|
|
Cofio
pendefig y casglwyr
Dathlu chwarter canrif Cymdeithas Bob Owen
Dydd Iau, Mai 30, 2002
|
Bu cyafrfod, ddydd Sadwrn, Mai 25, i ddathlu chwarter canrif
sefydlu Cymdeithas Bob Owen - cymdeithas a ar gyfer casglwyr a charwyr
llyfrau ac wedi ei henwi ar ôl un o gasglwyr llyfrau ac ymchwilwyr
dycnaf Cymru erioed, Bob Owen Croesor, a fu farw yn 1962.
Prif
waith y gymdeithas yw cyhoeddi Y Casglwr a sefydlwyd gan John
Roberts Williams a’i olygu ganddo tan 1995 ac wedyn gan Richard H.
Lewis ac yn awr gan Mel Williams o Lanuwchllyn.
Daeth dros gant i’r cyfarfod ym Mhortmeirion i ddathlu’r achlysur
ac i wrando ar ddarlith ar Bob Owen gan ei gofiannydd, Dyfed Evans,
a darlith arall gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Ioan Mai Evans. Dyma ei argraffiadau:
Mawrth 1977 o’r ganrif ddiwethaf - blwyddyn y ddwy gaib - y ganwyd
Y Casglwr ac y ffurfiwyd Cymdeithas Bob Owen, Croesor.
Dydd Sadwrn, yn ysblander Portmeirion dathlwyd chwarter canrif sefydlu’r
gymdeithas ac o son am ddwy gaib mae olion dwy ohonynt yn amlwg ar
y braenaru a fu ar y tir gan John Roberts Williams, a fu’n olygydd
Y Cymro, a Dyfed Evans a fu’n ohebydd iddo ar y papur hwnnw
cyn troi i fyd addysg.
Llwyddodd y naill i berswadio'r parablus a'r prysur Bob Owen Croesor
i gychwyn cyfres o erthyglau ar hanes ei fywyd yn Y Cymro.
Ysbeidiol fu’r ymateb a gorfu i’r gohebydd amyneddgar, Dyfed Evans,
fwrw iddi gan i fynych alwadau eraill gael y gorau ar y gwibiwr o
Groesor.
Fodd bynnag, nid ildiodd Dyfed Evans, nes casglu digon o ddeunydd
a’i galluogodd i gywain maes o law gyfrol werthfawr o bron i ddeugain
pennod - cyfrol sydd wedi gweld ei hail argraffu.
Rhifyn cyntaf Y Casglwr
Ac i droi at yr ysgogydd, John Roberts Williams, sylwer mai pennawd
cyntaf y rhifyn cyntaf o’r Casglwr a sefydlodd ac a olygygodd
yn ei flynyddoedd cyntaf oedd, "Wele Gychwyn" gydag atgynhyrchiad
o ysgythriad Samuel a Nathaniel Buck o dref Caerfyrddn yn rhodd gan
Olwen Caradog Evans i’r gymdeithas i’w rafflo.
Yr oedd yn rhifyn cyntaf a oedd yn drysorfa o erthyglau amrywiol yn
ymwneud a phob peth printiedig:
Guto Roberts yn cychwyn Hanes y Bodau Duon, yn trafod canmlwyddiant
Ieuan Gwyllt, un o genhadon amlycaf y Tonic Sol-ffa; Hebraeg o
Gaer, Beibl o’r Bala gan Gwilym H. Jones a stâd llyfrau y saer
maen, Twm o’r Nant.
Bri Papurau Bro - maes a phorfa newydd yn dod i’r golwg gan
Norman Williams - ac wrth ei gwtyn, Dyma fy Llyfrau Hanes LLeol,
pwnc arall oedd yn araf adfywio ac yn haeddu tair colofn gan neb Ilai
na Gomer M Roberts.
A
dyma godi'r sgwarnog fwya mi gredaf, Sgwennu Hanes Bob Owen
gan Dyfed Evans ac yna wrth ei ochr ar yr un ddalen John Eilian yn
meddwl mai o waed Cymreig yr hanai argraffydd cyntaf Gwasg Prifysgol
Caergrawnt .
Troi dalen cyn dod at lyfrgell Bob Owen yn cael ei disgrifio fel "dihareb
Genedlaethol hyd yn oed cyn yr Ail Ryfel Byd" gan neb Ilai na David
Jenkins.
Newid cywair ar yr un ddalen lle mae'r Athro Tom Parry yn ychwanegu
at ein gwybodaeth am Eiriadur y Dr.John Davies, Mallwyd.
Ac os nad yn teimlo yn rhy dda eich iechyd, mae Glyn Evans yn son
am ffisig Davies Machynlleth at leisiau pregethwyr,areithwyr cyhoeddus
a chantorion heb son am agoriad Ilygad o wybod sut Ie oedd yng Nghaernarfon
gan mlynedd mlynedd ynghynt gan Maldwyn Thomas.
Y mae dalen o gan mlynedd o recordio a chasglu hen luniau gan Ifor
Jones ac Elwyn Hughes.
Gan imi gyfeirio at y ddwy gaib, holwch chwithau beth ar y ddaear
sydd a wnelo hyn a chopi cyntaf Y Casglwr?
Amser i balu ac i arddio yn Gymraeg,yw y pennawd olaf and un
yn y copi cyntaf hwnnw fis Mawrth 77( y ddwy gaib).
Ystyriwch eto sylwadau E.D,Jones yn yr erthygl olaf un ar Gyfres
y Fil - dyddiau'r tudalennau aur.
Atgofion am Bob Owen
Oedd, yr oedd gan bawb ei atgof parod yn y dathlu. Cofio roeddwn i
pan ddaeth Bob Owen a'r Doctor Tom Richards - Doc Tom - ar y bws ysgol
i'r ty acw i aros tan gyda'r nos i fod yn barad i ddarlithio dan nawdd
y W.E.A.
Roedd yn amlwg ddigon nad oedd pethau'n rhy dda rhwng y ddau a chefais
wybod yn bur sydyn pan gododd Bob Owen o'i gadair a slgaret rhwng
ei fysedd gan fytheirio fod cymaint o enwau Cymry amlwg America wedi
eu gadael allan o'r Bywgraffiadur oedd newydd ei gyhoeddi.
Llosgwyd blotyn neu ddau ar fraich y gadair tra’r oedd Bob yn rhestru
degau o'r cymwynaswyr hyn and ni chynhyrfodd Doc Tom o gwbl na dweud
gair o'i ben.
Deuthum i deimlo mewn amser y dylid fod wedi anfon Bob i'r America
ar daith addysgol ar sail ei draethawd enfawr ar yr ymfudo yno a gwn
y byddai wedi hoffi hynny.
Yn anffodus - i waith ymchwil a fyddai wedi bod gyda'r pwys mwyaf
- ni fu’r fath daith.
O adnabod dau oedd yn eitha gwahanol i'w gilydd byddwn yn meddwl yn
aml ble roedd Bob yn Ilyfrau'r Doctor Thomas Richards.
Do fe’i clywais yntau yn cyhoeddi a Ilais uchel "am i bawb yn ysgolhaig
ac fel arall ddeall fod ffeithiau Bob Owen dros naw deg y cant yn
gywir."
Digon gan feistr fel y doctor.
Deigryn yn ei lygaid
Ond trist fu gennyf weld Bob Owen ar noson o aeaf mewn noson WEA,
a'r crydcymalau wedi dechrau ysigo ei ddwylo, yn trin John Elias o
Fôn, un a'r delwau drylliedig .
Torrodd un o'r aelodau gor-grefyddol ar ei draws yn anghwrtais.
Closiodd Bob Owen, at y tanllwyth tân a gwelwn ddeigryn yn disgyn!
Yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn deall y gwewyr.
Y darluniau hyn oedd yn ffurfio yn y meddwl yn ystod y dathliad ddydd
Sadwrn wrth wrando darlith ar ragoriaethau’r casglwr llyfrau unigryw
o Groesor ac yr oedd yn addas i aelodau Cymdeithas Bob Owen dalu ymweliad
â Chroesor ei hun a gosod blodau ar fedd Bob Owen.
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|