麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Taith i Awstralia
Cymro a'i wraig yn Awstralia
  • Adolygiad Glyn Evans o Taith i Awstralia gan Roger Boore. Dref Wen.



  • Fe f没m i yn Awstralia dros y Sul.
    Er mai ymweliad o ychydig oriau yn unig oedd o cefais fodd i fyw - a dysgu llawer.
    Hynny, diolch i'r tywysydd - Roger Boore.

    Am ryw reswm pethau digon prin yw llyfrau taith yn y Gymraeg. Mae rhai da yn brinnach fyth a chyda hynny mewn cof braidd yn betrus yr agorais i Taith i Awstralia sy'n olrhain ymweliad Mr Boore 芒'r wlad yn 2005.

    Clawr y llyfr Mae Roger Boore yn adnabyddus ym myd llyfrau Cymraeg; ef sefydlodd Wasg y Dref Wen a chyflwyno i Gymru fersiynau Cymraeg o lyfrau tramor nodedig eu harlunwaith. Arloesodd mewn maes y mentrodd cyhoeddwyr eraill iddo wedyn.

    Teithiwr diddan
    Er yn gyhoeddwr diwyd ychydig mae o wedi'i sgrifennu ei hun er iddo fod yn fuddugol ar gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 1971 a chyhoeddi casgliad blasus o straeon byrion, Ymerodraeth y Cymry, flwyddyn neu ddwy wedyn.

    Mae arddull rwydd Taith i Awstralia yn peri inni ofidio na chyhoeddodd ragor o'i waith ei hun.

    Mae'n deithiwr diddan, deallus, diwylliedig a gwybodus. Yn gwmn茂wr braf bod yn ei gwmni.

    Ymweliad 芒 phwrpas iddo oedd ei ymweliad 芒'r cyfandir mawr islaw:
    "Roeddwn wedi bod yn awyddus ers blynyddoedd i weld Awstralia, achos oddi yno y daeth fy nhad-cu. Aeth allan yn yr 1850au gyda'i deulu pan oedd yn fachgen bach, a dod yn forwr yno, ac yn gapten llongau, ond erbyn 1900 roedd wedi priodi 芒 merch o Fro Morgannwg . . . ac ymsefydlu yng Nghaerdydd," meddai wrth agor ei lyfr.

    Yr oedd cysylltiad Awstralaidd 芒 hen ewythr hefyd ac mae cysylltiadau hynny yn llinyn amlwg drwy'r gyfrol hon.

    Ond megis briwsion gwybodaeth amdanynt sydd yma ac mae rhywun yn amau bod llyfr arall amdanynt hwy yn benodol ar y gweill.
    Gobeithio!
    Prydau blasus
    Canolbwyntio ar hanes yr ymweliad a wneir yma - ac fe allai hynny fod yn beth peryg iawn achos er y gall eich gwyliau diweddar fod o ddiddordeb angerddol i chwi gall fod mor syrffedus 芒 lluniau o'r gwyliau hwnnw i bobl eraill!

    Ond er bod y ddeubeth yma - y cofnod a dau bentwr o luniau! - llwydda Roger Boore i weu drwy'r cyfan wybodaeth ddifyr am amrywiaeth o bethau o brydau blasus i hanes y Cynfrodorion a newydd ddyfodiaid a wnaeth argraff.

    Er y byddai'n creu argraff cwbl annheg dweud bod elfen 'addysgol' i'r gyfrol y mae rhywun yn dysgu lot oddi wrthi o'r hyn a ddywedir yn null hamddenol, braf, y sgwrsiwr difyr.

    Mae ffraethineb tawel yma hefyd sy'n nacau unrhyw hunan-dyb:
    "Buaswn yn f'ystyried fy hun yn dipyn o arbenigwr ar y pwnc, oni bai bod eraill sy'n gwybod llawer rhagor . . ." meddai yn un lle - ac mewn lle arall:

    "Enwau Fictoraidd gwladgarol braf oedd ar y strydoedd: brenhinoedd a thywysogion yn gyfochrog 芒'r afon; breninesau a thywysogesau yn eu croesi (fel mewn bywyd). Popeth yn gwbl glir. A phob tro y mentrais allan o'r gwesty heb fy ngwraig, euthum ar goll," meddai!

    'Fy ngwraig'
    Mae "fy ngwraig" 芒 rhan hanfodol o'r hanes ac wedi peri rhywfaint o ddifyrrwch i mi gan na chredaf i'r awdur unwaith gyfeirio ati wrth ei henw yn y llyfr!

    Cychwyn yr ymweliad ym Melbourne - lle mae "fy ngwraig" yn syrthio a thorri ei braich - digwyddiad ffodus o anffodus o safbwynt ysgrifennwr sy'n gwneud yn fawr o'r llinyn stor茂ol hwnnw sy'n golygu ymweld a gwahanol sefydliadau iechyd.

    Teithiant hyd at Gulfor Torres yng ngogledd Queensland cyn dychwelyd i'r dehau gydag ysbeidiau yn Brisbane a Sydney.

    Yn deithiwr cydwybodol a llydan ei ddiddordeb mae'n amlwg i'r awdur ddarllen yn eang cyn ei ymweliad ac fe fyddai llyfryddiaeth ar ddiwedd y gyfrol wedi bod yn fuddiol.

    Nodwedd arbennig yw ei ffordd ddiddan, naturiol, o drosglwyddo gwybodaeth heb fod yn ymwthgar.

    Rhai Cymry
    Yn amlwg mae yma sylw i Gymry wnaeth enw iddynt eu hunain yn hanes Awstralia; Billy Hughes "y Prif Weinidog mwyaf a gafodd Awstralia, efallai; y mwyaf, nid y doethaf", Morgan Edwards "a ddedfrydwyd i drawsgludiant am oes ym mrawdlys Trefynwy yn 1822, pan oedd yn ddwy ar hugain oed" a Samuel Walker Griffith "gelyn grymusaf y Fasnach Lafur" yn eu plith.

    Sbeis yn y gyfrol hefyd yw'r cyfeiriadau achlysurol at brydau bwyd ambell un yn destun rhywfaint o ryfeddod ac yn ychwanegu at ap锚l cyfrol gan deithiwr deallus a diwylliedig sy'n llawer mwy diddan a gwreiddiol nag y byddai'r clawr ystrydebol yn ei awgrymu.

    Dim ond un peth sydd yna i flino rhywun; i'r lluniau lluosog gael eu cyhoeddi yn ddau swp gyda'i gilydd yn hytrach nag mewn mannau perthnasol yn y testun.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Roger Boore

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy