麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bywyd Blodwen Jones
Nofel ysgafn i ddysgwyr

  • Adolygiad Glyn Jones o Bywyd Blodwen Jones gan Bethan Gwanas. Gomer. 拢3.99.
  • Nofel i ddysgwyr Cymraeg yw Bywyd Blodwen Jones wedi hysgrifennu ar ffurf dyddiadur, genre llenyddol a ddaeth yn eithriadol o boblogaidd yn ein llenyddiaeth.

    Nid dyddiadur sych mo hwn o bell ffordd ond yn ddiddorol o'r dudalen gyntaf, a hynny am fod y ferch sy'n sgrifennu yn ddiddorol.

    Creisus
    Mae Blodwen Jones yn ddibriod ac yn dioddef math o greisus canol oed. Mae am fyw o'r tir, pobi bara, cadw geifr, ac ar ben hyn oll, mae mewn cariad a'i thiwtor Cymraeg, Llew Morgan.

    Cawn wybod hyn oll o fewn pum tudalen. Cynildeb diwastraff yng ngwir ystyr y gair.

    Fel pob dyddiadur da, mae yma stori.
    Er mawr syndod, darganfu Blodwen nad yw Llew 'hyfryd hyfryd' Morgan mor hyfryd wedi'r cwbl!

    Yn fwy o sioc fyth, sylweddola nad yw Andrew, y poen yn y pen 么l, yn gymaint o niwsans wedi'r cwbl - a'i bod yn ei garu.

    Ond fel yr gallech ddisgwyl, mae Andrew yn caru merch arall.

    Syml? Ansoffistigedig?
    Efallai wir, ond mae yma egin stori gariad, a waeth i ni gyfaddef ddim, mae pawb yn hoffi clywed am helyntion carwriaethol pobl eraill a dyma sy'n gwneud y nofel hon mor apelgar, nid yn unig i ddysgwyr, ond i siaradwyr Cymraeg rhugl hefyd?

    Yn frith o hiwmor
    Mae'r nofel yn frith o hiwmor. Ryw'n si诺r i mi chwerthin gymaint wrth ei darllen nes deffro'r pentref i gyd. Gadewch i mi roi enghraifft: "Sut mae gofyn i ddyn ddod allan efo fi heb swnio fel taswn i'n gofyn iddo ddod allan efo fi. Chwiliais i am y geiriau cywir. Mae'n rhaid bod Llew wedi sylwi 'Wyt ti isio rhywbeth, Blodwen?' gofynnodd o. Dyma fy nghyfle. Anadlais i'n ddwfn.
    'Ym . . . wel, ro'n i'n meddwl mynd am hanner bach i'r dafarn -'
    'Syniad da!' meddai Andrew fel mellten. I'll come efo ti, Blod.
    Mae'n gas gen i gael fy ngalw'n 'Blod.'"

    Sylwch yma ar ddawn cymeriadu'r awdures. Nid yw'n dweud o gwbl bod Andrew yn niwsans. Yn hytrach, dengys ei anaeddfedrwydd bachgennaidd drwy ddisgrifio ei weithredoedd.

    Y mae'n gwbl anymwybodol fod Blodwen yn gofyn i Llew fynd allan gyda hi. Mae'n gwahodd ei hun i'r dafarn gan chwalu ei holl obeithion. Sylwer hefyd ar y modd y mae'r sefyllfa'n cael ei throi. Mae'r sefyllfa'n chwithig a chyffrous, ac yna, yn annisgwyl braidd, rydym yn chwerthin, yn pit茂o Blodwen, ac yn ochneidio ar Andrew fel y gwnawn wrth blentyn drygionus.
    Mae'r awdures yn feistres ar ei chrefft.

    Gweddu'n berffaith
    Edrychwch eto ar y dyfyniad uchod.
    Edrychwch yn arbennig ar yr iaith. Mae'n syml a dirodres, heb fod yn afler a llac. Mae'r arddull yn gweddu'n berffaith i ddysgwyr Cymraeg. Mae yma'r llafar ansafonol 'Ro'n i'n,' ynghyd 芒'r berfau cryno yn eu ffurfiau llafar (berf + rhagenw) 'Anadlais i'n ddwfn,'

    Mae'r llyfr hefyd yn ardderchog i ddysgwyr gan mai dyddiadur dysgwraig ydyw. Mae Blodwen yn rhugl ei Chymraeg, bron, ac yn ysbrydoliaeth i eraill sydd am wneud yr un fath a hi. Mae llawer o frawddegau addysgol yma hefyd, sy'n sicrhau bod y dysgwyr yn dysgu wrth ddarllen. Er enghraifft:
    "Wel! y gair Cymraeg am dandruff ydi 'cen.' Cen! Wel, dw i'n tynnu yr enw 'na allan o fy rhestr enwau babis yn syth."

    Gallu uniaethu
    Gall y dysgwr uniaethu 芒 Blodwen Jones, dysgu ganddi a chwerthin gyda hi wrth gofio am yr hwyl a geir yn y dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Mae Blodwen Jones yn gwneud dysgu Cymraeg yn dasg ddiddorol tu hwnt, ac mae hynny'n glod i'w chreawdwr, Bethan Gwannas.

    Mae yma hefyd disgrifiadau campus. Dyna'r disgrifiad o Blodwen:
    "Mae fy ngwallt i'n frown golau diflas, fel d诺r ar 么l golchi sosban fudr."

    Yn yr un modd, y gwirioneddau dwys hynny sy'n peri i ni oedi a meddwl.
    "Mae rhywbeth yn braf am ddarllen am bobl sy'n fwy trist na fi."

    Geirfa
    Ar waelod pob tudalen mae geirfa sy'n nodi pa eiriau sy'n ogleddol a pha rai'n ddeheuol. Hefyd mae nodiadau gramadeg. Rhestrir ffurfiau rhediadol yr arddodiad 'gan,' a defnyddir enghreifftiau o'r nofel i ddangos sut y defnyddir pob ffurf mewn brawddeg.

    Ond er bod manylion am y ferf 'meddai' a'r ferf 'bod' ni theimlaf fod hyn yn ddigon; nid oes s么n am y gwahaniaeth rhwng enw gwrywaidd, benywaidd a lluosog. Ni restrir chwaith derfyniadau'r berfau cryno, na ffurfiau rhediadol yr arddodiad 'am,' amdano fo, amdanaf i, er enghraifft.

    Buddiol fyddai rhoi seren ar 么l gair yn y naratif, i ddynodi bod troednodyn.

    Mae ambell wall technegol hefyd. Eglurir mai llefrith yw llaeth, ac mai pres yw arian. Fodd bynnag, ni chyfieithir hwy i'r Saesneg fel y geiriau eraill.

    Yn ddim ond 76 o dudalennau, nofel fer yw Bywyd Blodwen Jones ond mae yma ysgafnder, doniolwch a chyffro.

    Mae'n addas i'r dysgwr Cymraeg, i'r sawl sy'n rhugl yn yr iaith, ac yn enwedig i ddisgyblion ysgol uwchradd sydd eisiau rhywbeth ysgafn i'w ddarllen.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆约拍 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy