mor gelfydd yw’r ffordd y down i wybod sut un yw mam Robat Wyn
oddi wrth ddarnau o sgyrsiau y mae ef yn eu clywed - ef yn rhy ddiniwed
i sylweddoli eu gwir arwyddocad ond ni'r darllenwyr yn deall yn union
beth sy'n cael ei ddweud.
Dangosodd Ifor Wyn Williams o’r blaen gystal un yw am gyfleu y math
hwn o ddiniweidrwydd megis gyda’r milwr mewn yn ei nofel, Cyllell
yn y Pridd.
Er mai’r thema amlwg yw’r pechod anfaddeuol o siomi plentyn bach y
mae sawl elfen arall i’r stori ymddangosiadol seml hon megis yn y
berthynas rhwng Robat Wyn a’r Nain y mae wedi ei hanfon ati gan ei
fam. Nain sy'n ymddangos yn galed, yn ddideimlaid ac yn oeraidd tuag
ato nes y down i ddeall yn well pam y mae’n tagu pob tynerwch sydd
o'i mewn.
Wedyn, mae'r berthynas rhwng Robat Wyn a phlant eraill o'i oed a'i
berthynas â'i fam a'i chymar newydd.
Difyr hefyd yw sylwi ar y ffordd y mae dynion a merched yn cael eu
portreadu yn y nofel gyda’r dynion, at ei gilydd, yn greaduriaid hynawsach,
mwy tawedog a goddefol na'r merched yng ngolwg Robat Wyn (ac Ifor
Wyn?).
Dim ond 167 o ddalennau sydd i’r nofel ond o fewn y cwmpas cyfyng
hwnnw creodd Ifor Wyn Williams delyneg o nofel sy’n mynd i gyffwrdd
a sawl un a nofel hefyd nad yw heb ei fflachiadau o hiwmor.
Trueni na chafodd Ifor Wyn Williams weld ei chyhoeddi.
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|