麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Marion Eames
Marw un o'n nofelwyr hanes mwyaf blaenllaw
Ym marwolaeth Marion Eames collodd Cymru un o'i phrif nofelwyr hanes.

Daeth i amlygrwydd yn 1969 gyda'i nofel Y Stafell Ddirgel yn ymwneud ag erledigaeth y Crynwyr yn ardal Dolgellau, Meirionnydd a'u mudo i'r Unol Daleithiau.

Fe'i dilynwyd ymhen tair blynedd gan Y Rhandir Mwyn yn dilyn hynt y Crynwyr yn ymsefydlu yn y Wlad Newydd dan arweiniad William Penn ym Mhensylfania.

Addaswyd y ddwy nofel ar gyfer y teledu gan y 麻豆约拍 ac fe'u cyfieithwyd i'r Saesneg yn y Saithdegau.

Yn 1982 sgrifennodd nofel i gydfynd a gweithgareddau i nodi saith canmlwyddiant lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf, Y Gaeaf Sydd Unig.

Meddai Derec Llwyd Morgan:

Yn talu teyrnged i Marion Eames ar Post Pnawn ar 麻豆约拍 Radio Cymru gosododd Derec Llwyd Morgan hi "yn rheng flaen" nofelwyr Cymru.

"Yr oedd triniaeth Marion Eames o'r cyfnod [yn Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn] yn ofnadwy o gyfoethog . . . ac yr oedd hi'n adnabod crefyddolder a bodolrwydd ei phobl ac fe ystytrir y nofelau o'r dechrau yn weithiau pwysig," meddai.

Ac wedi i'r ddwy nofel gael eu haddasu ar gyfer y teledu daeth i sylw cynulleidfa eangach fyth meddai.

"Ar ddau gam megis yr oedd Marion Eames yn rheng flaenaf nofelwyr ei gwlad," meddai.

Ei gwlad yn bwysig
"Yr oedd ei gwlad hi, ei hen hanes a'i gwleidyddiaeth gyfoes, yn bwysig ofnadwy i Marion Eames," meddai.

Cyfeiriodd hefyd at ei nofel I Hela Cnau am rai a ymfudodd o Gymru, eto, ond i Benbedw y tro hwn, yn oes Victoria.

"Ac eto mae ei hoff Sir Feirionnydd hi yma yn amlwg - ac rwy'n pwysleisio Sir Feirionnydd achos yn Nolgellau y magwyd Marion Eames ac i Ddolgellau y dewisodd hi fynd i fyw ar 么l ymddeol - ond ym Mhenbedw y'i ganed hi a does dim amheuaeth iddi weithio profiad teuluol ac astudiaeth bersonol yn ddychmygus dda [i'r nofel]," meddai.

Gwahanol eto
Disgrifiodd nofel arall, Seren Gaeth fel un "wahanol eto" yn ymwneud 芒 hanes priodas fer Morfudd Llwyn Owain y cerddor ag Ernest Jones, cofiannydd Sigmund Freud.

Ond ychwanegodd bod rhywfaint ohoni hi ei hun yn y nofel hon hefyd.

"Oherwydd yr oedd hi yn gerddgar ac yn eu hieuenctid wedi astudio'r piano a'r delyn yn ysgol Y Guildhall yn Llundain. Ond yn wahanol i Hanna yn y nofel nid gydag academydd y priododd Marian Eames ond gyda newyddiadurwr, g诺r bonheddig, hyfryd, o'r enw Griffith Williams."


  • Nofelydd hanes nad oedd yn dda mewn Hanes!

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Nofelydd hanes nad oedd yn dda mewn Hanes!


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy