麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O'r Cyrion
Dawn newydd - sy'n anesmwytho
  • Adolygiad Hafina Clwyd o O'r Cyrion gan Ioan Kidd. Gomer 拢5.99.


  • Aled Hughes sydd yn gyfrifol am ddelwedd clawr y gyfrol hon.
    Gwelir drws agored yn llifolau ac yn sefyll ynddo greadur dynol afrosgo braidd a rhyw hanner awgrym nad oes ganddo ben.

    Wyth stori geir yn portreadu ofn a thwyll, rhagrith a sefyllfaoedd afreal.

    Clawr y llyfr Nid wyf yn adnabod yr awdur. Brodor o Gwm Afan ydyw ac yn byw erbyn hyn yng Nghaerdydd.

    Mae ganddo dafodiaith ardderchog. Mae ganddo hefyd them芒u sydd yn ein gorfodi i feddwl am y natur ddynol ac y mae ei gymeriadau yn rhai na hoffwn fyw y drws nesaf iddynt.

    Pobl yr ymylon ydynt - ar wah芒n ac yn wahanol i'r gweddill ohonom. (Neu dyna a hoffem feddwl!)

    Efallai ein bod oll wedi dod ar draws ambell berson lawn mor ecsentrig a di-sut 芒'r cymeriadau geir yn yr wyth stori fer yn y gyfrol ffres hon.

    Enghraifft berffaith
    Er enghraifft ceir portread o deulu sydd yn methu cyfathrebu yn yr ail stori Yr Ymwelydd.

    Mae Eirwen y fam, yn yr ysbyty ac yn mwynhau sgwrs hefo claf arall - mae ei sylwadau'n byrlymu wrth iddi s么n am hyn a'r llall a hwn a hon a'u hachau gan roi'r argraff nad oedd hi'n cael cyfle i sgwrsio a hel clecs gartref ac nad oes gan ei gwr na'i mab unrhyw ddiddordeb ynddi.

    Enghraifft berffaith yw'r stori hon o'r ystrydeb - os ystrydeb hefyd - nad yw dynion yn medru datgan eu teimladau na chyfaddef bod ganddyn nhw rai.

    Yn ystod sgwrs Eirwen gyda Doreen yn yr ysbyty dywedir:
    "Byddai sgwrs fel hon yn d芒n ar groen ei dad. Trwy gydol adloniant byrfyfyr ei fam roedd hwnnw wedi mynd i eistedd ar gadair wrth ei gwely gwag."

    Yr oedd Elgan y mab yn ymwybodol o hyn:
    "Deugain mlynedd o gyd-fyw ac o droedio'u llwybrau cyffredin ar wah芒n."

    Gwlanen o ddyn
    Hoffais hefyd Yr Arwr Lleol - stori Glyndwr Rees druan, gwlanen o ddyn swil heb gael cyfle i fod yn gl锚n nac yn ddewr.

    Y teip sydd wedi cael ei fwlio yn ddidrugaredd yn yr ysgol.

    Cafodd eiliad o arwriaeth pan fynnodd amddiffyn y teulu Indiaidd oedd yn cael eu bygwth yn eu siop bapurau. Ond aeth hynny hefyd yn lludw llwyd.

    Rhyfeddaf a thristaf
    Y stori ryfeddaf a thristaf yw Talu'r Pris pan welwn briod a thad yn dirywio'n feddyliol o flaen ein llygaid.

    Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn hanner cant penderfynodd y dyn yma wneud datganiad ac yr oedd ei wraig yn llawn gobaith am drip i'r Carib卯 neu debyg ond dyma ei eiriau syfrdanol:
    "Gan ddechrau heddiw, rwy'n bwriadu codi t芒l ar bob un ohonom ni am ddefnyddio'r t欧 yma. Mewn geiriau eraill rwy'n mynd i osod y t欧 ar rent i bawb sy'n byw yma."

    Ond dim ond dechrau'r gwallgofrwydd oedd hynny. Aeth pethau o ddrwg i waeth a'r fam a'r ddau fab erbyn y diwedd yn gorfod talu am bopeth - pob un yn byw yn ei ofod bach ei hun gyda hyd yn oed fetr d诺r yn cael ei osod ar gyfer pob un.

    Mae'r cyfan yn mynd yn fwyfwy swrealaidd ond wrth chwerthin uwch ben y fath ffwlbri y mae un hefyd yn llawn arswyd o ddarllen am wallgofrwydd y tad.

    Ac yn wfftio hefyd at ddiffyg asgwrn cefn gweddill y teulu.

    Pob un yn ysgwyd
    Wyth stori yn amrywio o ran hyd a thema ond pob un yn medru ysgytio.

    Mae yma sgrifennu pwerus a chreu sefyllfa a gosod golygfa sydd yn aros yn y meddwl.

    Yr oeddwn i'n teimlo'n anesmwyth iawn ar ddiwedd pob un ond nid oes dim byd o'i le ar hynny.
    Gwelir yma ddawn newydd.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Ioan Kidd


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy