麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bro a Bywyd Iorwerth C. Peate
Adolygiad o Bro a Bywyd Iorwerth C. Peate. Golygydd R. Alun Evans. Barddas. 拢10.



Yn 么l y gyfrol hon gwelwyd y fersiwn cyntaf o'r cyfenw Peate yn Sir Drefaldwyn mewn cofnodion carchar yn yr unfed ganrif ar bymtheg gyda'r disgrifiad "obstinate disenters".

Ni fydd y rhai sy'n cofio Iorwerth Cyfeiliog Peate yn ei chael yn anodd credu ei fod o'r un olyniaeth a rhywrai a ddisgrifiwyd felly.

Yr oedd yn wr a ddaeth i amlygrwydd pennaf fel arloeswr a chynhaliwr yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan ond yr oedd o hefyd yn fardd ac yn ysgrifwr coeth a diwyd.

Ac yn ddyn di-droi'n-么l o argyhoeddiadau dyfnion ac annibyniaeth barn wedi ei besgi ar hen draddodiad rhyddfrydol Sir Drefaldwyn.

Mwynder nid meddalwch
Yn achos Iorwerth Peate rhybuddia R. Alun Evans mewn rhagair i'r gyfrol ragorol hon y dylid "gochel rhag uniaethu 'mwynder Maldwyn' 芒 meddalwch ac esmwythyd."

Nid dyn hawdd ei drin oedd Iorwerth Peate ond un di-dderbyn wyneb gydag argyhoeddiadau cyn gryfed yr oedd yn ymylu ar fod yn ymosodol yn hyd yn oed ei heddychiaeth.

Collodd ei swydd pan yn Geidwad Bywyd Gwerin yn yr Amgueddfa Genedlaethol oherwydd ei safiad a'i gyhuddo gan yr awdurdodau o "drawsfeddiannu awdurdod y Cyngor a'r Cyfarwyddwr" er nad eglurir yn glir yn Bro a Bywyd beth oedd yr union amgylchiadau.

Sefyll yn ddi-ildio
Fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd safodd yn ddi-ildio er gwaethaf sen, fel y pennawd yn y South Wales Echo a ddyfynnir yn Bro a Bywyd, "Regards Hitler as brother".

Ym 1959 cerddodd allan o gyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol mewn protest gwir genedlaetholgar a gwerinol yn erbyn penderfyniad i wahodd y Frenhines i Brifwyl Caerdydd ym 1960 gyda'r Western Mail, yn 么l Bro a Bywyd, yn ei ddisgrifio fel "the leader of the eight rebels" a ymddiswyddodd o'r Pwyllgor Gwaith yng Nghaerdydd.

Law yn llaw a'i ddaliadau cryfion yr oedd ganddo hefyd Gymraeg cyn gadarned yn llawforwyn i fynegi ei farn.

Sgrifennu Fitriolig
Mae R. Alun Evanbs yn s么n am "ei ysgrifennu fitriolig, diwyro" gan ychwanegu:

"Fe allai fod yn feirniad ystyfnig o ddigyfaddawd . . . yn feirniad di-flewyn ar dafod. Yn ei ieuenctid yr oedd cadernid yn ei safiad. Ym mlynyddoedd y canol oed yr oedd bod yn ddigymrodedd yn dal yn rhan o'i gynhysgaeth. Yn ei henaint yr oedd yr un mor anoddefgar at y rhai hynny oddi mewn i sefydliadau fynnai guddio dan gyfaddawd," meddai.

Tynerwch a hynawsedd
Mae hyn, wrth gwrs, mewn peryg o gyfleu'r argraff o ddyn nad yw'n 'neis i'w nabod' a defnyddio ymadrodd y byddai Iorwerth C Peate wedi ei gas谩u! - ond prysura R. Alun Evans i ychwanegu:

". . . o dan y cwbl, yr oedd iddo hefyd dynerwch a hynawsedd. Deuai gw锚n barod i'w wyneb gerwin," meddai. Wrth ei ddesg yn Sain Ffagan

Ac er yn uchelwrol ac yn bendefigaidd o ran osgo clywais ddweud mai cwmni'r gweithwyr a fwynhai yn yr Amgueddfa Werin y gofalai amdani yn Sain Ffagan er mai yn y castell yr oedd yn byw.

Ac meddai R. Alun Evans; "Gwerinwr oedd yn byw mewn castell; gwladwr a dreuliodd ei oes yn ddedwydd ar gyrion dinas; heddychwr milwriaethus; ymneilltuwr na fyddai'n aml yn mynd i gapel enigma o ddyn."

Ond yn gymaint a dim yn ddyn a'i wreiddiau yn ddwfn yn ei gynefin yn Llanbryn-Mair fel y cyflwyd yn y teitl Dyfnder y Gwreiddiau i erthygl amdano yn y Radio Times ym 1981 a ddarlunnir yn y gyfrol.

Lluniau a dyfyniadau
Priodas o luniau a dyfyniadau ydi'r gyfres Bro a Bywyd wedi bod o'r cychwyn cyntaf gan gynnwys yn bennaf ddyfyniadau perthnasol o weithiau'r gwrthychau sy'n amrywio o T. H. Parry-Williams i Ambrose Bebb, R. Williams Parry a T. Rowland Hughes. Cadwyd at y patrwm hwn gan R. Alun Evans mewn cyfrol ag arni 么l ymchwil drwyadl sy'n ei gosod ymhlith y gorau o'r dau ddwsin o gyfrolau a gyhoeddwyd hyd yn hyn.

Caiff pedair prif gangen ei fywyd sylw haeddiannol ei ysgolheictod ym maes diwylliant gwerin, ei farddoniaeth, ei ysgrifau ac hefyd ei argyhoeddiadau cymdeithasol-wleidyddol fel yr adlewyrchwyd hwy yn ei heddychiaeth, ei genedlaetholdeb a'i Gymreictod fel yr ymgorfforwyd hi yn y gymdeithas werinol Gymraeg, draddodiadol.

Condemnio Seisnigrwydd
Credai nad oedd dyfodol i'r iaith Gymraeg dan unrhyw drefn ddwyieithog a chondemniai'n llym unrhyw arlliw o ddylanwad Seisnigrwydd ar y Gymru a drysorai i'r fath raddau yr oedd hyd yn oed y bathiad "hysbys" ar Radio Cymru yn d芒n ar ei groen.

Ymgyrchodd yn gryf ac yn huawdl yn erbyn ymgyrch Tryweryn ac islaw llun ohono yn siarad yn Y Bala fis Hydref 1965 mae'r geiriau:
"Yn ei anerchiad o'r llwyfan meddai: 'Nid digon yw protestio; rhaid rhwystro'r bobl hyn rhag lladd enaid cenedl'" a chyda llun arall mae'r geiriau, "Wrth foddi ardal yng Nghwm Tryweryn y mae darn o Gymreictod yn marw am byth, a cheir rhan o'r enaid cenedlaethol yn marw a diflannu."

Gellir dweud mai diogelu rhag hynny fu prif nod ei fywyd.

Codi awydd
Os mai'r bwriad deublyg y tu 么l i'r gyfres Bro a Bywyd yw ychwanegu at ein gwybodaeth am lenorion ac hefyd godi'r awydd ynom i bori yn eu gweithiau mae'r gyfrol arbennig hon yn llwyddiant.

Dim ond un gwyn sydd yna - a hynny ynglyn 芒 rhai o'r atgynhyrchiadau o doriadau papur newydd y mae'n gwbl amhosib eu darllen heb gymorth chwyddwydr!
Trueni am hynny.
gan Glyn Evans

Oes gennych chi sylw i'w wneud? Cliciwch


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy