Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Monica
Dafad ddu llenyddiaeth
  • Sylwadau gan Glyn Jones ar Monica, Saunders Lewis.

    Un o ddefaid duon ein llenyddiaeth yw Monica, nofel gyntaf Saunders Lewis, a hynny am ei bod yn trafod thema wrthodedig.

    Yng ngeiriau'r awdur: ". . . pechod yw priodoledd arbennig dyn, y peth mwyaf dynol mewn bod, ac felly'n anhepgor i farddoniaeth a llên."

    Nid thema newydd i'n llên mo hon.
    Cawn ddarlun byw iawn o bechod Theomemphus yng ngherdd epig Williams Pantycelyn, a dyna pam y cyflwynodd Saunders Lewis ei nofel i goffadwriaeth y gŵr hwnnw.

    Ond yn wahanol i Theomemphus, nid yw Monica yn edifarhau nac yn troi at y Groes, a chredaf mai dyna pam y gwrthodwyd y nofel pan y'i cyhoeddwyd.

    O bechod i bechod
    Hercian o bechod i bechod yw hanes Monica Maciwan, heb wybod paham, a heb fedru gwneud dim am y peth.

    Mewn ymgais i ddod a fflach o liw i'w bywyd undonog dechreua gerdded strydoedd Caerdydd yn chwilio am fechgyn; yna daw ei chwaer â bachgen adref, a theimla Monica'r nwydau'n fflamio oddi mewn iddi.

    Rhydd ei bryd ar ddwyn cariad ei chwaer, a dyna a wnaiff gan fyw mewn blys o gnawdolrwydd gydag ef nes beichiogi.

    Dyma'r trobwynt. Fel yr eglura i'w gŵr:
    "Tegan oeddit ti i mi. Cherais i mohonot ti'n onest erioed."

    Troi'n salwch
    Ac o ganlyniad dechreua gasáu ei chorff afluniaidd, y babi a'i hanffurfia, a'r gŵr a'i beichiogodd.

    Try ei hunigrwydd yn salwch meddwl gwyrdroëdig.
    Dechreua esgeuluso ei hun, i gosbi'i gŵr a'r baban yn ei chroth.
    Erys yn ei gwely am fisoedd ar y tro.
    Mae'r darlun yn ddigon i godi cyfog.

    "Cronasai briwsion a darnau bwyd yn dew dan ei chluniau a'i thraed . . . Yr oedd olion cyfog ar y blancedi ac ar yr huling wrth droed y gwely. Yr oedd ei choesau hi yn dywyll ac wedi chwyddo, a lleiniau chwyslyd dan ei gên ac ar ei gwddf a'i dwyfron. Gorweddai Monica yn drom a disymud yng nghanol y drewdod."

    Fodd bynnag, nid yw ei chynllun yn gweithio. Yn ei rwystredigaeth aiff Bob ei gwrdd â phutain a deil afiechyd rhywiol.

    Dychmygwch gyhoeddi nofel fel hon yn y Tridegau!

    Darlunio cymdeithas
    Mae'r nofel yn dechrau yn syth drwy ddarlunio cymdeithas:
    '"Clyw'r wraig yna eto."
    "Honno sy'n chwerthin?"
    "O hyd ac o hyd. Mae'n crafu ar fy nerfau i. Bob hwyr bydd hi a'i gŵr yn sgwrsio gyda Mrs North, ac waeth beth a ddywedo'r gŵr, bydd hi'n ei glywed yn ddigri. . . Dos at y ffenest yn awr."

    Cymdeithas fusneslyd, feirniadol sydd yma. Cymdeithas nad yw'n gymdeithas.

    Pan ddaw Monica i'r llun yn llawn, ychydig baragraffau wedyn, gwelwn yr effaith a gaiff cymdeithas fel hon ar unigolyn:

    "Mae'n gas gen i'r babi yn awr cyn ei weld. Fyddaf i ddim byw, wyddoch chi."
    Chwarddodd Mrs Maciwan yn ddilywodraeth."

    Dyma enghraifft benigamp o ddawn ddramodyddol Saunders Lewis. Gall ennyn ein chwilfrydedd gyda chymeriad a sefyllfa sinistr fel hon.

    Gwraig nad yw'n ddeugain eto yn sôn am ei marwolaeth ac yn chwerthin.
    Rhaid darllen ymlaen.

    Crefft symbolaeth
    Mae defnydd crefftus o symbolaeth yma hefyd. Mae tai pâr y maestrefi yn cynrychioli'r pâr priodasol; yn gaeth i'w gilydd ond yn ynysig o bopeth arall.
    "Rhesi . . . o uffernau twt, pob un a'i gardd flodau o'i blaen."

    Mae cathod Monica yn cynrychioli ei hafiechyd. Sala'n byd aiff hi agosa'n byd y deuant nes eu bod erbyn diwedd y nofel yn cysgu gyda hi.

    Cymhara Monica grud ei phlentyn ag arch ac mae'n darganfod gwenwyn yn un o ddroriau ei gŵr, a hithau'n meddwl am farwolaeth.

    Gwendidau
    Ond nid yw'r nofel heb ei gwendidau, a hynny'n bennaf am mai dramodydd yw Saunders Lewis nid nofelydd.

    Mae gorysgrifennu a pharagraffau o ddisgrifio.

    A dyna ichi Alis a Lili. Esgus o gymeriadau ydynt. Yno ond i Monica gael dod atynt i adrodd ei hanes trasig.

    Credaf hefyd fod y traethydd hollbresennol yn traethu'n rhy holl bresennol weithiau:

    "Nid y claf yw unig anrhaith afiechyd. Rheibia weithiau gryfder yr ifanc, gan ei gipio ymaith oddi wrth hoywder bywyd a'i glymu wrth erchwyn gwely i weini mewn drycsawr a myllni ar ysglyfaeth angau."

    Pam na edy'r awdur i Monica adrodd ei stori yma?
    Profiad ail law a gawn.

    Nid yw'r diweddglo yn gwbl addawol ychwaith wrth i Monica fynd o amgylch y tai doctor i ffeindio doctor ei gŵr.

    Y mae un o'r doctoriaid hyn yn ffonio ei gyfaill, lle mae Bob yn gorwedd.

    A Monica wedyn yn llithro i'r llawr tu allan i'r union dŷ hwnnw, ychydig funudau cyn i'w gŵr adael. Gormod o gyd-ddigwyddiad.

    Yn ddim ond cant ac ugain o dudalennau, nofel fer yw Monica ac er yn nofel ych a fi, mae'n nofel graff gan awdur deallus.

    Astudia thema sy'n gwbl berthnasol i'n byd ni heddiw - gwacter ysbryd a'i hachosion, y modd mae'r rhain yn arwain at bechod, a hwnnw yn ei dro, at ddinistr.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý