麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tlws Mary Vaughan Jones a Gwobrau Tir na n-Og
Un o uchelbwyntiau Cynhadledd Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau Llandrindod yr wythnos hon fydd cyflwyno Tlws Mary Vaughan Jones i Elfyn Pritchard.


Mae hon yn un o brif wobrau Cymru i awduron llyfrau plant ac yn cydnabod cyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant dros nifer o flynyddoedd.

Mae Elfyn Pritchard yn awdur llyfrau i oedolion yn ogystal 芒 phlant ac yn gynharach eleni enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nofel i oedolion, Pan Ddaw'r Dydd ?

Prifathro
Ganwyd ef ym mhentref Gwyddelwern ac wedi ei addysg gynradd mynychodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala (Ysgol Ty Tan Domen), a Choleg Prifysgol Bangor lle graddiodd mewn Cymraeg a Hanes ac yna ennill tystysgrif addysg.

Bu'n athro a phrifathro cynradd ac yna'n Ymgynghorydd Addysg Gynradd yn ne Gwynedd cyn ymddeol yn gynnar yn 1993.

Ond mae'n dal i weithio rhyw gymaint ar brosiectau addysgol.

Mae'n briod 芒 Nansi ac mae ganddyn nhw ddwy o ferched, Sioned a Gwenan, a chwech o wyrion a wyresau, Catrin, Llio, Rhys, Osian, Deio ac Elin.

Sefydlu siop
Roedd yn un o sefydlwyr siop llyfrau Cymraeg Awen Meirion, Y Bala, bu'n olygydd Allwedd y Tannau, cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dant, am 17 mlynedd, yn gyn-gadeirydd Panel Llyfrau Darllen Cydbwyllgor Addysg Cymru ac yn aelod hefyd o Bwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau.

Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 1997 a Chadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth.

Mae wedi beirniadu yn y Genedlaethol bump o weithiau ac wedi cyhoeddi nifer o nofelau a straeon i blant a'r arddegau, nofel antur i oedolion a chyfres darllen ar y cyd gydag Emily Hughes.

Mae ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth, criced, cerdded, darllen, yr Eisteddfod a dram芒u.

Siaradwyr o bwys
Cynhelir y gynhadledd llyfrau plant y gwobrwyir Elfyn Pritchard ynddi yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, o nos Wener tan ddydd Sadwrn Tachwedd 7 i 8.

Cyflwynir y ddarlith agoriadol ar y nos Wener gan Alan Gibbons, enillydd y Blue Peter Award yn 2000 am ei gyfrol Shadow of the Minotaur a fu hefyd ar restr fer gwobr Carnegie yn 2001 a'i nofel The Edge ar restr fer Carnegie yn 2003.

Ceir cyflwyniadau hefyd gan nifer o nofelwyr ifanc gan gynnwys Gwyneth Glyn, Caryl Lewis, Nia Jones, Anwen Francis ac Aled Richards yn trafod eu profiadau yn ysgrifennu.

Gwobrau Tir na n-Og
Yn ogystal 芒 chyflwyno ei dlws i Elfyn Pritchard bydd enillwyr Gwobrau Tir na n-Og yn cael eu anrhydeddu hefyd.

Cyhoeddwyd enwau enillwyr gwobrau Tir na n-Og yn fyw ar raglan arbennig ar ar S4C yr wythnos ddiwethaf.

Enillydd Ffuglen Orau'r Flwyddyn oedd Bethan Gwanas am y gyfrol 厂驳么r (Y Lolfa), nofel llawn hiwmor ar gyfer yr arddegau am fachgen yn symud i fyw o'r gogledd i'r de.

Enillwyr y wobr am Lyfr Gorau'r Flwyddyn ac eithrio Ffuglen oedd Rhiannon Ifans a Margaret Jones am Dewi Sant (Y Lolfa eto), cyfrol safonol sy'n gyfuniad o stor茂au am fywyd Dewi Sant gyda darluniau a diwyg sy'n gweddu i'r cyfnod.

Mae'r tair wedi ennill gwobr Tir na n-Og o'r blaen - Bethan Gwanas yn 2001 gyda Llinyn Tr么ns, Rhiannon Ifans a Margaret Jones gyda'r gyfrol Chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd. Dyma'r pedwerydd tro i Margaret Jones ennill.

Dyfarnwyd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i Rob Lewis am y llyfr stori-a-llun, Cold Jac (Pont/Gomer), nofel wedi'i lleoli ar fferm yng Nghymru. Ganed Rob Lewis yn Llundain a bu'n astudio Dylunio Graffig yng Ngholeg Politechnig Bryste. Mae'n awr yn byw ar fferm ger Llandrindod.

"Gyda'r holl awduron hyn yn bresennol yn y Gynhadledd, fe fydd hi'n siwr o fod yn gynhadledd arbennig,' meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.

"Y mae'r gynhadledd bob amser yn gyfle gwych i bobl sydd 芒 diddordeb mewn llenyddiaeth plant ddod at ei gilydd, ac i roi sylw penodol i'r maes pwysig hwn."

Cysylltiadau Perthnasol
Holi awdur

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy