麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Rhwyd
Gafael o glawr i glawr

  • Adolygiad Huw Alun Foulkes o nofel Caryl Lewis, Y Rhwyd.
  • Tra'n pori silffoedd llyfrau siop Gymraeg dros yr haf deuthum ar draws cyfres o nofelau ac arnynt sticer Stori Sydyn wedi eu cyhoeddi gan Y Lolfa.

    Dyma benderfynu prynu un neu ddwy gan obeithio cael nofelau cryno, difyr a hawdd i'w darllen.

    Rhan annatod Un o'r nofelau hynny oedd Y Rhwyd gan yr awdures amryddawn Caryl Lewis.

    Rydym yn hen gyfarwydd ag enw Caryl a hithau bellach yn rhan annatod o lenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005 am ei nofel Martha, Jac a Sianco ac mae'n ysgrifennu llyfrau i blant ac i bobl ifanc yn eu harddegau.

    Diben y gyfres Stori Sydyn yw ysbrydoli oedolion i fynd ati i ddarllen llyfrau Cymraeg mewn oes pan fo nifer yn troi at y Saesneg am straeon crafog, effeithiol.

    Cyfrol denau yw Y Rhwyd ac un a gymrodd lai na dwyawr i'w darllen ar un eisteddiad - arwydd sicr o stori dda.

    Ffin denauMae'r ffin yn denau iawn rhwng ysgrifennu stori fer - hir - a nofel ond llwyddodd yr awdur i grynhoi nifer o nodweddion y ddau gyfrwng gan gadw'r plot yn syml a dealladwy a'i strwythuro'n eglur gyda thro eithaf annisgwyl yn y gynffon.

    Stori Meic sydd yma a'i berthynas gyda'i deulu - ei wraig, Eirlys, ei ferch, Beca a'i fab ifanc, Jac.

    Taith Meic ydi'r stori mewn gwirionedd - taith dwyllodrus, gymhleth ar un wedd ond un sy'n eithaf rhagweladwy hefyd.

    Taith i chwilio am y 'rhywbeth bach ecstra' yna gan ddilyn ffantas茂au merched ar y we, trefnu i'w cyfarfod a chael perthynas gudd 芒 hwynt heb i'w wraig ddarganfod y gwirionedd.

    Llwydda i 'rwydo' Paul, ei ffrind pennaf i gadw arno a hwnnw ar drywydd taith ei hun i chwilio am yfory gwell yn dilyn ei ysgariad.

    Fodd bynnag, does yna ddim i rwydo'r darllenydd yn y nofel hon.

    TafodiaithMae'r ysgrifennu'n glir ac yn dangos meistrolaeth heb ei hail ar dafodiaith. Gwyddwn o'r cychwyn ein bod yng nghwmni awdur sy'n sicr o'i chrefft ac yn gwbl ymwybodol o'i chynulleidfa.

    Mae'r deialogi, o bosib, yn rhagori ar y naratif gan wneud imi feddwl pa mor hawdd fyddai ei haddasu'n sgript ffilm.

    Er bod y penodau sy'n troi o amgylch Meic a Paul yn frith o regfeydd mase'n bwrpasol a heb or-ddefnydd. Mae'r nifer o ymadroddion Saesneg, wedyn, yn adlewyrchu'r gymdeithas sydd ohoni yn gwbl realistig.

    Braidd yn sydynFy unig feirniadaeth yw i'r nofel orffen braidd yn sydyn gyda'r penodau olaf yn fyr a digwyddiadau yn un rhibidir锚s ond tebyg mai dyna fwriad 'stori sydyn' a'r cyfan yn cael ei adrodd 芒 chyn lleied o eiriau 芒 phosib.

    Ac er nad oes yma ddim byd newydd mewn gwirionedd mae'r plot yn datblygu a'r stori'n ddifyr ac mae'r angen yn sicr am fwy o nofelau byrion fel hyn a gobeithio'n wir y bydd y rhai hynny sydd awydd darllen nofel Gymraeg yn dewis Y Rhwyd - cant eu rhwydo a'u swyno o glawr i glawr.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆约拍 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy