|
Carreg Wrth Garreg Dilyniant i Rhannu'r TÅ·
Adolygiad Glyn Jones o Carreg Wrth Garreg gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer. £8.99
Prin bod angen cyflwyno Eigra Lewis Roberts, y prifardd, y prif ddramodydd a'r prif lenor.
Carreg wrth Garreg yw ei nofel ddiweddara ac yn ddilyniant i Rhannu'r TÅ· a gyhoeddwyd yn 2003 - nofel yn darlunio'r gwrthdaro a'r rhwygiadau rhwng ac o fewn teuluoedd adeg streic fawr Chwarel y Penrhyn ym Methesda, Arfon, 1900-03.
Er i ugain mlynedd fynd heibio a'r Rhyfel Byd Cyntaf drosodd does fawr wedi newid. Mae Tom yn dal yn y chwarel, Grace yn troedio rhwng cownter a pharlwr Bristol House, a Daniel yn weinidog yng nghapel mawr y Blaenau.
Mae'r waliau a godwyd ers y streic fawr yn simsan a di-sylfaen, a'r muriau a godwyd rhwng y cymeriadau a'i gilydd, a rhyngont a hwy eu hunain yn solat a chryf.
Cyn y gall Bethesda fod yn dÅ· tangnefedd eto rhaid dymchwel y muriau hyn a, carreg wrth garreg, rhaid codi rhai newydd yn eu lle.
Lluniau cyflym Aiff y nofel rhagddi mewn cyfres o glipluniau cyflym, techneg effeithiol sy'n hoelio'n sylw ar bob darlun yn ei dro.
Ac eto, er mai oriel gelf o Fethesda sydd yma, ychydig o ddarlunio uniongyrchol a geir. Drwy bortreadu'r cymeriadau yn eu cynefin naturiol pery'r awdur i'r cymeriadau ddisgrifio eu hunain. Mae'r darn canlynol o bennod gyntaf y nofel yn enghraifft benigamp o hyn:
"Aeth Grace â'r baned drwodd i'r parlwr. Ni fyddai'n mentro yno ond pan fo raid. Roedd y lle'n ei hatgoffa o bethau y gwnaethai ei gorau i anghofio.
Eisteddai ei thad wrth y bwrdd mawr. Cododd ei olygon o'i Feibl a gofyn,
'Wel, ges ti berswâd ar yr hogan o forwyn 'na i ddŵad i'r seiat heno?' 'Naddo. Waeth heb, Tada.' 'Mi ddylat ti gael ei gwared hi. Mae na ddigon o ferched bach parchus angan gwaith.'"
Ni wyddom sut le yw'r parlwr, ond teimlwn yr awyrgylch llethol. Ni wyddom sut un yw Grace ond clywn y syrffed yn ei llais. Ni ddywed yr awdur ddim am Edward Ellis ond deallwn fod achub eneidiau yn bwysicach iddo na chysur ei ferch.
Sylwch nad yw'n diolch am ei baned, ac y cyfyd ei lygaid o air Duw i fwrw enllib ar Magi, nad yw'n ei galw wrth ei henw hyd yn oed, gan fygwth ei throi o'i gwaith.
Dyma enghraifft hefyd o ddawn Eigra Lewis Roberts i ennyn chwilfrydedd ei darllenydd. Mae'r crochan yn ffrwtian yn Bristol House, a gwyddom na fydd yn hir cyn y bydd yn berwi drosodd. Rhaid inni ddarllen ymlaen.
Prif themâu Gwacter ystyr, gorthrwm crefydd, rhwystredigaeth. Dyma brif themâu y nofel hon.
Fodd bynnag, nid eu plethu i'r naratif a wnaiff ond fframio'r darluniau â hwy.
Mae hunllefau Tom, er enghraifft, yn dangos effaith y Rhyfel Mawr ar y pentref, er y byddai'r nofel wedi elwa'n sylweddol ar ddisgrifiad mwy uniongyrchol o'r hunllefau hyn. Bodloni ar sôn amdanynt wrth fynd heibio a wneir.
Fe'i caf yn rhyfedd fod Eigra Lewis Roberts yn anwybyddu tlodi, a'r nofel wedi'i lleoli mewn ardal chwarelyddol ar adeg dlawd yn ei hanes. Mae hyn yn wendid gan nad yw'n manteisio'n llawn ar y lleoliad, ac yn hepgor rhywbeth sy'n gwbl ganolog i fywyd yr ardal.
Er hyn, wrth edrych arni o ochr arall mae'n llenyddiaeth wedi boddi mewn tlodi, a thrwy ddewis trafod aelodau'r dosbarth canol, teulu Bristol House a'r Capel Mawr, llwyddir i osgoi'r rhigol honno gan ganolbwyntio ar broblemau emosiynol yn hytrach na rhai materol.
Eto, byddai'r nofel wedi elwa ar fwy o gydbwysedd rhwng y ddwy elfen.
Nid du a gwyn Ni ddisgynna'r awdures i'r trap o ddarlunio ei chymeriadau yn ddu neu'n wyn, yn dda neu'n ddrwg. Er y melltithiwn Maud am y ffordd mae'n trin Tom, pan sylwn na chafodd erioed na hapusrwydd plentyndod na chariad mam buan y down i faddau iddi, rhywbeth na all Elen Evans, un o'r seintiau, ei wneud.
Yn hyn o beth, mae enw stryd ei chartref, Llwybrmain, yn gwneud cyfiawnder â hi gan fod ei llwybr yn fain a'i chrefydd yn gulach.
Ni theimlaf fy mod yn adnabod Ifan yn llwyr, er y gellid dadlau nad oes bosib i ni wneud hynny ac yntau ddim yn adnabod ei hun.
Fodd bynnag, mae'r ffaith iddo gyrraedd tŷ Miss Watkins pan fo'r frigâd dân newydd ddiffodd y fflamau yn ormod o gyd-ddigwyddiad. Ac nid yw'r modd y pryfocia'r athrawes ifanc yn gydnaws a'i gymeriad swil, ansicr.
Mae'r awdur ar ei gorau pan fo ar ei chynilaf. Mae'r disgrifiad hwn o Laura yn llawn posibiliadau:
"Roedd golwg wedi ymlâdd arni, a chleisiau duon o dan ei llygaid."
Pam? Blinder? Ynteu trais domestig?
Gwaetha'r modd, eithriadau prin yw awgrymiadau o'r fath. Gwell gan yr awdur roi cwestiynau ar blât, a chyllell a fforc yn nwylo'i darllenydd yn hytrach na gadael iddo feddwl drosto'i hun.
Mae cwestiynau megis, "A lle roedd o'r tro hwn, tybad?", "Be fyddai gan ei fam i'w ddweud?" ac "A be oedd o'n mynd i allu ei wneud ohoni?" yn britho, ac yn fy marn i, yn llesteirio'r naratif.
Byddai Kate ei hun yn falch o ddiweddglo'r nofel. Y mae'n llawn awyrgylch ac yn gwneud i ni feddwl. Mae'r chwarelwyr ar fin streicio, Magi ar ddisgyn i rigol bywyd priodasol, a ni wyddom beth a ddaw o Grace a Tom.
Mae yma obaith, ond gobaith brau ydyw, a waliau'r TÅ· Tangnefedd eto'n gwegian dan y straen.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Rhannu'r TÅ·
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|