麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Brwydr y Bradwr gan Cefin Roberts
Adolygiad Catrin Jones o Brwydr y Bradwr gan Cefin Roberts. Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2003. Gwasg Gwynedd, 拢5.95


Buarth fferm a thwlc mochyn dyma rai o'r lleoliadau y cawn ein tywys iddynt gan Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Clawr y nofelYn ei nofel Brwydr y Bradwr mae Cefin Roberts yn ein taflu i ganol byd yr anifeiliaid, byd creulon a didostur.

Byw ar fferm
Mochyn bach o'r enw Morgan yw'r prif gymeriad: "Morgan y mochyn bach eiddil, Morgan cannwyll llygaid ei fam. Morgan y bradwr. Morgan freuddwydiwr. Morgan y gwan."Mae Morgan yn byw gyda'i fam a'i frodyr ar fferm Rhydlasau - fferm lewyrchus er gwaetha'r pwysau cynyddol ar amaethyddiaeth a chwmwl du clwy'r traed a'r genau. Yn ystod y nofel rydym yn cael ein cyflwyno i'r holl anifeiliaid a theulu'r fferm.

Mae'r stori yn cael ei hadrodd gan fam Morgan wrth iddi dreulio ei horiau olaf ar y ffordd i'r lladd-dy.

Un gwahanol
O'r dechrau gwelwn fod Morgan yn fochyn bach gwahanol, "yn fochyn bach ar wah芒n, yn fochyn bach na fedrai na lawer o anifeiliaid y buarth glosio ato fo."

Ond does ganddo fawr o ddewis dros ei dynged mewn gwirionedd. Ychydig oriau wedi ei eni mae Mali, merch y fferm, yn penderfynu ei fabwysiadu yn anifail anwes. O'r eiliad honno mae Morgan wedi ei wneud yn wahanol. Am y tro cyntaf yn hanes y fferm mae mochyn yn cyd-fyw 芒 dyn.

Wrth i'r nofel fynd yn ei blaen gwelwn ddylanwad Mali ar Morgan wrth iddi ei wisgo mewn dillad, ei rowlio mewn pram a'i drin fel person go iawn. Cymaint yw'r dylanwad nes bod Morgan yn dechrau ymddwyn fel dyn.

Bywyd yn Uffern
Ond er ei fod yn cael ei drin fel brenin gan Mali, ar fuarth y fferm mae bywyd Morgan yn uffern. Mae'r anifeiliaid eraill yn ei alw yn fradwr ac mae eu cenfigen yn amlwg. Mae Morgan yn deall hynny.

"Mond am fod Mali'n ffeind efo fi. Mond am mai fi sy'n cael y sylw" meddai wrth ei fam.

Ni allwn beidio 芒 thosturio wrtho.Heb os, mae Cefin Roberts wedi llwyddo i dreiddio i fyd yr anifeiliaid. Dydi hynny dim yn hawdd ac roeddwn i'n amau cyn dechrau darllen a fyddwn i'n mwynhau nofel drwy lygaid mochyn.

Er iddi gymryd sawl pennod i mi ddod i arfer 芒 hyn, erbyn canol y llyfr roeddwn wedi ymgolli yn y stori ac yn ysu i wybod beth fyddai tynged Morgan.

Mae arddull yr awdur yn gymorth i'n tynnu i fyd y nofel. Mae'r iaith lafar naturiol yn argyhoeddi a does dim rhyfedd i Eirug Wyn ddweud yn ei feirniadaeth y byddai'n "rhyfeddu pe na bai'r awdur hwn eisoes wedi gwneud ei farc ym myd y theatr yng Nghymru."

Ysgrifennu cyfoethog
Ond un peth yw ysgrifennu deialog, peth arall yw troi hynny wedyn yn nofel a darlunio golygfeydd a'i wisgo gyda llu o ddelweddau. Ond mae Cefin wedi llwyddo i wneud hyn ac mae yma ysgrifennu cyfoethog a chymariaethau gwych fel "Y m么r fel ffrog sidan ddu, a'r m芒n donnau'n dal llewyrch y lloergan ac yn wincio fel mwclis arian arni."

Mae adrodd y stori o safbwynt y fam yn y person cyntaf yn gweithio er i mi deimlo fod yr awdur weithiau yn ail adrodd. Roeddwn i'n teimlo fod y symud parhaus o'r gorffennol i'r presennol a'r llad-dy yn digwydd yn rhy aml ac yn torri ar rediad y stori.

Ond gwendid bychan yw hynny mewn nofel dda sy'n dweud cymaint am y ddynoliaeth a natur dyn drwy lygaid anifail.

Cysylltiadau Perthnasol


Ebostiwch eich sylwadau chi

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy