麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dal Hi
Hunllef a hwyl
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Dal Hi gan Caryl Lewis. Lolfa. 拢7.99.


  • Wrth bori rhwng silffoedd fy siop lyfrau leol daliodd y nofel Dal Hi! gan Caryl Lewis fy sylw.

    O edrych ar y clawr deniadol ac apelgar penderfynais fod stori werth chweil rhwng y cloriau hyn - ac ni chefais fy siomi!

    Clawr y llyfr Nid oes cyflwyniad ffurfiol o'r cymeriadau ar ddechrau'r nofel; yn wir, nid yw'n amlwg o safbwynt pwy mae'r stori yn cael ei hadrodd ond mae'n cychwyn gyda brawddeg agoriadol drawiadol iawn!

    Wedi imi ddeall mai stori am griw o ferched sy'n cystadlu mewn cystadleuaeth tynnu rhaff yw hi roeddwn wedi fy machu.

    O safbwynt Heledd (Hels i'w ffrindiau) y cawn y stori. Mae hi a'i ffrindiau yn wynebu treialon bywyd gan gynnwys cecru cariadon, cwympo mas rhwng cyfeillion a bradychu.

    Mae'r nofel yn dechrau ar y cae - ble arall?! - lle mae'r merched wrthi'n brysur yn ymarfer tynnu rhaff gyda'r hyfforddwr, Les, yn gweiddi nerth esgyrn ei ben arnynt a hwythau bron ag yml芒dd.

    Maes o law, daw yr hyfforddwr haerllug 芒'r ymarfer i ben (o'r diwedd!) - ond yn hwyr (fel arfer!) a dyma baratoadau'r noson yn mynd 芒 bryd y ffrindiau.

    Ceir darlun deublyg iawn o'r merched - yn gras ac yn galed wrth dynnu rhaff ond yn fenywaidd ac yn hwyliog wrth dynnu dynion, meddwi a mwynhau.

    Yn dilyn yr anrhydedd o ennill un bencampwriaeth tynnu rhaff daw hunllef i ran ffrind gorau Heledd wrth i fam Nerys farw yn dilyn salwch.

    Nid yw Heledd yn gwybod sut mae ymdopi 芒'r cyfrifoldeb o sicrhau nad yw ei ffrind yn suddo dan y don.

    Wrth geisio helpu 'Ner' i ddygymod 芒 marwolaeth ei mam mae Heledd hefyd yn cael ei hysgwyd ei hun wrth i Si么n, ei phartner, ei gadael i fynd i Awstralia.

    Er taw o safbwynt Heledd yr adroddir y stori, bywyd Nerys sydd dan y chwyddwydr.

    A'r stori yn dod i'w therfyn a chorwyntoedd bywydau'r merched fel pe'n cilio, dyma Si么n yn glanio ar stepen drws Heledd gan erfyn am faddeuant.
    Wel, rhaid i rywbeth gorddi'r dyfroedd yn 'does?!

    Felly, beth mae Heledd i'w wneud?
    Maddau i Si么n a'i groesawu 芒 breichiau agored ynteu cau'r drws yn glep yn ei wyneb ac aros efo Deian ei phartner newydd?

    Mae'r stori'n gorffen yn benagored a Charyl Lewis yn gadael i'r darllenwyr ddod i gasgliad.

    Yn fy marn i, bydd Heledd yn gadael Deian gan wneud iawn am yr amser a gollodd efo Si么n!
    Ond pwy a 诺yr?

    Er bod y cynnwys yn delio 芒 materion dwys mae yma ddoniolwch hefyd.

    Ni fuaswn yn ei hargymell i unrhyw un dan 13 oherwydd yr iaith anweddus.

    Fe'i sgrifennwyd mewn hwnteg sy'n clecian ond yn gwbl ddealladwy i gogs!

    Nid yw'r arddull yn farddonol nac yn goeth iawn ond mae hi yn llifo ac yn fwrlwm o gyffelybiaethau, trosiadau ac yn y blaen.

    Nid nofel i'r gwan ei galon mo hon a hithau'n edrych y tu 么l i ddrysau caeedig y cymeriadau.

    Mae Caryl Lewis wedi sylwi ac wedi deall digon i greu criw o ferched credadwy iawn.

    Nofel dreiddgar sy'n delio ben-ben 芒 phroblemau .

    Mae Caryl Lewis yn prysur ddod yn un o fy hoff awduron.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆约拍 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy