麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dolenni Hud
Dieithrwch y cyfarwydd
  • Adolygiad Meg Elis o Dolenni Hud gan Owen Martell. Lluniau gan Simon Proffitt. Gomer. 拢12.99.



  • Casgliad o straeon wedi eu lleoli mewn ardaloedd yn America a enwyd ar ol lleoedd yng Nghymru - Llangollen, Llandaff, Cardiff, Bangor, Neath . . . gyda ffotograffau o'r gwahanol leoedd.

    Troedio gwlad ddieithr, gyfarwydd
    Enwau cyfarwydd yw man cychwyn y daith hon ac y mae swyn a chysur yn y cyfarwydd.

    Er hynny, mae'n anodd gen i gredu mai cysuro oedd amcan Owen Martell wrth gychwyn ar y fenter hon, er bod yma ddigon o swyn hefyd, yn ei ryddiaith ef ac yn lluniau Simon Proffitt.

    Clawr y llyfr Mae'r annisgwyl yn llechu y tu 么l i'r naill a'r llall, er y talai i'r darllenydd eu darllen ill dau yn ystyrlon.

    Craffwch ar y lluniau ac mae modd darllen a deall llawer iawn mwy na'r hyn sydd yno ar yr wyneb.

    Gwnewch fwy na darllen y stori芒u tawel-feddylgar yn chwim, ac mae modd treiddio trwy haenau o ystyr.

    Rhai pethau'n tarfu
    Wrth gwrs, bydd rhai pethau yn tarfu ar y mwynhad a geir o blymio drwy'r haenau - mae rhywun yn anorfod yn brifo'i droed neu'n crafu'r croen hyd yn oed yn y dyfroedd cliriaf.

    Ac y mae'r dyfroedd weithiau yn cael eu cymylu pan dry'r ysgrifennu crefftus yn or-gymhleth, neu pan fo amser berf yn amlwg yn anghywir.

    Mi geisiaf fod yn garedig a dyfalu nad yr awdur ei hun sy'n gyfrifol am y broliant, sy'n datgelu'r anallu Cymreig cyfarwydd i wahaniaethu rhwng "tirlun" a "thirwedd".

    Er, wedi dweud hynny, hawdd fyddai fy nal innau i gyfrif - onid cysylltiad rhwng 'person' (unigolyn) a thirlun sydd yma mewn gwirionedd?

    Tydw i ddim mor si诺r.
    Fel y dywedais, y mae lluniau Simon Proffitt yn datgelu mwy na'r arwynebol ac y maent yn haeddu cael eu "darllen" yn drwyadl.

    Mae eu tebyg - a'u gwaeth - i'w gweld mewn orielau ac arddangosfeydd, yn enwedig y rhai hynny sy'n addoli wrth allorau 么l-ddiwydianniaeth a 'bywyd go-iawn'.

    Ond oni ddaw'r adleisiau dyfnaf yn y lluniau penodol hyn o'r geiriau a'r enwau sydd ynghlwm 芒 hwy?

    Cymerwch, er enghraifft, y llun "Bala Cynwyd": Ydy, mae'n gyfansoddiad crefftus, ond onid ni, sy'n gyfarwydd 芒'r Bala a Chynwyd, sydd yn ychwanegu'r dyfnder, yn gweld y tristwch a'r doniolwch?

    Yn ddigon
    Byddai'r stori芒u ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gynnal y gyfrol: cymorth, ychwanegiad yw'r lluniau, er mor grefftus ydynt ond o'u gosod ochr yn ochr 芒'r geiriau, mae cymharu yn anochel - a'r geiriau sy'n ennill.

    Alla'i ddim cofio'r tro diwethaf i mi gael cymaint o fwynhad o ddarllen cyfrol o stori芒u byrion (o'r gorau, tydw i ddim yn un sy'n sgut amdanynt, ond mae pori trwy rai gwirioneddol dda yn amheuthun).

    Stori芒u am berthyn ydynt yn anad dim, a'r ffaith eu bod wedi eu lleoli yn bennaf mewn gwlad dramor yn pwysleisio'r perthyn - a'r diffyg perthyn, yn aml.

    Mae dieithrwch ac unigrwydd i'w teimlo'n gryf yn stori Y Rhwyd - Llangollen, fel P.C. Narberth/Cardiff, gyda'r olaf hon yn llwyddo'n well i awgrymu bod rhywle arall yn llechu y tu 么l i'r geiriau.

    Y campweithiau
    Ond y campweithiau, yn ddiau, yw'r stori gyntaf a'r olaf - Yr Ymwelydd - Llandaff ac Yng Nghastell Nedd ma' Mwriad - Neath ac nid cyd-ddigwyddiad, goelia'i, yw mai yn y ddwy stori yma y mae Cymru, tarddle'r enwau lleoedd gwreiddiol, amlycaf - yn bendant felly yn y stori olaf, lle mae cyfnewid o'r diwedd rhwng dwy genhedlaeth a dwy wlad.

    Dyma stori grefftus, dawel, ac annisgwyl o ddofn, sy'n glo teilwng i gyfrol feddylgar.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy