麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfres Dymuniadau Da a Barddoniaeth Boced-din
Adolygiad o Limrigau Prysor gan Dewi Prysor a Geiriau Doeth ac I Godi'r Galon gan Tegwyn Jones.




Limrigau Prysor gan Dewi Prysor, Cyfres Barddoniaeth Boced-din. Gwasg Carreg Gwalch 拢3.50.
Geiriau Doeth ac I Godi'r Galon gan Tegwyn Jones. Cyfres Dymuniadau da. Gwasg Carreg Gwalch. 拢2.99 yr un.

"Mae'n wirion, mae'n waci, mae'n wych!"
Clawr y gyfrol Anodd iawn ymwrthod 芒 chyfrol sy'n cael ei disgrifio fel yna. Bydd y rhai hynny sy'n gyfarwydd 芒 darlleniadau cyhoeddus Dewi Prysor o'i limrigau niferus yn ei chael yn anos fyth gan iddo ennill cryn enw da yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau ac ar Dalwrn y radio.

"Mae Dewi Prysor wedi rhoi'i stamp ei hun ar y mesur. Does fawr neb yn cael deg marc amdanyn nhw ar y Talwrn ond mae hwn," meddai'r broliant ar gefn y gyfrol hon mewn cyfres sy'n cael ei galw yn Barddoniaeth boced-din a llawn cystal bod y gair boced yna rhwng y ddau arall gan y gall limrigau fod y llall hefyd!.

Mesur hwylus
Llyfryn bach 64 tudalen yn mesur rhyw bedair modfedd efo chwech ydi Limrigau Poced ac yn cynnwys rhyw 170 o limrigau i gyd.

Mae'r limrig yn fesur hwylus ar gyfer tipyn o hwyl ond er mor hawdd a rhwydd y gall ymddangos dydi creu limrig da ddim yn gamp cwbl ddiymdrech.

Yn aml, daw'r pedair llinell gyntaf yn gymharol rwydd - rhoi pen ar y mwdwl ydi'r gamp gan fod y llinell glo yn aml iawn yn gadael y 'bardd' i lawr!

Yn ffodus iawn, prin yn y gyfrol hon yw'r enghreifftiau o hynny'n digwydd ac mae Dewi Prysor yn gallu clymu'r rhan fwyaf o'i ymdrechion yn barseli bach digon taclus.

Eithriad yw un sy'n cychwyn mor addawol a hon
Mi es i fin nos i bysgota
Ar lannau Llyn Tegid ger Bala;
Wrth obeithio dal wopyr
Gesi'r stori'm y monstyr

ond yn gorffen gyda'r llinell siomedig
A bachais y bws cyntaf adra.

Gyda'r un llinell gyntaf, mae'r nesaf 'ma'n plesio'n well:
Mi es i fin nos i bysgota
Peth anodd os gin ti'm penglinia,
'Chos mae'n anodd iawn castio
Heb rheini'th syportio,
Ond mae'n llawer anoddach heb freichiau.

Weithiau, mae'r darlun yn gwbl swreal er efallai nad yw'r gafael ar y mesur gant y cant yn achos y ffermwr o'r Traws a'i iar ryfeddol:
Mae ffarmwr o Traws wedi bridio
I芒r ddodwy wya 'di cwcio,
Sganddi'm plu, mae hi'n noeth,
A mae'i thin hi mor boeth
Mae hefyd 'nei hiwsio i weldio.

Y cyfuniad perffaith o'r afreal a'r dichwaeth y byddai rhywun yn ei ddymuno mewn limrig!

A lle, yn wir, fyddai unrhyw limrigwr heb Gymreigiadau o eiriau Saesneg i'w helpu gyda'r odl?

Ac, wrth gwrs, mwya'n byd yr amwyster rhywiol, gorau'n byd y limrig yng ngolwg llawer:
Mi oedd gan Elliw wiwer,
Un ufudd ac addfwyn ei thymer,
Roedd y wiwer yn hoffi,
Ffeindio llefydd i'w chosi,
Ac roedd Elliw yn gwenu bob amser.

Ond rhaid imi gyfaddef mai'r limrigau hynny sy'n hongian ar fachyn yr afreal sy'n apelio fwyaf ataf i:
Roedd gan Christine Gwyther gwningan
Ond fe'i collodd yng ngwallt Rhodri Morgan
A cyn cyfri i dri
Roedd y bwni fach ffri
Di lluosi i ddwy fil ar hugain.

Cyfres Dymuniadau da
Yn y ddwy gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres Dymuniadau Da o lyfrau - sydd yr un maint a llyfryn Dewi Prysor - yr ydych debycach o ddod o hyd i englynion neu epigramau taclus na limrigau beiddgar gan fod y llyfrynnau hyn yn fwy syber na'r llall.

Nid bod yn feirniadol yw dweud hynny gan fod y gyfres hon yn un hynod o ddymunol ac yn un yr awgrymais o'r blaen yr hoffwn ei gweld yn cael ei chasglu ynghyd mewn cyfrol foethusach ei diwyg maes o law.

Clawr y gyfrolCyhoeddwyd dau deitl yn barod, Lle i Enaid Gael Llonydd a Serch ac mae I Godi'r Galon a Geiriau Doeth yn ychwanegiadau na ellir ond eu croesawu - er gwaethaf gweld peth o'i gynnyrch ei hun yn cael ei ddyfynnu!

I gyfleu eu natur nid oes angen ond dyrnaid o ddyfyniadau o'r ddwy:

Geiriau Doeth:
Beth yw bod yn genedl? Dawn
yn nwfn y galon.
Beth yw gwladgarwch? Cadw ty
Mewn cwmwl tystion. Waldo Williams.

Beth yw gobaith? Y gwybod -
O dan y bai fod da'n bod. T. James Jones

Sosialaeth
'Run cyfle i bawb
'Run faint i bob un
A thipyn bach ecstra
I mi fy hun. Iwan Griffiths

Pan fo dyn yn dwyn o un llyfr, fe elwir hynny'n ll锚n-ladrad: ond pan fo'n dwyn o lawer o lyfrau, fe elwir hynny'n ymchwil. T. H. Parry-Williams.

Cadw dy droed allan o dy dy gymydog rhag iddo flino arnat a'th gas谩u. Llyfr y Diarhebion

I Godi'r galon:
Os wyt am fynd yn hen
Dos yn Gynghorydd Sir,
Ni fyddi fyw am byth
Ond byddi fyw yn hir. Arfon Huws, Llanengan.

Clawr y gyfrolEr serchus gof am y Warden Ianto
Fu farw'n sydyn a'i gremeto,
Gwasgaewyd ei lwch ar y stryd yn y Bermo
Er mwyn i bawb gael parco arno. Alun Jenkins, Pontarfynach.

Fe gredai bardd o Gwm Pen Anner
Fod limrigau yn rhy hir o'r han... Wynne Ellis

Buddiol ar ddiwedd y cyfrolau yw'r mynegai i'r gwahanol ffynonellau.
gan Glyn Evans


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy