Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Dan Lygaid y Gestapo
Ymryson y beirniaid
Adolygiad Grahame Davies o: O Dan Lygaid y Gestapo, gan Simon Brooks, Gwasg Prifysgol Cymru, tt 201, £14.99.

A chymaint o ysgrifennu Cymraeg cyfoes megis cerrig arfaethedig newydd yr Orsedd - yn ysgafn, yn ddynwaredol ac yn fyrhoedlog - dyma faen llog o lyfr. Fel y graig, mae'n swmpus, yn sylweddol ac yn amhosibl i'w anwybyddu. Ac fel y graig hefyd, mae'n galed.

Is-deitl yr astudiaeth hon, y ddiweddaraf yng nghyfres nodedig 'Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig' o dan olygyddiaeth John Rowlands, yw 'Yr Oleuedigaeth Gymraeg a theori lenyddol yng Nghymru.' Ar y dechrau fel hyn, cystal fyddai imi geisio crisialu ei dadl, er mai anodd yw gwneud hynny mewn ychydig eiriau.

Clawr y llyfr Safbwynt yr awdur yw bod yr Oleuedigaeth - sef y broses o ddyrchafu rheswm uwchlaw datguddiad a ddigwyddodd yng ngwledydd mawrion Ewrop yn y ddeunawfed ganrif - wedi meddu ar agweddau gwrth-ryddfrydol ac wedi arwain at sawl canlyniad llai na 'goleuedig'. Hynny yw, drwy orseddu rheswm ac effeithiolrwydd, a thrwy safoni ieithoedd mawrion fel cyfryngau dysg a rhyddfrydiaeth, roedd yn gwthio diwylliannau lleiafrifol i'r neilltu ac yn cyfiawnhau difa arwahanrwydd diwylliannol yn enw 'cynydd,' 'rhesymoldeb' a 'chyfartaledd.'

Y mae'r asesiad hwn, sy'n deillio, fel y mae Brooks yn nodi, o awduron Ffrengig ac Almaenaidd yr ugeinfed ganrif, yn mynd cryn bellter at esbonio pan y mae pobl honedig ryddfrydol yn y Gymru sydd ohoni yn gallu lladd ar y Gymraeg heb dramgwyddo eu cydwybod.

Goleuedigaeth y Gymru Gymraeg
Serch hynny, nid brwydr iaith y presennol yw prif ffocws yr awdur, ac er mor dreiddgar ei ddadansoddiad o darddiad rhyddfrydiaeth wrth-leiafrifol, nid âi ati i droi'r gyllell honno yn y briw. Roedd hynny'n syndod braidd o ystyried ei amlygrwydd ef ei hun yn y frwydr honno. Yn hytrach, canolbwyntia ar olrhain gwahanol dueddiadau ym meirniadaeth Gymraeg yn sgil ymateb y gymuned Gymraeg i syniadau'r Oleuedigaeth.

Yn ganolog fan hyn y mae ei haeriad bod yr Oleuedigaeth wedi cyrraedd y byd Cymraeg ryw ganrif wedi iddi effeithio diwylliannau mawrion y Gorllewin. O ganlyniad, wrth i ddeallusion yr Oleuedigaeth Gymraeg - a Syr John Morris Jones yn bennaf yn eu plith - fynd ati i safoni orgraff eu hiaith hwythau, a gosod safonau beirniadol y diwylliant, fe gymerodd y broses honno ffurf hanfodol geidwadol.

Roedd y Saesneg eisoes wedi meddiannu uchelfannau'r byd deallusol a'r disgwrs cyhoeddus, gan hawlio'r syniadau o gynnydd ac o ryddfrydiaeth ar gyfer yr iaith honno. Roedd yr Oleuedigaeth Gymraeg felly, tra'n cyflawni'r swyddogaeth oleuedig hollbwysig o safoni'r diwylliant lleiafrifol fel na châi ei wthio i'r neilltu fel diwylliant gwerin yn unig, serch hynny yn cael ei hun mewn sefyllfa o orfodi unffurfiaeth geidwadol o fewn ei ffiniau ei hun er mwyn amddiffyn ei hunaniaeth yn wyneb pwysau'r Saesneg. "Goleuedigaeth an-oleuedig" yw eiddo'r byd Cymraeg felly, meddai'r awdur.

 ymlaen i ddangos fel y bu'n rhaid i gynheiliaid diwylliant y Gymraeg lafurio yng nghysgod y sefyllfa yma byth ers hynny, gyda charfan lywodraethol y diwylliant hwnnw yn drwm ei lach ar unrhyw un a fentra beidio â chydymffurfio â'r safonau cydnabyddiedig, boed o ran orgraff, chwaeth neu gywirdeb iaith.

Dyfyniad di-chwaeth
Dyna arwyddocad teitl y llyfr. Daw'r dyfyniad o ysgrif gan T.J.Morgan yn 1951, lle cwynai'r athro am y pwysau a deimlai'r llenor Cymraeg i gydymffurfio â safonau ei ddiwylliant, yn bennaf drwy sicrhau purdeb iaith. 'Nid amhriodol' meddau Morgan, 'ei chymharu â'r Gestapo neu'r Ogpu.'

Wel, ie, amhriodol iawn yw cymhariaeth felly, mae arna' i ofn. Er mor anoddefgar a llawdrwm y gall cynheiliaid safonau'r Gymraeg fod, chafodd neb eu lladd mewn gwersyll angau na'u halltudio i Siberia am gamdreiglo.

Mae'n rhaid imi ddweud i'r dyfyniad hwn, a'r defnydd ohono fel teitl y llyfr, beri anesmwythyd mawr imi. Gormodiaith ddi-chwaeth ar ran T.J.Morgan ydoedd, ac nid yw treigl hanner canrif wedi ei gwneud yn fwy priodol i ddisgrifio cecru mewnol y diwylliant Cymraeg yn nhermau rhai o drasiedïau mwyaf dirdynnol hanes, termau sydd wedi eu rhuddo â gwaed diniweidiaid lawer. Mae dilysu'r gymhariaeth drwy ei defnyddio fel teitl y llyfr yn fy marn i yn dibrisio'r termau eithriadol gostus yma mewn modd sy'n annheilwng o ansawdd deallusol ac annibyniaeth barn y llyfr disglair hwn.

Eofn a thrylwyr
Achos mae hwn yn llyfr disglair, yn heriol yn ei uchelgais, yn ddigyfaddawd yn ei ddeallusrwydd, yn drylwyr ac yn eang yn ei ysgolheictod ac yn eofn yn y modd y mae'n cwestiynu seiliau athronyddol a rhagdybiaethau'r diwylliant y mae'r awdur ei hun wedi gwneud cymaint i'w amddiffyn.

Ond nid llyfr hawdd mohono. Yn hanner cyntaf y llyfr, cefais yr holl sôn am 'Oleuedigaeth' (gyda phrif lythyren), a 'goleuedigaeth' (heb y brif lythyren), ac am y cyflwr 'an-oleuedig', yn fy ngadael, os nad yn y tywyllwch yn llwyr, yna'n sicr yn y cyfnos am gyfnodau.

Cymer gryn sbel cyn i'r ddadl ddod yn eglur. Fe ddigwyddodd hynny, i fi, dros hanner ffordd drwy'r llyfr, ar ddechrau'r adran 'Cenedlaetholdeb', ac fe fentraf awgrymu nad drwg o beth fyddai i ddarllennydd droi yn syth at y tudalennau yma, rhwng 113 a 115 am grynhoad eglurach o un o ddadlau canolog y llyfr nag a geir yn y penodau cynharach.

Gydol y llyfr, teimlais y llinell ddilechdid yn llacio o bryd i'w gilydd wrth i'r awdur ymdrin â gwahanol ymatebion beirniaid a llenorion Cymraeg i'w sefyllfa ddiwylliannol. Yn y bôn, yr hyn a geir yma yw astudiaeth o gyfres o ymatebion gwahanol i'r sefyllfa honno, megis Calfiniaeth, Marcsiaeth, neu ffeminyddiaeth. I'm meddwl teleolegol innau - i ddefnyddio un o hoff dermau'r awdur, i ddisgrifio dadl sy'n anelu at nod terfynol - fe allaswn fod wedi dymuno am fwy o deimlad o gyfeiriad ac o amcan, yn enwedig o gyrraedd diwedd y daith lle teimlais yr angen am grynhoad o arwyddocad y daith y mae'r awdur wedi ein tywys drwyddi.

Beirniaid craff.
Bu'n daith heriol, yn sicr. Ar ei dechrau, mae Brooks yn darparu rhywfaint o gyfarpar angenrheidiol i'r rhai sydd am ei mentro hi, drwy roi geirfa fach o'r termau beirniadol y byddid yn dod ar eu traws maes o law, megis 'ontoleg', epistemeg', 'didwythol' ac 'anwythol.' Gall neb ddweud na chawsant eu rhybuddio o'r dirwedd o'u blaenau.

A yw'n werth y daith, felly? Ydy, heb os nac onibai. Er yr her, nid taith ddiflas na maith mohoni o gwbl. Un o ragoriaethau'r llyfr yw'r ffaith ei fod yn llwyddo i ail-gyflwyno i'r disgwrs cenedlaethol waith llu o feirniaid craff.

Dyna R.T. Jenkins, er enghraifft. Nid oeddwn wedi ystyried mor finiog ei feddwl ac mor ffraeth ei fynegiant oedd y Llafurwr hwn, na chwaith mor soffistigedig oedd y dadleuon deallusol parthed cenedlaetholdeb y bu ef yn cyfrannu iddynt yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, dadleuon sydd yn dal yn ymddangos yn syndod o gyfoes a pherthasol.

Diddorol oedd darllen dyfyniad o erthygl ganddo o 1940, 'Casglu Ffyrdd', lle mae'n sôn am farcio map o Gymru gyda'r holl lonydd sydd o arwyddocâd personol iddo. Dyfynnir erthygl gan Syr T.H.Parry-Williams o 1935 sy'n dweud rhywbeth tebyg iawn hefyd. Sy'n dangos nad oes dim byd newydd dan haul, achos syniad tebyg iawn sydd gan Twm Morys yn ei gerdd gampus yn ei gyfrol 2 lle sonia am sut i ddarllen y map yn iawn drwy roi twll pin ym mhob man sydd o arwyddocâd personol. Rhybudd, felly, rhag inni dybio mai gyda'r presennol y mae'r doethineb i gyd.

Ysgogi meddwl
Mae'r gyfrol yn frith o ddyfyniadau bachog gan feirniaid y cyfnodau dan sylw, sy'n dod â ni at ddechrau'r nawdegau, ac mae rhywun yn synnu at fywiogrwydd a safon llawer o'r feirniadaeth a ysgogwyd gan argyfyngau'r oes. Cefais fy hun yn tanlinellu dyfyniad ar ôl dyfyniad gan bobl megis John Rowlands, Dafydd Elis-Thomas neu Gerwyn Wiliams.

Fe'm ysgogwyd droeon i gwestiynu fy nhybiaethau fy hun, ac er imi deimlo'r awydd o bryd i'w gilydd i godi am awyr o blith ymrafael yr haniaethau, fe'm gorfodwyd i ail-asesu fy nealltwriaeth o nifer o bynciau ac fe'm heriwyd i geisio meddwl o'r newydd am rai o'r problemau sydd wedi blino'r genedl, ac sy'n dal i wneud hynny. Nid oes rhaid cytuno â syniadau'r awdur er mwyn i'r llyfr wneud ei waith o ysgogi meddwl.

Cyfraniad pwysig
Er enghraifft, yn y bennod olaf, cofnodir gwahanol garfanau gwleidyddol yr 80au i gyd yn bygwth dryllio'r drefn gyfalafol oedd ohoni yng Nghymru. Er na ddywedir hynny gan yr awdur, fe'm trawyd gan y ffaith mai methiant fu'r holl obeithion yna, ac mai'r caswir yw bod cyfalafiaeth wedi ennill, a hynny'n ysgubol. Cefais fy hun yn meddwl tybed onid gwell fyddai peidio â dyheu am ryw Ddydd y Farn feseianaidd pan yr ysgubir anghyfiawnder ymaith; tybiais efallai mai gwell fyddai derbyn mai byd cyfalafol sydd gennym a cheisio troi dŵr y drefn honno i felin y brosiect genedlaethol.

A oedd awgrym o rywbeth felly yn niweddglo Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn yn ddiweddar, er enghraifft?

Byddai peryg o grwydro o ffiniau'r adolygiad drwy ddilyn trywydd felly, ond hanfod llyfr da yw ei fod yn ysgogi'r darllennydd i feddwl ymhellach, a dyna yn sicr a wneir yn y gyfrol gyfoethog a threiddgar hon.

Yn ddiau, mae'r llyfr hwn wedi gwneud cyfraniad pwysig at ein feirniadaeth gyfoes drwy grisialu llawer o ddadleuon beirniadaeth lenyddol a chymdeithasegol yr ugeinfed ganrif, gan eu gosod mewn cyd-destun Cymreig ac Ewropeaidd, a chan herio safbwyntiau ceidwadol a rhyddfrydol fel ei gilydd, a hynny gydag ehofndra ac ysgolheictod dwys.

Ymateb Simon Brooks

"Un o gonfensiynau'r byd cyhoeddi Cymraeg yw na ddylai awduron ymateb i adolygiadau. Wn i ddim pa mor iach yw hynny, oherwydd mae'n siwr i ni golli fel canlyniad sawl dadl a allai fod wedi bod o fudd. Wedi'r cwbl, os diben llyfr beirniadol yw esgor ar drafodaeth, oni ddylai'r awdur fod yn barod i fod yn rhan o'r drafodaeth honno, a chael y cwrteisi i ymateb i ddehongliadau ar ei waith? Yn yr ysbryd hwnnw felly, rwyf am ymateb i un elfen o adolygiad Grahame Davies o'm llyfr, O Dan Lygaid y Gestapo.

"Yn yr adolygiad hwn, mae Grahame Davies yn beirniadu'r defnydd o'r gair 'Gestapo' yn y teitl. Mae'n nodi i'r gair 'Gestapo' gael ei godi gennyf o ysgrif a luniwyd gan Yr Athro T. J. Morgan yn 1949, ac sy'n cyfeirio at gysylltiad posib rhwng 'purdeb' ac erlid diwylliannol yn y cyd-destun Cymraeg. Mae'n dadlau fod fy mhenderfyniad i arddel y dyfyniad fel teitl y llyfr yn 'dilysu' dadl T.J. Morgan, dadl sydd, yn ei farn ef, yn cymharu 'cecru mewnol y diwylliant Cymraeg' â 'thrasiedïau' totalitariaeth. Oherwydd hyn, mae'r teitl yn 'dibrisio'r termau eithriadol gostus', sef llofruddio miliynau lawer, a nodweddai dotalitariaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif.

"Ond roedd y cymhelliad i ddewis 'O Dan Lygaid y Gestapo' yn deitl ar fy nghyfrol yn llawer dwysach na dymuniad i dalfyrru gwaith T.J. Morgan. Y prif ddylanwad damcaniaethol ar fy llyfr yw gwaith yr athronwyr Marcsaidd, Theodor Adorno a Max Horkheimer. Ac ill dau o dras Almeinig-Iddewig, dadleuasant yn eu Dilechdid Goleuedigaeth (1944) fod Natsïaeth yn ffrwyth y 'dotalitariaeth' athronyddol fu, yn eu tyb hwy, ymhlyg yn yr Oleuedigaeth Ewropeaidd. Mae llyfr Adorno yn feirniadol tu hwnt o 'resymegaeth oleuedig' a'i hanoddefgarwch tuag at 'ddieithrwch' diwylliannau gwahanol.

"Fe wna Adorno ei sylwadau, wrth gwrs, yng nghyd-destun gwrth-semitiaeth. Ond fe barodd i mi ofyn i mi fy hun tybed a oedd peth tebygrwydd rhwng y rhagfarn hon yn erbyn Iddewiaeth yn Ewrop, a rhagfarn yn erbyn ieithoedd llai? Oherwydd yn sicr iawn fe ellid dadlau mai 'rhesymegaeth oleuedig' y diwylliannau mawr yw'r prif reswm pam y bu i ieithoedd llai edwino ers y ddeunawfed ganrif.

"Oherwydd fod rhesymegaeth yr Oleuedigaeth yn ddolen gyswllt yn fy marn i rhwng gwrth-semitiaeth ac erlid ar leiafrifoedd ieithyddol y penderfynais alw fy llyfr yn 'O Dan Lygaid y Gestapo'. Nid trosiad diog oedd y defnydd o'r gair 'Gestapo'.

Er hynny, rwyf eisiau nodi'n glir fy mod yn cyd-synio â Grahame Davies pan ddywed ei bod yn bwysig eithriadol i nodi'r gwahaniaeth rhwng profiadau ieithoedd llai a'r profiad Iddewig yn Ewrop yr ugeinfed ganrif. Os bu i ieithoedd lleiafrifol edwino, ac yn wir ddiflannu mewn sawl achos, digwyddodd hynny heb drais, yn bennaf oherwydd y gellir dileu iaith trwy gymhathiad 'heddychlon'.

Roedd obsesiwn y Natsïaid â phurdeb gwaed ar y llaw arall yn golygu mai'r unig ffordd o ddileu Iddewiaeth oedd trwy lofruddiaeth. Roedd yr Holocost yn unigryw yn hanes Ewrop o ran ei ffieidd-dra. Nid oes cymhariaeth rhwng yr Holocost a hynt y Gymraeg."



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý