麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfrifiadur Newydd Wini
Llygoden newydd i'r gath
Adolygiad Lowri Rees o Cyfrifiadur Newydd Winii gan Sioned Lleiniau. Gomer. 拢4.99.

Bydd rhai o blant Cymru wrth eu boddau yn clywed bod llyfr newydd yn y gyfres Wini'r Wrach wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar.

Clawr y llyfr Addaswyd hanes Wini a'i chath, Mali, gan Sioned Lleiniau o'r llyfrau gwreiddiol gan Korky Paul a Valerie Thomas.

Tro yma cawn hanes Wini yn gwirioni'n l芒n pan ddaw cyfrifiadur newydd i'w chartref.

Ond mae Mali ychydig yn gymysglyd o gael ei chyflwyno i'r llygoden sydd ynghlwm wrth y peiriant bondigrybwyll.

Mae Wini wth ei bodd yn syrffio'r We ac yn archebu ffon hud newydd, ond Mali yn parhau i geisio tarfu ar y llygoden ac yn cael ei hel allan i'r glaw.

O dipyn i beth caiff y cyfrifiadur ei ddefnyddio i gadw swynion Wini gyda'r hen lyfr swynion a'r hen ffon hud yn cael eu taflu i'r bin sbwriel.

Mae ychydig yn amlwg beth fydd yn digwydd, ond diolch i'r drefn mae'r ffon hud newydd yn cyrraedd mewn pryd i achub Wini a'r gath.

Gwers yn y llyfr
Efallai fod gwers yn y llyfr hynaws hwn i oedolion am y perygl o ddibynnu'n ormodol ar gyfrifiadur - yn enwedig i rywun di-lun fel minnau sydd yn pwyso y botymau anghywir yn amlach na'r rhai cywir.

Mae'r llyfr ychydig yn hirwyntog ar adegau i blant dan chwech a bydd rhai yn colli diddordeb yn yr hanes.

Hefyd, ar gyfer plant sy'n dysgu darllen mae'r print ychydig yn f芒n ac wedi'i osod blith draphlith ar draws y tudalennau sy'n beryg o beri dryswch.

Wedi dweud hynny; gall rhywun dreulio oriau yn byseddu'r llyfr sydd o faint A4 yn craffu ar y lluniau lliwgar.

Mae'r tudalennau gyda chlwstwr o luniau bach hefyd gyda manylion byr all gadw plant yn ddiddig am oriau.

Mae ebychiadau'r gath yn ddoniol iawn gan beri i riant yn ogystal 芒 phlentyn chwerthin.

Ymateb plant
Wrth ddarllen llyfrau plant yr wyf, wrth gwrs, yn seilio fy sylwadau ar ymateb fy mhlant sydd dan chwech oed.

Efallai byddai plentyn ychydig yn h欧n, yn gwirioni ar y stori a'r syniadaeth, ond roedd y rhai acw yn dueddol o roi'r llyfr oi'r neilltu ac estyn am lyfr arall.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy