麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Caryl Lewis: sgwrs ar-lein 2006
Yr atebion i gyd
Holl gynnyws sgwrs ar-lein gyda Caryl Lewis, awdur Llyfr y Flwyddyn 2005, a gynhaliwyd Ddiwrnod y Llyfr 2006.

DJ: Tair nofel gan dair merch oedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn pan wnaethoch chi ennill - pam mae merched mor flaenllaw erbyn hyn mewn tiriogaeth arferai fod yn un mor wrywaidd?
Caryl: Wel, mae lot o drafodaeth di bod ar y pwnc a dw i'n meddwl mae nifer o ffactorau mewn ffordd. Yr un pennaf yw bod system grantiau i gael gan y Cyngor Llyfrau sy'n helpu awduron i gymryd yr amser i sgwennu nofelau. Mae nifer o ferched hefyd yn manteisio ar weithio yn rhan amser i sgrifennu. Mae na rai yn gweud hefyd bod y s卯n barddoniaeth yng Nghymru yn llawer mwy cymdeithasol o'i gymharu 芒 sgwennu nofel, ac mae sgwennu nofel sy'n apelio at ferched.

Falle dylen ni ddim gofyn pam bod merched mo'yn sgwennu nofelau, ond yn hytrach pam bod Gw欧r ifanc mo'yn mynd yn feirdd? Mae yna hefyd seicl naturiol, mwy ma merched yn sgwennu mae'n annog merched eraill i sgwennu - ton ar 么l ton. A beth yw'r ots beth bynnag? Pan o'n i'n darllen pan o'n ifanc d'on i ddim yn edrych ar enw'r awdur. Ar ddiwedd y dydd mae llenyddiaeth dda yn llenyddiaeth dda, pwy bynnag sy'n sgwennu fe.

Huw Huws: O ystyried fod eich nofel ddiweddaraf (Martha Jac a Sianco) wedi ei gosod mewn ardal mor benodol o gefn gwlad Cymru sut brofiad yw hi i ddarllen eich nofel yn un o'r llefydd mwyaf dinesig a chosmopolitan yn y byd (Efrog Newydd) - a sut ymateb mae hi wedi ei gael?
Caryl: Cwestiwn da! Gafon ni ddarlleniad ffantastig i ddweud y gwir, roedd yn ddiddorol. Mewn ffordd, dyw awduron sy'n sgwennu yn y Gymraeg ddim yn darllen digon efo awduron o Gymru sy'n sgwennu'n Saesneg. Mae hyn wedi taro fi ers fi fod mas 'ma yn Efrog Newydd. Y mwyaf glwm yw nofel i un lle mae pobl yn gallu uniaethu ag e. Roedd gyda ni Iddewon yn y darlleniad, ac roedd ymateb rheiny yn ddiddorol.

Delyth: Ydi pobl gyda gwallt coch wir yn ei chael hi'n anodd?
Caryl: (Chwerthin!) Ymm ..cwestiwn da! Wnes i greu Bili Boncyrs, y gyfres i blant, a wnes i yn fwriadol feddwl gan bod y dylunydd 芒 gwallt coch, a finne 芒 gwallt coch, i greu cymeriad hollol pengoch i blant oherwydd roedd yr arwyr oedd ar gael i blant 芒 gwallt coch ddim yn apelgar iawn, e.e Annie, a Ron Weasley yn Harry Potter y sidekick oedd 芒 gwallt coch, a ma hynny braidd yn annheg! Ond dw i ddim yn colli cwsg dros y peth!

Elin: Beth sy'n well gennych - ysgrifennu i blant neu i oedolion?
Caryl: Ma'r ddau yn dod 芒 phleserau gwahanol fydden i'n dweud. Rwy'n mynd at y ddau dasg gyda'r un ffordd a'r un meddwl. I fi, maen nhw yr un mor bwysig 芒'i gilydd. I fi, mae'n broses o addysg, maen rhaid i ni ddenu darllenwyr ifanc a bachu nhw er mwyn iddyn nhw fynd mlaen i ddarllen yn y dyfodol. Ond mae'n gr锚t cael gwrthgyferbyniad pan ti'n sgwennu, achos os ti'n sgwennu nofel eitha' trwm, mae'n gr锚t troi at rywbeth fel Bili Boncyrs yn y pnawn.

Rwy wedi clywed fod yna bennod olaf ychwanegol i Martha Jac a Sianco, na chafodd ei chynnwys yn y gyfrol yn y pen draw. Fyddech chi'n fodlon datgelu'r diwedd fyddai y bennod hynna wedi ei rhoi i'r nofel?
Caryl: Nadw! Wnaethon ni benderfyniad a dw i'n meddwl wnaethon ni'r penderfyniad iawn! Falle mewn blynydde, petai pobl dal 芒 diddordeb, bydden i'n ystyried cyhoeddi'r bennod ola' ar wahan.

Andrew: Pa awduron o Gymru sydd wedi dylanwadu ar eich gwaith?
Caryl: Ymm .. Pan o'n ifanc o'n i'n darllen T Llew Jones a Islwyn Ffowc Ellis, ond yn darllen tipyn o waith awduron Saesneg hefyd. Yr awdur dw i'n mynd yn 么l ato o hyd ac o hyd ydy Thomas Hardy - ei nofelau e a'i farddoniaeth e.

Pa lyfr Cymraeg sydd wrth erchwyn eich gwely chi ar y funud?
'Onibai' gan Eigra Lewis Roberts a 'Rara Avis' gan Manon Rhys. Dw i'n ara iawn yn darllen ar hyn o bryd gan bo fi'n sgwennu nofel. Rwy'n ei chael yn anodd iawn i ddarllen nofelau pobl eraill pan dw i'n sgwennu.

Oes unrhyw le yn y byd wedi bod yn ysbrydoliaeth i chi sgrifennu? Ac os felly - ble?
Caryl: Ceredigion. Ar y trip 'ma i Efrog Newydd r'on i wedi bwriadu cadw dyddiadur, ond rwy' wedi methu. Pan dw i'n teithio, rwy'n rhy brysur yn llyncu popeth sy'n digwydd a bod yn fusneslyd mewn ffordd. Falle ar 么l mynd adre byddai'n rhoi pethe ar bapur. Ond Cymru sy'n fy ysbrydoli fwy na llefydd eraill.

PE: ydych chi wedi cymryd rhan mewn sgwrs ar-lein o'r blaen? Sut brofiad ydy e?
Dw i'n gorwedd yn y gwely mewn gwesty nawr! Mae'n tua 6 y bore yn Efrog Newydd. Dw i wedi blino achos oedd yna barti Gwyl Ddewi neithiwr gyda'r United Nations. Mae gallu gweithio o'r gwely yn braf! Sneb yn gweld ti!

GD: Pobl hunandybus sy'n llenydda - ydi hynny'n wir?
Caryl: Dw i'n mynd yn 么l at un o'r cwestiynau cyntaf a dweud dyw'r awdur i fi ddim mor bwysig 芒 hynny, y gwaith sy'n bwysig Dw i'n derbyn mae na elfen o'r Fi fawr mewn awdur, ond mewn ffordd mae hwnna yn anochel, mae rhaid bod e ond bydden i'n dweud bod awduron yn llai hyderus mewn llawer o ffyrdd. Mae sgwennu yn ffordd passive iawn o gyfathrebu. Yn enwedig sgwennu nofel, sy'n llawer llai cyhoeddus na sgwennu barddoniaeth yng Nghymru.

Caryl: Beth ydych chi'n hoffi gwneud yn eich amser sbar?
Caryl: Rwy'n hoffi rhedeg, oherwydd ei fod yn rhoi balans i fi gyda eistedd wrth y ddesg. Mae hefyd yn helpu fi i gysgu os dw i wedi bod yn sgwennu, mae'n blino'r corff a'r meddwl. Dw i'n hoffi arlunio hefyd ac ysgrifennu cerddi weithie yn Saesneg. A threulio ambell i orig yn y dafarn!

Huw Huws: Beth yw thema y nofel sydd gyda chi ar y gweill ar y funud?
Nofel am farchnad dan do, fel yng Nghaerfyrddin neu yn Llanelli. Mewn ffordd mae hi'n nofel sydd wedi ei lleoli wrth y m么r, o ran y cymeriad. Ac i raddau dw i'n mynd yn 么l yn bellach i'ng ngwreiddiau i, mae lot yn meddwl mai awdur cefn gwlad ydw i, ond ges i fy magu ar lan m么r yn Aberaeron.

SD: Pa lyfr, gan bwy, fyddech chi'n dweud amdano; "Fe hoffwn i fod wedi cael sgrifennu hwnna gyntaf"? A pham?
Caryl: Byden i'n gweud 'Tess of the d'Ubervilles' gan Thomas Hardy oherwydd y ffordd mae e'n medru disgrifio ffordd o natur a chymeriadau yn plethu.

Melanie: Beth fyddai'n gwneud diwrnod i'w gofio i chi?
Caryl: Cael profiadau mewn ffordd. Os wyt ti'n teithio neu yn aros adref, y profiadau ti'n cael sy'n bwysig. Cyfarfod rhywun mewn bar yn Efrog Newydd (Iddew oedd e) a siarad gydag e am ei waith, i fi, yn well na mynd i weld yr Empire State Building. Y cysylltiadau sy rhyngom ni, pethau fel na dw i'n gofio.

Daffodil: Wnaethoch chi unrhyw beth i ddathlu Dydd G诺yl Dewi ddoe?
Caryl: Do. Gan fy mod yn Efrog Newydd a bod digwyddiadau yn digwydd o gwmpas y ddinas hon yn ymwneud 芒 Chymru, fe gerddes i o gwmpas siopau llyfrau yn edrych ar arddangosfeydd o lyfrau Cymraeg. R'on i'n gwisgo cenhinen bedr anferth a phobol yn dod ata i yn gofyn pam. Roedd yr Empire State Building wedi cael ei oleuo mewn lliwiau Cymru neithiwr, ac es i edrych ar hwnnw. Symbol o beth mae'r Cymry wedi ei gyflawni yn Efrog Newydd oedd hynny. Neithiwr es i i barti'r United Nations, gan gyfarfod 芒 phobl o bob man o Gymru sy'n byw yn Efrog Newydd, neu sydd 芒 chysylltiad 芒 Chymru.

Sian: Rydw i'n berson ifanc sy'n mwynhau ysgrifennu. Beth yw eich cyngor i rywun fel fi?
Caryl: Darllen digon. Mae darllen pob math o bethau yn bwysig, pob math o lyfrau o bethau ysgafn i'r clasuron, i bapur nweydd y Sun i'r Reader's Digest! Cael syniad o wahanol arddulliau o sgwennu. Sgwennu digon a mwynhau e, a theimlo beth chi'n sgwennu o'r galon.

Angharad: Sut brofiad oedd ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005
Caryl: Hollol annisgwyl, ac yn brofiad hollol anhygoel. Yn fras, cael eich cydnabod am beth chi'n neud. Mae lot o waith yr awdur yn breifat a sneb yn ei weld. Yn aml mae pobl yn meddwl bod y gwaith yn dod yn naturiol, ond mae na lot o waith yn mynd i mewn i'r llyfrau ac mae'n bwysig bod hynny yn cael ei gydnabod. Roedd yn esgus da am barti hefyd, ac yn gr锚t i fod yno gydag awduron mor dda.

Mae'n wobr bwysig ac yn dod ag awduron at ei gilydd, ac yn eich annog i ddarllen pethe byddech chi ddim di meddwl am darllen. Bydda i'n cyhoeddi'r Rhestr Hir o awduron Llyfr y Flwyddyn heno, rwy'n darllen mewn siop lyfrau yn Brooklyn heno.

Loliwr Lol: Oeddet ti'n ferch ddrwg fel Bily Boncers pan oeddet ti'n fach? Beth roeddet ti'n neud?
Caryl: O'n! Drygioni fwy na dim, a mwynhau! Fi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod gan blant ehywbeth bach yn sili i ddarllen! Ni weithiau yn addysgu plant i'r fath raddau bo nhw ddim yn cael digon o hwyl. Mae eisie' bod bach yn ddrwg weithiau!

Beth: Beth yw'r broses wrth gydweithio gyda darlunydd Byd Boncyrs, Gary Evans?
Ffantastig. Mae'n foi hamddenol, talentog iawn. Yr holl beth yn rhwydd iawn. Dw i'n rhoi'r stori iddo fe wedi torri fyny i dudalennau a mae e'n mynd ati wedyn i ddylunio'r holl beth ac yn dod yn 么l ata i, a ni'n ffodus iawn bod ein gweledigaeth ni mor agos. Dw i byth di gorfod mynd yn 么l a dweud sai'n si诺r am hyn a'r llall. Dw i'n hoffi ei steil a'i arddull, ac mae'n ddyn comic hefyd. Dyw e ddim yn teimlo fel gwaith.

Twm Sion Cati: A chithau'n dal yn ifanc, mae eich rhestr o lyfrau'n sylweddol iawn. Ydych chi'n meddwl y gallwch chi ddal i sgrifennu ar hyd eich oes, neu a fyddwch chi am droi eich llaw at rywbeth arall maes o law?
Caryl: Cwestiwn da. Dw i'n meddwl bod yn rhaid bod yn ofalus, a gochel rhag cynhyrchu gormod yn rhy gyflym. Ar ddiwedd y dydd, hoffwn i sgwennu tra fy mod i ar y byd ma, ond ma' rhaid pwyllo. A gallwch chi ddim cynhyrchu nofel bob blwyddyn am byth. Byddwn i yn ystyried mynd yn 么l i weithio rhywbryd yn y dyfodol, ond cael digon o brosiectau gwahanol i weithio arnyn nhw yw'r ateb i fi. Ffilm, sgriptiau teledu, llyfrau plant, dram芒u, llyfrau addysgiadol gobeithio yn mynd i roi'r hirhoedledd i fi. Ar ddiwedd y dydd, os chi'n sgwennu nofelau yn 25 oed, un arall yn 27, rhaid gofyn y cwestiwn faint yn fwy sydd gen i i'w ddweud yn y byd?

Huw Huws: Faint o ran fyddwch chi'n ei gymryd yn y dewis o ddyluniad a chelfwaith ar gyfer cloriau'ch llyfrau?
Caryl: Dw i'n ffodus iawn fy mod i wedi hoffi cloriau fy llyfrau. Mae gan awdur rhyw fath o ddylanwad. Mae cyhoeddwr yn rhoi briff mor dyn i arlunydd, anaml iawn bydd eich disgwyliadau yn wahanol i'r hyn r'ych chi'n ei dderbyn. Mae llyfrau Cymraeg di gwella ganwaith erbyn hyno ran cynllun y cloriau, ac mae cloriau yn gwerthu llyfrau.

Loliwr Lol: Sut brofiad oedd sgriptio Martha Jac a Sianco? Ydy'r dechneg yn hollol wahanol?
Dw i'n meddwl mai ail sgwennu stori ydych chi'n ei wneud i'r sgrin, yn hytrach na addasu. Roedd cnewyllyn ffilm bron yn y nofel yn barod, mae'n gweithio ar arddull o symbolau a delweddau mae troi hwnna yn ffilm yn rhywbeth hollol wahanol.

Mewn un ffordd mae'n braf achos ti'n teimlo dy fod yn rhan o d卯m, tra bod gweithio ar ben dy hun fel arfer yn gallu bod yn eitha unig. Ond dw i'n mwynhau'r profiad yn fawr iawn ac yn dysgu sgil newydd. Ond dau anifail hollol wahanol yw nofel a ffilm, a dw i'n si诺r bydd na bobl yn trafod hynny os deith y ffilm i'r fei.

Huw Huws: Sut mae'r broses rhwng awdur a golygydd yn gweithio?
Yn rhwydd gobeithio! Rwy'n ffodus iawn bod y Lolfa gyda Golygyddion ffantastig, Mared Roberts a Alun Jones. Mae na lot o wahaniaeth rhwng golygydd a golygydd creadigol, ac ar 么l sgwennu nofel mae'n braf cael rhywun i shario'r bwrdwn gyda mewn ffordd. Bydd Alun er enghraifft, yn trin a thrafod ac fe fyddwn ni yn dod at benderfyniadau rhyngddon ni. Mae Alun yn dda iawn, a wastad yn dweud "dy enw di sydd ar y llyfr, ac mae'n rhaid i ti fod yn hapus 芒'r cynnwys".

Mae'n gr锚t pan mae'r golygydd yn golygu yn sensitif, maen rhaid i bawb dderbyn sylwadau achos mae awdur yn gallu bod yn rhy agos at y gwaith. Gyda MJS ro'n i'n cymryd bod pawb yn gwbod am fywyd fferm wrth sgwennu'r nofel, ond roedd Alun Jones yn annog fi i gymryd cam yn 么l, ac yn gwneud pethe yn fwy eglur i bobl sydd 芒 dim cysylltiad 芒 bywyd gwlad. Mae llygad ffresh yn hanfodol, ac mae rhaid derbyn sylwadau. Proses o ddysgu yw hi.

Gwyn: Wrth s么n am arlunio dywedodd Salvador Dali os nad yw'n hawdd ichi ei fod yn amhosib. Ydi hynny yn wir am sgrifennu?
Caryl: Mae na gyment o lyfrau da ac mae eich llais chi yn gallu cael ei foddi. Mae'n ddilema mae pob awdur yn ei wynebu, ar ddiwedd y dydd beth yw swyddogaeth awdur? Dw i yn meddwl bod awduron yn gorfod gweithio yn galed ar eu llyfrau. Jyst am eich bod chi yn greadigol, mae pobl yn meddwl bod y llyfrau jyst yn ymddangos. Ond dyw hynny ddim yn wir. Copi o fywyd yw llyfr a felly dyw awdur byth yn medru ail greu y byd go iawn.

Gair olaf Caryl: Diolch yn fawr i bawb am y cwestiynau a chymryd amser i'w gofyn. Mae di bod yn ddifyr iawn i orwedd yma yn ateb y cwestiynau. Mae'n bwysig ein bod ni yn dathlu Diwrnod y Llyfr a dangos y llyfrau sydd gyda ni yng Nghymru, a thrwy eu gwerthfawrogi rydyn ni yn neud ffafr 芒'n hunain.

  • e-gardiau Diwrnod y Llyfr Cliciwch

  • Cliciwch i ddarllen mwy am Caryl Lewis

  • Gweithgareddau Diwrnod y Llyfr Cliciwch

  • Gwefan Diwrnod y Llyfr

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Caryl Lewis: Holiadur ym mhapur bro Llais Aeron
    Llyfr y flwyddyn
    Adolygiad o Martha Jac a Sianco


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy