麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor
Dyddiadur 60au

Dafydd Evans

Y Lolfa, 拢12.95

Adolygiad: Dafydd Meirion


Mae yna dri llinyn yn rhedeg drwy'r dyddiadur yma. Canu pop a gwleidyddiaeth yw dau. Y trydydd yw ymateb gwr ifanc i grefydd a chwestiynau mawr y byd. Mae'n siwr bod yr olaf o ddiddordeb mawr i rai sy'n ymhel 芒'r maes yma, ond mi ganolbwyntia i ar y ddau gyntaf.

Gitarydd b芒s y grwp pop trydan cyntaf Cymraeg, Y Blew, a mab Gwynfor Evans, cyn-lywydd Plaid Cymru, yw Dafydd Ifans a thrwy'r dyddiadur cawn gyfeiriadau lu at ganu pop (Saesneg) y dydd a'i ymdrechion cynharaf i sefydlu grwp pop Cymraeg go-iawn, a'i berthynas 芒'i dad, cenedlaetholdeb a phrotestiadau cynnar Cymdeithas yr Iaith.

Mae'r tri llinyn yn blith-draphlith drwy'r llyfr, ond dyna yw dyddiadur. Er enghraifft, ar 10 Medi 1964: "Darllen Act of Creation gan Koestler. Prynu "It's All Over Now" gan y Beatles."

Ond mi rydw i am ddechrau efo canu pop.

Cymera'r awdur ddiddordeb mewn canu pop yn gynnar iawn a hyn dan ddylanwad ei frawd hyn, Alcwyn. Mae hwnnw'n prynu recordiau gan Elvis, Jerry Lee a Fats Domino - ac mae Gwynfor yn hoffi rhai o'r cerddorion hyn, nid cymaint am y gerddoriaeth ond yr egni sy'n cael ei fynegi ynddyn nhw. Yn nes ymlaen, mae'n feirniadol iawn o Adam Faith a'r cynhyrchydd Norri Paramour - oes, mae gan y gwr ifanc yma d芒st! Ar un adeg, mae'n credu ei bod hi ar ben ar y byd pop newydd, modern yma.

Yna 芒 ymlaen i s么n am y Beatles a'r Stones (mae'n cyfarfod rhai ohonyn nhw mewn parti yn Llundain tra yn yr Ysgol Feddygol yno) ac mae'n rhoi marciau allan o ddeg i'w caneuon. Mae'n ffurfio grwpiau. Ar 25 Medi 1960, mae'n chwarae mewn grwp sgiffl yn festri capel y Methodistiaid yn Llandeilo. Mae'n dysgu chwarae rhai o ganeuon offerynol y dydd - FBI, Apache ac ati. Mae'n ffurfio grwp trydan, y Firebirds, ac yn nes ymlaen pan yn Llundain mae'n gigio'n rheolaidd gyda grwp o gyd-fyfyrwyr, Y Gonads.

Un peth 芒'm tarodd, wedi darllen ac wedi byw drwy'r cyfnod yma - er fy mod rhai blynyddoedd yn ieuengach na'r awdur, yw'r ffaith fod y gitarau yn glanio fel manna o'r nefoedd. Cyfnod tlawd iawn oedd hwn i lawer, a llawer o fechgyn ifanc yn adeiladu eu gitarau eu hunain, neu'n perswsdio eu rhieni i rhoi eu henwau i lawr ar gytundeb HP.

Magwraeth freintiedig gafodd yr awdur, yn mynychu ysgol fonedd Llanymddyfri a chael tripiau i Lundain a'r Almaen, ond dyw hyn wedi amharu dim ar ei awydd i rebelio. Dydy o ddim yn hoffi cerddoriaeth neis, mae'n ymuno 芒 CND, mae'n gwisgo'r dillad diweddaraf ac yn tyfu ei wallt yn hir. Mae un cyfeiriad fod ei fam-gu'n gwrthod eistedd gydag o a'i frawd yn y capel am fod eu gwalltiau'n hir!

Canu pop Saesneg oedd yn mynd 芒'i fryd, ond roedd eisiau canu yn Gymraeg ac ar 2 Hydref 1960 ceir s么n am eiriau Cymraeg i ganeuon Saesneg fel Nos Da, Ffrindiau, Nos Da (Goodbye Jimmy Goodbye) a Saith Geneth Fach (Seven Little Girls Singing in the Back Seat) ac ar 18 Rhagfyr 1961 eiriau Cymraeg i Peggy Sue Got Married.

Ond cyfraniad mawr yr awdur oedd ffurfio'r Blew. Yn ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, sonia am geisio ffurfio nifer o grwpiau ond does yr un yn ymddangos nes mae'r Pedeir Keink ar lwyfan Eisteddfod Abertawe yn 1966. Gyda llaw, yn y grwp hwnnw roedd Hefin Elis (Edward H) a Geraint Griffiths (Eliffant, ac yn ddiweddarach canwr unigol, amlwg). Arweiniodd hyn at Y Blew yn 1967.

Er bod yna sawl tudalen am Y Blew, does yna fawr ddim yn newydd na glywyd o'r blaen mewn erthyglau a rhaglen deledu (wnaethpwyd gan Meleri, chwaer yr awdur), ond mae'n werth ei gofnodi unwaith eto. Ar dudalenau 175 ac 176, ceir rhestr o'r caneuon mae'n nhw'n ganu, i gyd - arwah芒n i Ricks Blues gan eu gitarydd Rick Lloyd - yn gyfieithiadau o ganeuon Saesneg; does dim s么n tan yn nes ymlaen am y ddwy g芒n ymddangosodd ar eu hunig record, Maes B/Beth sy'n dod rhyngom ni. Mae yna restr ddifyr hefyd o gost ac elw cynnal pob dawns.

Yn sicr, gwnaeth yr awdur gyfraniad i'r byd pop Cymraeg, ond roedd yn brysur hefyd yn y cyfnod yma'n ymwneud 芒 gwleidyddiaeth. Sut allai o beidio a gwleidyddiaeth yn rhan annatod o fywyd Dalar Wen? Ar y ffordd i'r Almaen ac yntau ond 14 oed, mae'n mynnu wrth ddyn y tollau mai Cymro ydy o nid Prydeiniwr.

Cawn gyfeiriadau lu, yn naturiol, am Gwynfor - ei daith i America, ei ymweliad 芒 Fietnam a'r pryder na fyddai'n dychwelyd yn fyw. Ond ychydig iawn geir at fuddugoliaeth hanesyddol ei dad yn 1966. Oes mae rhywfaint o s么n am ganfasio a bod pethau i'w gweld yn newid yng nghefnogaeth y Blaid yng Nghaerfyrddin ond fawr ddim yn syth ar 么l y fuddugoliaeth. Oedd o'n rhy brysur yn dathlu i sgwennu yn ei ddyddiadur?

Roedd Dafydd Evans yn amlwg yn rhengoedd ieuenctid y Blaid, a chaiff ei wahodd i sefyll fel ymgeisydd ym Meirionnydd. Mae cyfeiriadau difyr iawn am Elystan Morgan yn gadael y Blaid, ac mae yna un awgrym y dylid ei saethu! Mae cyfeiriad, hefyd, y dylid chwythu pob pont sy'n croesi o Gymru a Lloegr a meddiannu'r gorsafoedd radio a theledu! Ceir s么n am y cicio a'r waldio yn swyddfa bost Dolgellau ond ymateb llawer mwy croesawgar yn Llanbed, a chyfeiriadau at ddwyn sawl Iwnion Jac! Ceir s么n am y bwriad i symud pobol o Birmingham i ganolbarth Cymru fel mesur i atal y gorboblogi yno - i greu rhywfath o Lan-Brum-Mair! Yn wir, mae'r dyddiadur yma'n drysorfa o wybodaeth am y cyfnod.

Mae pethau eraill, nad ydynt o fewn y tri llinyn, hefyd yn ddifyr iawn. S么n am sefydlu Private Eye, s么n am Lol a'i drafferthion efo Cynan (ac mae yna lun o'r dudalen gafodd ei gwahardd), s么n am arbrofion gyda chyrff dynol yn yr ysgol feddygol. Ceir cyfeiriadau at nifer o wyr amlwg y genedl - o DJ a'i jocs brwnt i Dafydd Iwan, Dafydd Elis-Thomas, Waldo, Emyr Llew, Carwyn James, Meic Stephens...

Efallai, mae tri llinyn sydd drwy'r llyfr a hynny dros dri chyfnod gwahanol, ond mae yna ddwsinau o glymau drwyddo. Yn grefydd, yn wleidyddiaeth, yn gariadon, yn newid cyfeiriad ... i gyd yn creu cofnod gwerthfawr o gyfnod pwysig ar sawl lefel - yn hanes Cymru a'r byd.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy