Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Llyfr sal - da

Meddwi ar lyfr am salwch ac yfed

Dydd Iau, Ionawr 17, 2002

Dyddiadur Alci Hypocondriac gan Gruffydd Meredith. Y Lolfa. £5.95.
pedair seren
Adolygiad gan Glyn Evans
Dwi’n siwr imi weld adolygydd yn rhywle yn disgrifio’r llyfr hwn fel yr un mwyaf gwreiddiol a ddarllenodd ers talwm.

Wn i ddim am hynny ond y mae yna ddigon yn Dyddiadur Alci Hypocondriac sy’n ei wneud yn wahanol - ond y mae yna lawer ynddo hefyd sy’n ein hatgoffa o ymdrechion sgrifenwyr ifanc eraill i fod yn wyllt, yn amrwd ac yn feiddgar a chreu rhyw fath o arwriaeth o fyw mewn stomp.

CD MC am ddim

Un peth sydd yn wahanol yw eich bod yn cael CD MC Mabon am ddim gyda’r llyfr a honno sydd yn fy nghlustiau wrth sgwennu, nawr.

Ac ar y funud yr ydw i o’r farn y byddwn i’n fwy tueddol o brynu’r CD er mwyn darllen y llyfr nag a fyddwn o brynu’r llyfr er mwyn clywed y CD.

Diau, mai fy oed sy’n gyfrifol am hynny.

Sut bynnag rydych yn edrych ar y peth, mae’n dric sy'n debyg o weithio o safbwynt y cyhoeddwyr.

Mae’r llyfr - rydw i’n osgoi, am resymau da, ei alw yn nofel - wedi ei osod mewn print sy’n atgoffa rhywun o deipiadur ac er bod hynny’n anghysurus i’w ddarllen ar y cychwyn mae’n gydnaws â natur y llyfr.

O salwch i salwch

Mae’r cynnwys yn cael ei grynhoi’n berffaith yn y teitl achos casgliad sydd yma o’r gwahanol gyflyrau meddygol sy’n poeni’r prif gymeriad mewnblyg, Gruff.

Ymylol yw’r holl gymeriadau eraill yn ddoctoriaid a nyrsus a phobl y mae’n dod ar eu traws yn sgil ei wahanol anhwylderau sy’n amrywio o’r ddannodd i flaengroen chwyddedig ac amheuaeth iddo ddal rhyw glefyd rhywiol neu o fod yn dioddef o AIDS "achos nes i gyflwyno fy aelod i ferch yng Nghaerdydd tua mis yn ôl heb gondom (yr unig ffordd).".

Mae’n gweld fflachiadau o flaen ei lygaid ac yn methu anadlu hefyd.

Yr iaith yn fras

Mae’r iaith, wrth gwrs, yn fras ond y mae’r llyfr yn fwy na dim ond ymdrech i fod yn feiddgar ac i’m cenhedlaeth i, er enghraifft, y mae’r math o fyw sy’n cael ei ddarlunio yn agoriad llygad ac yn adlais - na, nid oes dim byd newydd dan y nefoedd . . .

Bydd eraill, nes at oed yr awdur, yn ei chael yn hawdd, rwy’n siwr, uniaethu a’r ffordd o fyw sy'n cael sylw.

Y mae’r llyfr yn llai na chan tudalen - ac y mae yna nifer o luniau. Ac, waeth bod yn onest ddim, fyddai rhywun ddim eisiau iddo fod lawer hwy na hynny.

Fel y mae, mae’n diweddu cyn syrffedu ac mae honno’n gamp gyda pethau Cymraeg.

Cychwyn mewn bedsit

Mae’r llyfr yn cychwyn mewn bedsit draddodiadol ifanc (dim gwreiddioldeb mawr fan yna!) lle mae’r awdur yn deffro’n "pisd" (nac yn y fan yna) ac yn mynd ymlaen i ddisgrifio yn ddeheuig a chofiadwy iawn broblemau cyd-fyw ag eraill mewn hofel o’r fath a cheisio osgoi cyfarfod â chyd-letywyr:

"Mae sawl rheswm dros guddio yn dy lofft: falle fod dy gyd-denantiaid yn saicos, yn thugs ²Ô±ð³Ü‵µ squares (arwyddion pendant o squares yw pan mae merched, fel arfer, yn gadael arwyddion rownd y ty - a’r gegin yn enwedig - yn deud pethe fel ‘please clean the grill after you, it’s disgusting’ a sticers yn y ffrij ar y menyn a’r letys yn deud ‘hands off, it’s mine’)."

Pob math o salwch

Ond y gwahanol anhwylderau - rwy’n methu dod o hyd i luosog iawn i salwch (salwchaethau?) - sydd yn mynd â’n sylw yn bennaf a’r rheini wedi eu cysylltu â gwahanol ardaloedd yn amrywio o Feirionnydd, i Lundain a Paisley yn yr Alban.

Clawr y gyfrolMae salwch, wrth gwrs, yn dod a Gruff i gysylltiad â’r gwasanaeth iechyd ac er nad oes yma bropagandeiddio byddai’n rhaid i ddarllenydd fod yn bared go drwchus i beidio â chlywed swn y post sy’n cael ei daro.

Gall bywyd ei hun fod yn beth salw hefyd:

"Mae dy fywyd yn cylchdroi rownd diposits, colli diposits, ffindio diposits, llenwi ffurflenni, gadael fflats heb dalu, osgoi landlords, bwyta bara stêl pobl erill a phasio’r amser pa bynnag ffordd ti’n gallu."

Ac;

"Ma’ gen ti drwy’r dydd/nos/wythnos/mis i feddwl a phoeni am yr holl boene newydd ti’n deimlo yn dy gorff."

A’r cyfan i’w weld drwy’r tarth meddyliol hwnnw a gynhyrchir gan alcohol sy’n gysur ac yn hunllef:

"Ddoe, ro’n i’n cael probleme anadlu difrifol, felly yn syth ar ôl gwaith es i’r dafarn ar Euston Road ac ordro dau beint o Stella a dybl wisgi."

A dyna’r llinyn arian sy’n dal y ‘stori’ wrth ei gilydd - y poenau, yr anhwylderau a’r salwch byddent ddychmygol neu fel arall gyda’r disgrifiadau o rai ohonyn nhw yn anodd eu stumogi.

Rhagoriaethau bywyd

Ond y mae i fywyd ei ragoriaethau hefyd:

"Gynnon ni ddisgyrchiant sy’n ein galluogi ni i aros ar ein traed yn lle fflotio o gwmpas . . . pethe agor tuniau a phapur ty bach sydd ddim yn rhy feddal nac yn rhy galed."

Bendithion sy’n gwneud iawn am ddillad gwely "ffilthi a heb eu golchi ers chwe mis" a methu â chodi cyn dau y pnawn a "gwisgo’r un pants am bythefnos."

O ie, gweledigaeth go ryfedd o fywyd sydd yma ond rhan o gamp yr awdur - a dydi hi ddim yn gamp fawr, peidiwch â nghamddeall i - yw iddo lwyddo i wneud hynny yn rhywbeth difyr i’w ddarllen ac iddo fod ddigon doeth i’w gadw o fewn ffiniau can tudalen.
A byddwn, mi fyddwn i’n troi i lyfr arall gydag enw Gruffydd Meredith arno. Ond dydw i ddim yn siwr am CD gan MC Mabon.

Pach - ydw’n tad, yr ydw i’n berffaith siwr.



Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy