Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Arwel Vittle
Awdur cofiant Lewis Valentine
• Enw?
Arwel Vittle.

• Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd.

• O ble'r ydych chi'n dod?
Rhywle rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd.

• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Llanwnda, Arfon.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ddim felly.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Clawr y llyfr Cofiant i Lewis Valentine.
Mae'n adrodd hanes bywyd Lewis Valentine o Landdulas i ffosydd y Rhyfel Mawr.
O ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubs ac am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth.

Ei gyfnod yn weinidog yn Llandudno ac yn Rhosllannerchrugog.

A throeon yr yrfa - a'i harweiniodd i weithredu fel y gwnaeth.


• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair nofel amrywiol eu cynnwys a'u safon!

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Dial o'r Diwedd - T. Llew Jones.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, Saunders Lewis.
George Orwell yn Saesneg.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Gweledigaethau y Bardd Cwsg gan Ellis Wynne. Cofiant T Gwynn Jones i Emrys ap Iwan.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Naill ai Waldo neu TH Parry-Williams.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cwmwl Haf (Waldo) neu Dychwelyd (THPW)

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
The Seventh Seal a Father Ted.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - Kilgore Trout yr awdur ffug yn nofelau Kurt Vonnegut. Cas gymeriad - oherwydd yr hyn mae'n gynrychioli - O'Brien yn 1984.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
T H Parry-Williams am y Gymraeg:
Cei ganmol hon fel canmol jwg ar seld
Ond gwna hi'n hanfod - ac fe gei di weld.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Amynedd.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Diamynedd,
diamynedd,
diamynedd.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Diffyg amynedd.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Llawer mae'n siŵr ond yng nghyd-destun y cofiant, rwy'n edmygu'r criw bychan a sefydlodd y Blaid Genedlaethol yng Nghymru ynghanol y ganrif ddiwethaf.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y trên nos i Rufain o Baris gan fod coffi amser brecwast - a phopeth arall - yn blasu cymaint gwell yno.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, cwyno.

• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Llwyd (am fy mod yn byw yng Nghymru) ond mae yno batshys gwyrdd hwnt ac yma (eto am fy mod yn byw yng Nghymru).

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd Cymry Cymraeg rhag siarad Saesneg mewn cyfarfodydd lle mae 'na gyfieithydd yn bresennol.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac oes, ddim hyd y gwn i.

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Gwenodd y llawfeddyg Gwydion Rhys yn fodlon. Bu'r driniaeth i drawsblannu dur yn asgwrn cefn arweinwyr y genedl yn llwyddiant hyd yma, ond gwyddai y byddai'r wythnosau nesaf yn dyngedfennol...

  • Valentine gan Arwel Vittle. Y Lolfa, £14.95.


  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý