Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Gruffudd Roberts
Awdur Rhyfedd o Fyd
Enw:
Gruffudd Roberts

Beth yw eich gwaith?
Wedi ymddeol

Pa waith ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Wedi bod yn athro; yn bennaeth ysgol gynradd ac yn ymgynghorydd addysg [yng Ngwynedd].

O ble'r ydych chi'n dod?
O Amlwch, Sir Fôn.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Diserth, Sir Ddinbych.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Rhyw gymaint ohoni. Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd oedden nhw. Blynyddoedd llwm.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Cystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2005. Ceisiais lunio math o ddyddiadur yn ystod y cyfnod Medi/Hydref 2004, gan ymateb i rai o'r pethau oedd yn digwydd ar y pryd - yn fy mywyd i ac yn y byd ehangach.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Nifer o lyfrau i blant a phobl ifanc.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Helynt Coed y Gell [G Wynne Griffith]. Mae'r stori wedi'i lleoli yn yr ardal lle cefais i fy magu ac roedd yr awdur yn perthyn [o bell!] i mi.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, weithiau.

Pwy yw eich hoff awdur?
Caradog Prichard.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Un Nos Ola Leuad.

Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Yr Heniaith [Waldo].

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Pa beth yw byw? Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Cinema Paradiso
Newyddion Sianel 4 neu raglen Bremner a'i ffrindiau.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Mae 'na ormod ohonyn nhw.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gan y gwirion y ceir y gwir.

Pa un yw eich hoff air?
Bendigedig.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Medru canu a darllen cerddoriaeth.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Eangfrydig
Goddefgar
Amyneddgar.
[Neu ydych chi eisio i mi ddeud y gwir?]

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Y gadwyn ymenyddol sy'n fy nghlymu i wrth y cyfrifiadur.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyndŵr. Am ei fod o wedi ceisio gwireddu ei freuddwyd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Chwyldro Glyndŵr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Edward Llwyd.
Sut y llwyddodd o i wneud cymaint mewn oes mor fer.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
I fyny Pen y Cloddiau [un o fryniau Clwyd].

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rhywbeth syml a di-lol ond gyda dipyn o win coch.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, darllen, gwrando ar gerddoriaeth.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

Pa liw yw eich byd?
Melyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf fyddai'n rhoi statws cyfartal llawn i'r Gymraeg.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Peidiwch â holi.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Mae sgwennu'n waith cythreulig o lafurus.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý