Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Dewi Prysor
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Tachwedd 2006
  • Enw:

  • Dewi Prysor

  • Beth yw eich gwaith?

  • Awdur a bardd.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Saer Maen, trydanwr.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Cwm Prysor, Trawsfynydd.

  • Lle¹r ydych chi'n byw yn awr?

  • Llan Ffestiniog.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Fy addysg bellach fel myfyriwr hÅ·n, do.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - a dwedwch ychydig amdano?

  • Wedi bod yn fy mhen ers blynyddoedd, yn cordeddu fel bag o bryfid genwair trydanol. Dwi'n gweld hiwmor bywyd bob dydd fel rwbath anhygoel o ddifyr a digri iawn, iawn, a dwi isio sgwennu amdano o hyd. Pobol ydi fy mhetha fi.

    Fel meercats, maen nhw'r creaduriaid mwya digri a difyr dan haul. Ac ar ben hynny, mae gen i ddychymyg fel trên, a dwi'n meddwl am y petha rhyfedda bob yn ail eiliad. Dwi'n sbïo ar fywyd fel rwbath digri a chwerw-ddigri a dwi'n chwerthin lot. Felly dwisio gneud i bobol erill chwerthin bob cyfla ga i.

    Ond dwi isio lledaenu apêl llenyddiaeth Cymraeg. Dydi pobol ddim yn uniaethu efo Te yn y Grug mwyach. Mae'r ddwy neu dair cenhedlaeth a anwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd wedi eu magu mewn oes o ddiwylliant poblogaidd rhyngwladol wedi dyfodiad cyfryngau torfol.

    Maen nhw wedi agor llygad a throi clust i ddylanwadau allanol - heb golli na chyfaddawdu eu hunaniaeth Gymreig. Mae Cymru wedi newid yn ddiwylliannol. Mae ganddi ei diwylliant ei hun a diwylliant poblogaidd rhyngwladol hefyd.

    Ond prin iawn yr adlewyrchir y diwylliant poblogaidd hwnnw mewn llenyddiaeth Gymraeg. O ganlyniad dydi llenyddiaeth Gymraeg ddim yn berthnasol i'r rhan fwya o siaradwyr Cymraeg.

    Dwi isio cyfrannu i'r ymdrech i gywiro hynny. Os na wneir hynny, bydd mwy a mwy o'n bobol ifanc yn anghofio am ddiwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae oblygiadau hynny i'r iaith a'n hunaniaeth yn beryglus.

    Mae'r nofel,Brithyll, yn gomedi dywyll ac afreolus sy'n darlunio cymdeithas, a newidiadau yr oes, drwy brofiadau a meddyliau criw o ffrindiau sy'n gwrthod cyfaddawdu i'r newidiadau hynny. Mae wedi ei sgwennu mewn arddull a ieithwedd lafar, a thafodiaith lafar gogledd-orllewin Meirionnydd.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Limrigau Prysor (Gwasg Carreg Gwalch), a drama, DW2416.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • To Dream of Freedom gan Roy Clews.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Na. Mae rhywun wedi'i ddwyn o!

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Twm Miall, Hunter S Thompson, Charles Bukowski, Roddy Doyle, Peter Berresford Ellis, Llwyd Owen.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Cyw Haul a Cyw Dôl (Twm Miall).
    Fear and Loathing in Las Vegas (Hunter S Thompson).
    On the Road (Jack Kerouac).

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • RS Thomas.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Welsh Landscape a Welsh History gan RS Thomas.
    Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen.
    Llun Rhuthlyn gan Hedd Wyn.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • A bar cefn heb oriau cau - (Myrddin ap Dafydd.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Ffilm - High Plains Drifter.
    Teledu - The Sopranos, The Mighty Boosh, Trailer Park Boys. Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
    Dim syniad.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Nid y dillad sy'n gneud y dyn.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Pam.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Hypnoteiddio ieir.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Dros bymtheg stôn.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Oes, lot.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Owain Glyndŵr - doedd o ddim yn chwarae o gwmpas. Roedd ganddo weledigaeth a phenderfyniad.

    Bobby Sands - gŵr galluog, deallus a ddysgodd Wyddeleg i gyd-garcharorion gwleidyddol, ac a aberthodd ei fywyd ei hun dros gyfiawnder.

    Rhodri Mawr - trechodd y Llychlynwyr a lladdodd eu brenin mewn ymladdfa un-ar-un.

    Gwenllian ap Gruffudd - tywysoges brydferth, rhyfelwraig a rebel Cymreig.

    Nelson Mandela - cadwodd ei urddas drwy flynyddoedd maith o garchar caled, a dod allan i arwain ei bobol i ryddid.

    Tecumseh - arweinydd Indiaid Cochion America a ryfelodd yn erbyn y dyn gwyn.

    Cynwrig Hir - a gipiodd Gruffudd ap Cynan o'r carchar.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Dial y Gwylliaid Cochion ar y Barwn Owen, neu fod efo'r Tywysog Madog yn hwylio i'r Amerig.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Gwenllian ap Gruffudd. "Iawn, del?
    " Pa un yw eich hoff daith a pham?
    Dros y mynyddoedd o Domen y Mur drwy Ddolbelydr a Dolau (Dolddinas), heibio Llyn Rhuthlyn ac i lawr i Gwm Prysor. Heddwch, hanes, rhyfeddodau, cyfaredd...

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Cig oen Cymreig efo cinio dydd Sul.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Pêl-droed, pysgota, crwydro, ffotograffiaeth, cymdeithasu.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Du.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Enfys.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Annibynniaeth i Gymru, heb os nac onibai.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Oes - dilyniant i Brithyll, mwya tebyg.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • O fewn eiliadau i ollwng y meercats yn rhydd yn y gegin gefn roedd Ken Toblerôn wedi sylweddoli fod Cŵd Racs yn deud y gwir.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Cyhoeddi Brithyll

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý