Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Vaughan Hughes a'i gwestiwn i adolygwyr
Ymateb gwahanol beirniaid ac adolygwyr i nofel yn codi cwestiwn pigog
  • Stori gyda thri chlip sain gwahanol

    Tynnodd Vaughan Hughes nyth cacwn yn ei ben gyda chwestiwn am adolygwyr Cymraeg yn Y Cymro

    Mewn erthygl 25 Ionawr 2008 holodd Mr Hughes tybed a yw adolygwyr yn ymateb yn wahanol i weithiau llên os ydyn nhw'n gwybod pwy yw'r awduron ac os yw'r awduron hynny eisoes wedi gwneud enw iddyn nhw'u hunain.

    Dydi hwn ddim yn gwestiwn newydd wrth gwrs, nac yn gwestiwn Cymreig yn unig, fe'i codwyd gan Alexander Pope yn ei Essay on Criticism yn y ddeunawfed ganrif ac yn ei ddrama Fanny's First Play mae un io gymeriadau Bernard Shaw yn dweud;
    "Dydych chi ddim yn disgwyl i mi wybod beth i'w ddweud am ddrama pan nad ydw i'n gwybod pwy yw'r awdur. Os yw hi gan awdur da yna'n naturiol mae hi'n ddrama dda. Mae hynny'n sefyll i reswm!"

    Beirniaid llugoer -
    adolygwyr canmoliaethus
    Ond yr hyn a sbardunodd Vaughan Hughes yn awr oedd ymateb llugoer beirniaid mewn cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol i nofel ddiweddaraf Angharad Tomos, Wrth Fy Nagrau I, ac ymateb tra chanmoliaethus adolygwyr, i'r un nofel yn union,wedi iddi gael ei chyhoeddi.

    Cafodd gyfle i ymhelaethu ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen yng nghwmni Harri Pritchard Jones, un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint a Kate Crockett a fu'n adolygu'r nofel ar wefan Gwales lle disgrifiodd y nofel fel campwaith.


    Yr hyn oedd wedi goglais Vaughan Hughes oedd nad oedd yr un o feirniaid swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhestru Wrth Fy Nagrau I ymhlith y rhai a ddaeth yn agos at frig y gystadleuaeth.

    "Yn nosbarth 2(b) y gosodwyd hi gan Annes Glynn. Yn nosbarth 2(a) y gosodwyd hi gan Robat Arwyn. Yn nosbarth 2 (heb lythyren) y gosodwyd hi gan Harri Pritchard Jones," meddai yn Y Cymro gan ychwanegu:

    "Nid oedd yr un o'r tri beirniad ychwaith yn argymell y dylid cyhoeddi'r nofel, sef yr hyn sy'n digwydd fel rheol yn achos ymgeiswyr anfuddugol o safon uchel."

    Heb argyhoeddi
    Yn wir, wrth feirniadu'r gystadleuaeth cwynodd Annes Glynn nad oedd y nofel na'i phrif gymeriad yn "argyhoeddi" a bod y ddeilaog "at ei gilydd, yn ddi-fflach ac yn amhriodol ddoniol" a'r bennod olaf yn "bregeth/llith athronyddol braidd".

    Barn go wahanol i un adolygwyr wedi hynny a'r nofel yn cael ei chymeradwyo am wobr Llyfr y Flwyddyn hyd yn oed.

    Pawb yn gwybod
    Ac meddai Vaughan Hughes yn Y Cymro:

    "Wrth gwrs, pan gyhoeddwyd y nofel roedd pawb yn gwybod pwy oedd yr awdur. A dyna ddod â ni at y cwestiwn mawr. Cymaint yw edmygedd carfan o'r Cymry i unplygrwydd ac aberth Angharad Tomos yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith fel eu bod nhw wedi ei dwyfoli, bron.

    "Ai am nad oedd y beirniaid yn gwybod eu bod nhw'n cloriannu gwaith eicon cenedlaethol y teimlai'r tri, yn annibynnol ar ei gilydd, mai'r ail ddosbarth oedd lle'r nofel hon?" oedd ei gwestiwn pigog.

    Ymateb yn onest
    O'r rhai a ganmolodd y nofel gyhoeddedig dim ond Kate Crockett - a ddisgrifiodd y gwaith fel "campwaith" - a ymatebodd yn Y Cymro gan ddweud iddi hi ymateb yn gwbl onest i'r hyn a ddarllenodd gan ddweud:

    "Yn bersonol byddai'n well gen i bechu cydnabod na llunio adolygiad gwenieithus na allwn ei gyfiawnhau."

    Gwerth gofyn cwestiwn
    Wrth gyfiawnhau ei sylwadau ar Wythnos Gwilym Owen dywedodd Vaughan Hughes:

    "Mae honna yn sefyllfa y mae'n werth gofyn cwestiwn ynglŷn â hi . . . ac mi wnes i awgrymu tybed a oedd y ffaith fod awdur y nofel yna, Angharad Tomos, gan ei bod hi yn ffigwr cenedlaethol, yn eicon cenedlaethol yng ngolwg nifer o bobl oherwydd ei haberth dros Gymdeithas yr Iaith, tybed a oedd y ffaith fod yr adolygwyr yn gwybod pwy oedd yr awdur tra'r oedd y beirniaid ond yn trin y nofel dan ffugenw mi ofynnais y cwestiwn tybed a oedd hynny wedi dylanwadu ar eu barn nhw."

    Pe byddai'n gwybod . . .
    Er i Harri Pritchard Jones gydnabod y byddai ef wedi cymryd "llawer mwy o amser" i ystyried y nofel pe gwyddai pwy oedd yr awdur gan fod ganddi gystal "track record" dywedodd mai yn yr un lle yn y gystadleuaeth y byddai wedi ei rhoi.

    "Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi newid fy meddwl yn sylfaenol [ynglŷn â hi]. Na," meddai.

    "Yr oeddwn i'n meddwl ei bod yn nofel dda, . . . ond dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ei rhoi hi ddim uwch yn y gystadleuaeth," meddai.

    Awgrymodd hefyd na fyddai'r ddau feirniad arall wedi newid eu barn ychwaith o wybod pwy oedd yr awdur.

    "Mae hyd yn oed y goreuon yn gallu llithro ac mae eisiau dweud yn union beth ydych chi yn ei feddwl.

    "Dwi'n siŵr bod Angharad a phawb arall yn ddigon aeddfed i dderbyn beirniadaeth heb bwdu na chael eu brifo ormod," meddai.

    Edrych yn fwy clos
    Yn nes ymlaen yn y drafodaeth dywedodd ei bod yn debyg, pe byddech chi yn gwybod mai "meistres" ar ei gwaith fel Angharad Tomos sydd wedi sgwennu rhywbeth y byddech chi'n craffu mwy ar y gwaith hwnnw.

    "Unrhyw beth fuasech chi yn ei gollfarnu fe fyddech chi yn edrych ac yn ei gyfiawnhau o i chi'ch hun yn fwy ond yn y diwedd dwi'n gobeithio mai'r un fuasai'r llinyn mesur wrth gloriannu gwahanol nofelau," meddai.

    Codi cwestiwn diddorol
    Dywedodd Kate Crockett fod Vaughan Hughes wedi codi cwestiwn "diddorol".

    Kate Crockett "Ac mae anghytuno ynglŷn â llyfrau yn beth iach . . . yr hyn oeddwn i'n meddwl oedd yn gwbl annheg oedd awgrymu fy mod i a phobl eraill sydd wedi adolygu'r llyfr rywsut yn methu â gwneud ein gwaith achos rydw i'n credu bod adolygu llyfrau yn waith pwysig dros ben ac rydw i'n cymryd lot o falchder yn y gwaith rydw i'n i wneud ac os yw fy enw i ar waelod adolygiad yr ydw i eisiau bod yn bendant fy mod i'n cytuno â'r hyn ddywedais i ac mae awgrymu fy mod i'n 'dwyfoli' Angharad Tomos jyst yn nonsens," meddai.

    Dywedodd Vaughan Hughes "fod gwybod pwy ydi awdur pan fo'r awdur yna yn ffigwr o bwys yn rhwym o ddylanwadu arnoch chi. Mae o'n siŵr o ddigwydd," meddai.

    Cytunodd Kate Crockett na oedd yn anwybyddu pwy oedd yr awdur; "Ond fe fyddai hi wedi bod yn hawdd iawn i mi o wybod beth oedd barn beirniaid yr Eisteddfod i fod yn eithaf llugoer tuag at y nofel a pheidio dweud gormod ond roeddwn i'n teimlo'n gryf fod hon yn gampwaith a dyna pam ddwedes i hynny," meddai.

    Ychwanegodd mai cyfrifoldeb adolygydd os nad yw'n teimlo y gall roi adolygiad teg am ryw reswm, fel adnabod yr awdur, yw gwrthod y cynnig i adolygu.

    Ar ddiwedd y cklip sain mae'r siaradwyr yn trafod beth oedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn chwilio amdano.

    Hefyd yn ystod y sgwrs:
    Clip 2

  • Mewn gwlad lle mae pawb yn adnabod ei gilydd a oes gwerth i adolygiadau?

  • Adolygiad 'yn gyllell' - awgrymodd Harri Pritchard Jones fod "rhai adolygwyr" yn defnyddio adolygiad i droi'r gyllell mewn gelyn.

    Ac meddai Kate Crockett:
    "Dwi wedi darllen ambell i adolygiad a theimlo; Wel, rwy'n gwybod bod yna rhyw gefndir rhwng y ddau berson yma ac nad yw'n deg eu bod wedi defnyddio'r cyfle i adolygu ac mae achlysur pan ddylai pobl ddweud, 'Na, nid fi yw'r person i adolygu'r llyfr yma'."

  • A ellir cyhuddo adolygwyr o geisio "troi breichiau" beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn gyda'u sylwadau am y nofel hon?



    Clip 3

  • Harri Pritchard Jones yn ymateb fel Seiciatrydd i'r nofel.
  • Vaughan Hughes yn dweud beth oedd o'n feddwl o'r nofel gan ddweud nad yw "dyfais ganolog" y nofel yn gynaladawy nac yn gredadwy yn ei farn ef.

    Harri Pritchard Jones yn cyflwyno Gwobr llyfr y Flwyddyn yn seremoni 2007
  • Gofyn i Harri Pritchard Jones sut y byddai ef yn teimlo pe byddai'n awr yn gorfod cyflwyno fel cadeirydd Yr Academi wobr Llyfr y Flwyddyn i Wrth Fy Nagrau I



  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Llyfr gorau'r flwyddyn meddai Meg Ellis

  • Adolygiad John Gruffydd Jones ar ein gwefan

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý