Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr Pen-blwydd
Dan ddylanwad y sêr
  • Adolygiad Glyn Evans o Llyfr Pen-blwydd - Birthday Book gan Eiry Palfrey. Gwasg Gomer. £9.99.



  • Wrth gwrs, lol i gyd, ydi o.
    Ond dydi hynny ddim yn rhwystro'r rhan fwyaf ohonom edrych beth mae'r 'sêr' yn ei ddarogan ar ein cyfer ar gyfer y diwrnod, wythnos neu fis nesaf.

    Y flwyddyn nesaf, hyd yn oed, yr adeg hon o'r flwyddyn.

    Clawr y llyfr Ac, wrth gwrs, does yna ddim synnwyr cyffredin o gwbl mewn credu fod a wnelo dydd eich geni ac ichi gael eich geni dan arwydd sidyddol neu'i gilydd unrhyw beth a chwrs eich bywyd.

    Un a fyddai'n dadlau'n daer yn erbyn hynny fyddai Eiry Palfrey sydd newydd gyhoeddi llyfr astroleg dwyieithog newydd y Llyfr Pen-blwydd - Birthday Book.

    Mynd mawr
    Mae o'r math o lyfr y mae mynd mawr arnyn nhw a chyda hwn wedi ei deilwrio'n arbennig ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg / Gymreig mae iddo apêl ychwanegol.

    "Yn ogystal â bod yn llyfr defnyddiol i nodi dyddiadau pen-blwydd pwysig a darganfod pa enwogion sy'n rhannu'r un pen-blwydd â chi mae hefyd yn edrych ar nodweddion pob arwydd yn y Sidydd. Mae hefyd yn cynnig pa anrhegion i brynu i ba arwydd!" meddai'r cyhoeddwyr, Gwag Gomer sydd wedi cynhyrchu llyfr deniadol, sicr ei rwymiad sy'n mynd i ddal traul y blynyddoedd.

    Ac meddai Eiry Palfrey sydd wedi bod yn ymhél â'r maes hwn ers nifer o flynyddoedd:

    "Yr hyn rwy' wedi'i wneud yw nodi rhai awgrymiadau i siwtio nodweddion y gwahanol arwyddion." Ond gan ychwanegu ei fod o hefyd "ychydig yn dafod-yn-y-boch".

    Egwyddorion cadarn
    Serch hynny mae'r cyfan, fe ymddengys wedi ei sylfaenu ar egwyddorion cadarn:

    "Er enghraifft, mae Leos wrth eu boddau gyda'r haul, felly dwi wedi dweud mai'r anrheg berffaith ar ei cyfer nhw fyddai ynys yn y Caribî. Mae Virgo yn leicio cael popeth yn ei le, felly byddai rhywbeth fel desg neu beiriant golchi llestri yn anrheg dda iddyn nhw.
    "Mae Scorpios wedyn yn leicio cyflymdra, a'r gorau o bopeth, felly Porsche iddyn nhw yn anrheg. I Sagittarius, dwi wedi awgrymu gwyliau i rywle egsotig gan eu bod wrth eu boddau'n teithio.

    "Ond peidiwch â phoeni, mae yna awgrymiadau am anrhegion rhad hefyd!" meddai.

    Dywed Eiry Palfrey mai "yn raddol" y daeth hi i sylweddoli gwerth astroleg ond iddi gychwyn yn amheuwraig:

    "Fel pob Scorpio, roedd rhaid i mi ymchwilio'r peth hyd y pen eithaf. A dyna be nes i, nes oeddwn i'n gwbl hapus. Does neb yn gwybod pam y mae o'n gweithio allan, ond mae e - mae 'na ryw wirionedd rhyfedd felly i astroleg," meddai.

    Eglura mai Mawrth 21 - Alban Eilir neu gyhydnos y gwanwyn - yw cychwyn y flwyddyn astrolegol a dyna fan cychwyn y gyfrol hon, yn naturiol.

    I bob arwydd
    Y patrwm yw, wyneb ddalen i bob arwydd yn nodi ei ddyddiadau a'i arwyddair wedyn disgrifiad o nodweddion y rhai a anwyd 'dan yr arwydd' ac wedyn ofod dyddiadurol ar gyfer pob diwrnod gyda rhestr o enedigaethau nodedig ar gyfer pob un.

    Yn amlwg bydd pawb am ruthro gyntaf i'w arwydd ei hun ac wele ddarganfod mai "I'r copa" yw fy arwyddair i; mai'r Sadwrn yw fy niwrnod, wyth fy rhif lwcus, mai llwyd, brown a du yw fy lliwiau, mai bysedd cŵn, eirlys a phansi yw fy mlodau; Biwmares, Penfro, Rhydychen, Keighley, Delhi a Brwsel fy nhrefi.

    Y gwaith delfrydol imi fyddai gwas sifil, mathemategydd, meddyg esgyrn, osteopath, gwyddonydd, cyfrifydd, rheolwr banc a deintydd ac mai fy "man gwan" yw fy mhengliniau - nid jyst fy mhen fel y tybiodd cymaint o bobl.

    Yn herio
    Byddai eraill yn herio hefyd y gosodiad hefyd fy mod "yn berson cyfrifol iawn".

    Yn wir, heb gymorth unrhyw astroleg, proffwydodd athro yn yr ysgol ers talwm:
    "Fe ewch chi'n bell iawn - i'r cyfeiriad anghywir."

    Rwy'n amau mai ef oedd agosaf ati hi.

    Beth bynnag, cip yn y papur newydd nawr i weld beth fydd gan heddiw i'w gynnig . . .

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Eiry Palfrey

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý