麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar D芒n gan Sioned Lleiniau
T芒n yn y teitl
Helyntion yr ifanc yng nghefn gwlad.


Ar D芒n gan Sioned Lleiniau. Cyhoeddir gan Wasg Gomer.
Adolygiad gan Elin Meredith.
Comisiwn arbennig gan Wasg Gomer i ysgrifennu nofel am gefn gwlad ydy cefndir y nofel yma.
Mae'r awdures, Sioned Lleinau, wedi ei geni a'i magu yng nghefn gwlad ac wedi seilio llawer o Ar D芒n ar ei phrofiad o fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc yn ardal Capel Iwan.

Clawr y llyfrFel mam i dri o blant sy'n byw yng nghefn gwlad, mae dyfodol y gymdeithas yma yn agos iawn at ei chalon felly, ac mae hi wedi mynd ati yn fwriadol i ddarlunio ei hagosatrwydd a'i bwrlwm.

Caru, priodi, plant siawns
Stori am gymuned fechan wledig yn Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar deulu'r Gelli ydy hi. Cawn hynt a helynt pobl ifanc yr ardal a hanes caru, priodi, plant siawns, marw a dyfodol ffermio yn yr ardal.

Fel y gellid ei ddisgwyl gan rywun sy'n gwneud ei bywoliaeth o waith cyfieithu, mae'r ysgrifennu yn loyw, cywir a chadarn. Mae'n arwyddocaol, efallai, fod yr awdures wedi ysgrifennu doethuriaeth prifysgol ar y testun, "Delwedd o'r wlad yn y nofel Gymraeg."
Mae hi'n ymwybodol iawn o fod eisiau portreadu delwedd ffeithiol-gywir, gyflawn a ffafriol o'r bywyd yma.

Ond yn yr ymgais i wneud hyn, efallai fod y cymeriadau a stori wedi mynd ar goll. Teimlwn fod gormod o bwyslais yn y nofel ar ddisgrifio bywyd cefn gwlad, a hynny ar draul stori afaelgar.

Castiau bechgyn ifainc
Mae'r cynhwysion i gyd yma: bywyd y Clwb Ffermwyr Ifanc, castiau bechgyn ifanc cyn noson priodas, anawsterau ffermio, y tensiwn rhwng cenedlaethau, tynnu coes, yr arferiad o 'fynd i deithio' ymhlith meibion - a merched - fferm heddiw a phwysigrwydd y car i bobl ifanc y wlad.

Ond mae'r awdures weithiau yn llafurus o ymwybodol o gynnwys yr holl elfennau yma, a chreu epig o nofel, gan golli golwg ar y pethau bach ac ar gynnal rhediad y stori i'r darllenydd.

Fel y dangosodd y gyfres deledu Darn o Dir mae bywyd pobl ifanc cefn gwlad yn yr oes fodern yn destun sydd angen ei archwilio'n llawnach ac mae Gomer i'w canmol am geisio gwneud hynny.Ond yn anffodus wnaeth y nofel yma ddim taro'r nod i mi, er gwaetha'r addewid yn ei theitl.

Cliciwch i anfon ebost gyda'ch sylwadau chi.

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy