麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Diwrnod y Llyfr - digwyddiadau 2007
Rhestr o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr
PIGION O WEITHGAREDDAU DIWRNOD Y LLYFR 2007
  • Darlith Diwrnod y Llyfr 2007
    Rhiannon Lloyd, Prifathrawes Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Chydlynydd y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol (1998-99) fydd yn traddodi darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr, a hynny yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth, 27 Chwefror. Cadeirydd y noson fydd Jane Davidson AC, Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

  • Gair ar led

  • Argraffwyd mwy na 100,000 o gardiau post arbennig, a nod yr ymgyrch yw cael pobl sy'n mwynhau llyfrau i rannu eu ffefrynnau gyda'u ffrindiau ymhell ac agos a'u hannog nhw i'w darllen hefyd. Bydd y cardiau post i'w cael mewn ysgolion, llyfrgelloedd a nifer o fannau eraill gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru a Gerddi Llannerchaeon.

  • Stori Sydyn / Quick Reads

  • Bydd 4 teitl Cymraeg a 4 theitl Saesneg newydd yn cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr.

    Bydd Tanni Grey-Thompson, un o awduron y cynllun, yn ymweld 芒 Charchar Caerdydd a bydd rhai o'r awduron eraill yn rhan o weithgaredd arbennig yn Aberystwyth. Awduron eraill llyfrau 2007 yw Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Gary Slaymaker, Gareth F. Williams, Fiona Phillips (GMTV), Lindsay Ashford a Niall Griffiths.

  • Taith Awduron

  • Bydd deg awdur ac un darlunydd llyfrau plant yn cynnal 23 sesiwn mewn siopau llyfrau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Anwen Francis, Morgan Tomos, Martin Morgan, Mei Mac, Ruth Morgan, Chris Glynn, Phil Carradice, Jenny Sullivan, Gwen Lasarus, Si芒n Lewis a Rob Lewis.

  • Rhwydwaith Fideo Cymru

  • Am y tro cyntaf bydd tri awdur yn rhan o sesiynau fideogynadledda gyda disgyblion ysgolion uwchradd ar Ddiwrnod y Llyfr. Bydd Bedwyr Rees, Catherine Fisher a Mihangel Morgan yn cynnal sesiynau ar gyfer ysgolion Morgan Llwyd, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Elfed, Caereinion, Alun, Castell Alun a Chwm Rhymni.

  • Croesair yn y Papurau Bro

  • Bydd degau o bapurau bro yn cyhoeddi croesair arbennig yn seiliedig ar lyfrau yn rhifynnau misoedd cyntaf 2007.

  • Llyfrau ar gyfer Elusennau

  • Mae cannoedd o aelodau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched yn casglu llyfrau ar gyfer siopau'r elusennau canlynol - Barnardo, Y Groes Goch, Tenovus, Ty Gobaith yng Nghymru, Oxfam, Ty Hafan, Byddin yr Iachawdwriaeth, Ymchwil Cancr Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, R.S.P.C.A. ac Ambiwlans Awyr Cymru.

  • CADW

  • Bydd nifer o feirdd, awduron a stor茂wyr yn cynnal sesiynau yn nghestyll Conwy, Caernarfon, Cas-gwent, Cydweli, Cricieth, Biwmaris, yn ogystal ag Abaty Tyndyrn a Chwrt Tretwr. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan mae Menna Elfyn, Gwen Pritchard Jones, Mair Wynn Hughes, Fiona Collins, Eric Maddern, Gwynfor a Margaret Jones, Josie Felce a David Ambrose.

  • Llyfr y Flwyddyn 2007

  • Cyhoeddir rhestrau hir Llyfr y Flwyddyn a Book of the Year yn y Senedd. Trefnir y digwyddiad gan yr Academi. Gwneir y cyhoeddiad yn y gogledd yn Llyfrgell Dinbych ar yr un pryd. Bydd actorion yn perfformio darnau o lyfrau'r Rhestr Hir yn ystod y digwyddiad.

  • Ysgol Gynradd Penuwch, Ceredigion

  • Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi gofyn i nifer o enwogion lleol a chenedlaethol i'w helpu i greu llyfrgell sain unigryw trwy recordio darn bychan o'u hoff lyfr ar d芒p neu CD, a'i anfon i'r ysgol. Eisoes mae llu o unigolion wedi addo cefnogi'r fenter, gan gynnwys Huw Edwards, Archesgob Caergaint, Catrin Finch, Hywel Gwynfryn, Lucy Owen, Meinir Gwilym Derek Brockway, Gillian Elisa, Geraint Lloyd a Rob Shelley.

  • Pentre Bach Sali Mali, Blaenpennal, Ceredigion

  • Wythnos o weithgareddau ar gyfer plant ysgolion Ceredigion yng nghwmni actorion cyfres Pentre Bach allu o feirdd, awduron a darlunwyr, gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Mererid Hopwood, Geraint Lovgreen, Jac Jones ac Angharad Tomos.

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio gyda phobl ifanc o ysgolion Ceredigion ar y thema 'Taith y Llyfr'. Bydd hyn yn cynnwys edrych nid yn unig ar y broses o dderbyn, catalogio a.y.b. o fewn y Llyfrgell ei hun, ond hefyd yn edrych ar ddulliau hen a newydd o argraffu, cynhyrchu a rhwymo llyfrau.

    Traddodir darlith gan y Dr Rhidian Griffiths - 'Dinas a osodir ar fryn: canrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru' yng Nghanolfan Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

    Byd y Llyfr - arddangosfeydd ar John Donne a Robert Owen.

    Gr诺p Llyfryddol Aberystwyth - arddangosfa o rwymiadau cain.

    Bydd Cymdeithas Staff y Llyfrgell yn darllen yn ddi-dor yn y Drwm rhwng wyth y bore ac wyth y nos, a hynny mewn sawl iaith. Gwahoddir pawb fydd yn galw heibio i gyflwyno llyfr ar gyfer elusen Book Aid International.

  • Castell Bodelwyddan

  • Darlleniadau o farddoniaeth, yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan nifer o feirdd, gan gynnwys Grahame Davies, Twm Morus, Zo毛 Skoulding a Christine Evans.

  • Lansiadau

  • Aberystwyth
    Diwrnod o weithgareddau gan Honno ar 4 Mawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a fydd yn cynnwys; gweithdy ysgrifennu gyda Janet Thomas; Cwrdd y Golygydd - sesiynnau gyda Caroline Oakley; lansio'r teitl 'Stange Days Indeed'. Llandre
    @ebol yn yn lansio'r gyfres newydd 'Chwarae a Dysgu'. Myddfai
    Bydd Grandma's Stories yn cynnal cystadleuaeth i chwilio am fam-gu sy'n siarad Cymraeg i ddarllen eu llyfrau er mwyn eu gosod ar CD-Rom. Hwlffordd
    Lansiad a chwrdd 芒'r awdur: bydd Brian John yn lansio argraffiad Corgi o Dark Angel, gyda sgwrs o dan y teitl Mistress Martha and the Angel Mountain Saga i ddilyn.

  • Gweithgareddau Mewn Ysgolion, Llyfrgelloedd a lleoliadau eraill

  • Awdurdod Llyfrgell Caerdydd
    Gweithgareddau fydd yn cysylltu Diwrnod y Llyfr ac ymgyrch Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru. Dethlir Diwrnod y Llyfr trwy gael sesiynau stor茂au ar gyfer teuluoedd ac ysgolion a digwyddiadau gydag awduron, yn ystod pythefnos gyntaf mis Mawrth. Trwy gynnwys teuluoedd, bwriedir cyflwyno llyfrau Stori Sydyn i oedolion a'u hannog i helpu eu plant trwy ddarllen fel teulu. Awdurdod Llyfrgell Casnewydd
    Chwiliwch am Gacen Ben-blwydd Diwrnod y Llyfr. Bydd lluniau o'r gacen ben-blwydd wedi'u cuddio yn y llyfrgell. Bydd y cwsmeriaid yn chwilio amdanynt ac yn cael tocyn llyfr os byddant yn llwyddo.

    Awdurdod Llyfrgell Castell-nedd Port Talbot
    Rhaglen o ddigwyddiadau trwy'r wythnos mewn llyfrgelloedd a chanolfannau eraill yn cynnwys: chwedleua gyda Daniel Morden; sesiwn awdur gyda Catrin Collier; sesiwn awdur gydag Ann Cleeves; sesiwn ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Cyflwyniadau ar gyfer digwyddiad Odl a Ch芒n a chystadleuaeth y llyfrgell yn Theatr y Princess Royal.

    Awdurdod Llyfrgell Ceredigion
    Prosiect ysgrifennu stor茂au gwreiddol am y m么r - yn cydweithio gyda'r Amgueddfa. Stor茂au yn cael eu darlllen/perfformio gan Jeremy Turner a Sue Jones Davies. Cystadleuaeth ar agor i oedolion a phlant.

    Awdurdod Llyfrgell Gwynedd
    'PANAD a PHENNOD' / 'DIP and SIP' Bydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd yn rhedeg ymgyrch 'Hoff lyfr Gwynedd' eto eleni gan wahodd enwebiadau gan y cyhoedd a defnyddwyr llyfrgelloedd . Bwriedir cyflwyno mwg gyda'r geiriau 'PANAD a PHENNOD' / 'DIP and SIP' i'r cant cyntaf i enwebu llyfr yn ystod yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr. Gwneir hyn i annog enwebiadau ac i hybu cyfeiriadau we www.gwales.com a Talis (Catalog Llyfrgell Gwynedd). Cyhoeddir Hoff Lyfr Gwynedd yn fuan ar 么l Diwrnod y Llyfr.

    Awdurdod Llyfrgell Merthyr Tudful
    Sgwrs gan yr awdur Babs Horton - achlysur am ddim. Cwis Diwrnod y Llyfr: Cwis gyda'r nos rhwng pedair ysgol uwchradd yn yr ardal. Cwpan a chasgliad o lyfrau ar gyfer llyfrgell yr ysgol yn wobr. Prynu casgliad bach o lyfrau Saesneg gan awduron o Gymru, ar gyfer y Ward Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Siarl.

    Awdurdod Llyfrgell Sir Fynwy
    Nosweithiau darllenwyr ar thema Gymreig i gyfuno Dydd G诺yl Dewi a Diwrnod y Llyfr, yn Llyfrgell Cas-gwent a Llyfrgell y Fenni. Ar y noson, ceir darlleniadau o ffuglen Saesneg ar thema Gymreig (naill ai wedi'i lleoli yng Nghymru neu gan awdur o Gymru) a chyfle i brofi gwin o Gymru, caws o Gymru a phice ar y maen.

    Awdurdod Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
    Cychwyn casgliad o sachau stori dwyieithog i'w defnyddio mewn llyfrgelloedd ar gyfer 'amser stori' a sesiynau ar gyfer babanod a phlant bach. Caiff y casgliad hwn ei lansio yn Llyfrgell Maesteg adeg Diwrnod y Llyfr.

    Awdurdod Addysg Ceredigion
    Bydd disgyblion Blwyddyn 6 (Cynradd) a Blwyddyn 7 (Uwchradd) yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Bydd y gweithgareddau'n amrywiol iawn - megis gweithdy ysgrifennu cerddi; cwisiau darllen; sesiwn stori, tasgau Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol yn ogystal 芒 phethau ymarferol fel creu llyfrnodau. Bydd y gweithgareddau hyn yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unol 芒 chefndir ieithyddol y disgyblion. Bydd holl ysgolion y cylch yn rhan o'r dathliad.

    Adran Addysg Conwy
    Dwy gystadleuaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Creu cyflwyniad electronig yn seiliedig ar lyfr plant o ddewis yr ysgol ac sy'n adlewyrchu'r Dimensiwn Cymreig.

    Awdurdod Addysg Sir Ddinbych
    Ymweliad gan awdur ar gyfer holl ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Prestatyn. Bydd y disgyblion yn gwneud gwaith ymchwil i ddysgu am yr awdur yn ystod y gwersi Saesneg cyn yr ymweliad. Hefyd, gobeithir cynnal cystadleuaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion wedi'i seilio ar y cwis teledu 'Mastermind'. Bydd y disgyblion yn cael dewis un nofel o ryw dair neu bump a gofynnir cwestiynau am y nofel/pwnc. Rhoddir gwobrau a gobeithio y bydd hyn yn annog darllenwyr cyndyn i fwynhau darllen.

    Awdurdod Addysg Fflint
    Cynhelir y gweithgareddau canlynol: Angharad Tomos yn gweithio gyda phlant o ddwy ysgol Gymraeg y sir; gweithdy barddoniaeth gyda Levi Tatari ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 10 a 11; sesiwn gyda'r awdures Sherry Ashworth ar gyfer disgyblion chweched dosbarth yn un o ysgolion uwchradd y sir.

    Awdurdod Addysg Gwynedd
    Gweithgaredd ysgol gyfan gyda chyswllt ag adrannau eraill o fewn yr ysgol i hybu llyfrau ac i annog gweithio traws gwricwlaidd. Pytiau blasu o lyfrau gwahanol - ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth - yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cael eu dylunio (gyda chymorth adran Gelf/TGCh/Technoleg ayb yr ysgol) a'u gosod i fyny ar draws ac ar hyd yr ysgol gyfan. Helfa drysor ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9.

    Awdurdod Addysg Merthyr Tudful
    Digwyddiad i hybu rhigymau plant bach a'r straeon y tu 么l iddynt, a'u manteision i blant bach a'u teuluoedd, yng Nghanolfan Blant Cwm Golau, Pentre-bach, Merthyr Tudful.

    Awdurdod Addysg Pen-y-bont ar Ogwr
    Gweithdai adrodd straeon/ysgrifennu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 ac 8 yn Ysgol Gyfun Ogwr. Bydd cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf a phartneriaid eraill yn helpu i gynllunio a chyflwyno'r diwrnod.

    Awdurdod Addysg Torfaen
    Athro/artist lleol i weithio gyda disgyblion yn Ysgol Gymunedol Trevethin ac Ysgol Abersychan i ddod 芒 llyfrau'n fyw trwy gyfrwng defnyddiau 'Schools Out' Literacy goes MADD a llyfrau barddoniaeth. Darllen a chreu barddoniaeth, mwynhau drama a cherddoriaeth.

    Awdurdod Addysg Ynys M么n
    Dwy sesiwn gan yr awdur cynhyrchiol, John Malam - 'Make a non-fiction book: a role-playing workshop' ar gyfer dis Awdurdod Addysg Ynys M么n / Anglesey Education Authority
    ,br> Dwy sesiwn gan yr awdur cynhyrchiol, John Malam - 'Make a non-fiction book: a role-playing workshop' ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7/8 yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Blwyddyn 7/8 yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

    Treforys
    Ysgol Gyfun Treforus: Cwis llyfrau yn seiliedig ar y rhaglen deledu 'Who Wants to be a Millionnaire'.

    Y Barri
    Ysgol Iau Babyddol St Helen's: Cystadleuaeth Pa Lyfr? - dewis 10 llyfr adnabyddus a'r gamp fydd cysylltu'r teitl cywir gyda naill ai y llinell gyntaf, y llinell olaf neu ddarlun o'r llyfr; ymuno yn ymgyrch 'Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru'; adolygiadau llyfrau; defnyddio cardiau post Gair ar Led; sesiwn stori; bore coffi a stondin lyfrau.

    Caerdydd
    Ysgol Gynradd Babyddol St Bernadette: Deg ucha'r dosbarth - 10 awdur, 10 teitl, 10 cymeriad o lyfr, ac arddangos y canlyniadau ar y waliau; gwahodd y plant i wisgo fel cymeriadau o lyfr; defnyddio cardiau post Gair ar Led; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; sesiwn stori; sillafu neu ddarllen noddedig; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; creu proffiliau awdur; hoff lyfr/cas lyfr - cyflwyniadau llafar/trafodaeth gr诺p.

    Castell Newydd Emlyn
    Ysgol Gyfun Emlyn: Cystadleuaeth Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr? - rhestr o enwau 10 person a rhestr o 10 teitl a'r gamp fydd cyplysu'r person cywir gyda'r llyfr y mae'n ei ddarllen ar hyn o bryd; cystadleuaeth Pa Lyfr? - dewis 10 llyfr adnabyddus a'r gamp fydd cysylltu'r teitl cywir gyda naill ai y llinell gyntaf, y llinell olaf neu ddarlun o'r llyfr; gweithgaredd staff - cwis dros baned amser egwyl.

    Glyncorrwg
    Ysgol Gynradd Glyncorrwg: Gwahodd y plant i wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr; y staff i wisgo fel cymeriadau o lyfrau a byddant yn mynd i wahanol ddosbarthiadau i ddarllen stor茂au sy'n cynnwys y cymeriadau hynny.

    Saltney
    Ysgol Uwchradd St David's: Y gwahanol ddosbarthiadau i ysgrifennu stori yn dilyn patrwm arbennig a bydd yr athrawon yn gorffen y stori drwy ysgrifennu'r paragraff olaf - bwriedir paratoi detholiad o'r stor茂au gorffenedig erbyn Diwrnod y Llyfr.

    Y Bala
    Ysgol Bro Tegid: Ymuno yn ymgyrch 'Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru' defnyddio cardiau post Gair ar Led; trefnu Pont Stori gyda'r ysgol uwchradd leol; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; sesiwn stori; criw o ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 o Ysgol y Berwyn yn dod i'r ysgol i drafod y llyfrau maent yn eu darllen ar hyn o bryd ac wedi eu darllen 10 mlynedd yn 么l.

    Bethesda
    Ysgol Dyffryn Ogwen: Darllen noddedig; cynhadledd fideo gyda'r awdur Bedwyr Rees; ymweliad gan yr awdures Gwen Lasarus.

    Y Bala
    Ysgol y Berwyn: Cystadleuaeth dyfalu llinell gyntaf y nofel - cysylltu'r llinell i'r nofel gywir; gwneud 'collage' ar yr hysbysfwrdd o hoff lyfrau'r disgyblion' aelodau'r Chweched Dosbarth i ymweld 芒'r ysgol gynradd leol i drafod y llyfrau maent yn eu darllen ar hyn o bryd ac wedi eu darllen 10 mlynedd yn 么l.



    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy