Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Shoned Wyn Jones
Awdur llyfrau plant
Enw:
Shoned Wyn Jones

  • Beth yw eich gwaith?

  • Athrawes.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Dim - heblaw am weithio mewn siop gemist adnabyddus yn ystod gwyliau ysgol / coleg!

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Ces i ngeni yn Nyffryn Ogwen, fy magu ar Ynys Môn cyn dychwelyd i Ddyffryn Ogwen pan yn 14.

  • . Lle¹r ydych chi'n byw yn awr?

  • Ym Mangor.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do yn fawr iawn.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf ac a wnewch ddweud ychydig amdano?

  • Comisiwn gan y Lolfa fel rhan o gyfres Pen Dafad. Nofel i'r arddegau ydi hi sydd yn trin tor-priodas ac yn ceisio dangos bod dwy ochr yn aml mewn sefyllfa o'r fath.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Tair nofel :-Fory Ddaw, Adlais a Gwirioni, a hefyd stori fer yn rhan o gyfres Straeon Siesta.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Roeddwn i wrth fy modd efo llyfrau Enid Blyton yn Saesneg a dwi'n cofio llyfr o'r enw Pwt a Moi (corachod) y cefais fawr fwynhad o'i ddarllen!

  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?

  • Mi ddes i ar draws Pwt a Moi men bocs yn ddiweddar ac mae o nawr ar fy silff lyfrau.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Mae gen i nifer; Kate Roberts, Saunders Lewis, Sonia Edwards.
    Ac yn Saesneg Nicci Gerrard, Maggie O'Farrell, Maeve Binchy.
    Unrhyw beth sy wedi'i sgwnennu'n dda ac yn adrodd stori ddiddorol.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Wythnos yng Nghymru Fydd.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Eto, mae nifer; Gwenallt, Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Myrddin ap Dafydd ......

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Y Gwrthodedig, R Williams Parry ac Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • 'A throesom iaith yr oesau, yn iaith ein cywilydd ni.' (Etifeddiaeth) a ddylai wneud i ni gywilyddio!

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu. Yn eu mysg;
    Ffilmiau : Little Women (fersiwn 1958), Notting Hill a Nel.
    Rhaglenni teledu : Rownd a Rownd, Caerdydd, 04Wal, Brothers and Sisters, Grey's Anatomy.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff gymeriad(au) : Siwan a Wini Ffini Hadog.
    Allai ddim meddwl am gas gymeriad.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Melys.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Canu'r delyn.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Goddefgar, hapus, annibynnol.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Fy mod i'n gadael pethau tan y funud olaf!

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Dwi'n edmygu llawer o bobl am nifer o resymau gwahanol ond dwi wir yn edmygu pobl sy'n brwydro yn erbyn salwch difrifol yn ddi-rwgnach.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Rhyddhau Mandela.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Marilyn Monroe - er mwyn cael gwybod beth yn union ddigwyddodd.

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Y daith adref. Er mod i wrth fy modd mynd i ffwrdd byddaf bob amser yn edrych mlaen i ddod gartref.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Pasta gydag eog ac asbaragws mewn saws gwin. Paflofa lemwn, cnau a mafon gyda digon o win da i'w olchi lawr!

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Darllen, ysgrifennu, gwrando ar fiwsig, cerdded ar draeth a mwynhau cwmni ffrindiau da!

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Glas.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Melyn.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Addysg am ddim i bawb.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Mae gen i nofel wedi'i gorffen ond cryn waith adolygu arni! Wn i ddim os bydd hi'n gweld golau dydd!

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Yn y dyddiau cyn i bawb yng Nghymru allu siarad Cymraeg . . .

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o 'Stori Sara'

  • Adolygiad o 'Gwirioni'

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý