Alan Llwyd yn trafod Hedd Wyn y bardd, Eisteddfod Penbedw ac agweddau at ryfel
Tri chlip sain i wrando arnynt
Pe byddai Hedd Wyn wedi ennill y gadair yr oedd yn ei haeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 mae'n gwbl bosibl na fyddai yn 'Eisteddfod y Gadair Ddu' ym Mhenbedw y flwyddyn wedyn.
Ond ail ddaeth y bardd yn Aberystwyth a hynny yn 么l y Prifardd Alan Llwyd a barodd iddo gystadlu eto yn 1917 gan wybod y gallai hwn fod ei gyfle olaf ac yntau' wedi ei anfon yn filwr i ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc.
"Ond pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth mae'n gwbl bosibl na fyddai o wedi trafferthu cystadlu yn 1917," meddai Alan Llwyd wrth drafod gwahanol agweddau o waith Hedd Wyn ac Eisteddfod y Gadair Ddu ar raglen Dei Tomos ar 麻豆约拍 Radio Cymru, nos Sul 16 Medi 2007.
Gellir gwrando ar rannau o'r sgwrs isod:
Seremoni ddwys arall yr un diwrnod yn Eisteddfod Penbedw:
Dywedodd Alan Llwyd, yr arbenigwr pennaf ar Hedd Wyn ac awdur y ciofiant Gwae Fi fy Myw bod seremoni arall hynod o ddwys a "dirdynnol" ar lwyfan Eisteddfod Penbedw y bore cyn seremoni Y Gadair Ddu.
"Ond fe gafodd y seremoni honno ei anghofio oherwydd beth a ddigwyddodd yn y pnawn," meddai.
Seremoni'r Gadair Ddu
Yn 么l Alan Llwyd yr oedd rhywun wedi ei ddewis i gynrychioli Hedd Wyn yn seremoni'r cadeirio ym Mhenbedw - Rolant Wyn a oedd yn perthyn i deulu'r Ysgwrn ac yn ysgrifennydd pwyllgor yr Orsedd yn yr Eisteddfod.
Ond ar y munud olaf ni chafodd ei alw a gorchuddiwyd y gadair a lliain du.
Ac yn 么l Alan Llwyd yr oedd sibrydion o gwmpas y maes y bore hwnnw mai felly y byddai gydag un papur newydd Saesneg wedi enwi Hedd Wyn fel y bardd buddugol a'r ffaith iddo gael ei ladd yn Ffrainc.
Ar y llwyfan ar gyfer yr achlysur yr oedd Syr John Morris-Jones a'r Parchedig John Williams Brynsiencyn a fu'n amlwg yn yr ymdrech i berswadio Cymry ifainc i ymuno 芒'r lluoedd arfog.
Ond un o feirniaid y gystadleuaeth oedd T Gwynn Jones, heddychwr pybyr a oedd "yn ffieiddio" rhyfel ac yn gignoeth ei feirniadaeth Morris-Jones a John Williams a sentimentalrwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y seremoni.
Yr oedd eironi arbennig yn y ffaith fod y ddau a recriwtuiodd gymaint o Gymry ifainc yn eu dagrau ar y llwyfan.
Yr oedd y gynulleidfa fawr, hithau, yn ei dagrau hefyd gyda bron bob aelod ohoni yn si诺r o fod wedi colli rhywun yn y rhyfel hefyd ac yn gallu uniaethu a theulu'r bardd.
"Achos mi ddaeth [y digwyddiad] a'r rhyfel reit i lwyfan y Genedlaethol efo'r un person yna yn cynrychioli cehedlaethol [o fechgyn a gollwyd]," meddai Alan Llwyd.
Hedd Wyn - yr olaf o'r beirdd rhamantaidd. Cymharu 'Yr Arwr' a 'Mab y bwthyn', Cynan.
Disgrifiwyd Hedd Wyn fel yr olaf o'r beirdd rhamantaidd yng Nghymru gan Alan Llwyd.
"Yr oedd dylanwad Shelley yn gryf iawn arno," meddai.
Dywedodd mai am ei gerddi llai y bydd yn cael ei gofio yn hytrach nag awdl 'Yr Arwr' a chymharodd yr ymateb i honno i'r ymateb a fu i bryddest gwrth ryfel arall, 'Mab y Bwthyn, gan Cynan.
Ychwanegodd mai Hedd Wyn ddylai fod wedi cael y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 gydag un o'r beirniaid, J J Williams eisiau ei wobrwyo ond Syr John Morris-Jones o blaid ymgais J Ellis Williams a gadeiriwyd.
Yn 么l Alan Llwyd mae'n gwbl bosibl na fyddai Hedd wyn wedi ymgeisio eto pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth.