麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tir Newydd a Cherddi Eraill
Cyfrol sy'n canu drwyddi
  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Tir Newydd a Cherddi Eraill gan Hilma Lloyd Edwards. Gwasg y Bwthyn. 拢6. 70tud.


  • Er iddi gyhoeddi o leiaf ddeuddeg o nofelau ar gyfer plant, fel bardd yr ydwyf fi wedi meddwl am Hilma Lloyd Edwards erioed a hynny'n deillio o'r ffaith iddi ennill dros hanner cant o gadeiriau a sawl coron mewn eisteddfodau ar draws Cymru.

    Clawr y llyfr Ond merch sydd wrth ei bodd yn trin geiriau yw Hilma, merch sydd wedi cefnogi eisteddfodau bach a mawr a dod i'r brig ym M么n, Powys a Phontrhydfendigaid cyn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd.
    Dyna brawf o'i chariad at 'Y Pethe.'

    'Cystal ag unrhyw awdl'
    Yn 2008 fe gafodd y Prifardd Einir Jones a minnau'r fraint o ddyfarnu Cadair Eisteddfod M么n i Hilma, a hynny am awdl sydd cystal ag unrhyw awdl ddaeth i'r brig yn ein G诺yl Genedlaethol yn ddiweddar - ac mae sawl llinell o'r awdl hynod bersonol honno'n aros yn y cof.

    Nid ar chwarae bach mae creu nac anghofio englyn fel hwn;-

    Am mai mynd wnaeth sicrwydd fy mod - a'r w锚n
    Ar wyneb plentyndod,
    Fy nghaer i, a'r dylni'n dod,
    Wywodd fel castell tywod.

    Mae'r awdl dreiddgar yma yn ei chyfanrwydd yn un o berlau amlwg y gyfrol yma, nid yn unig am y grefft sydd ynddi ond am y cynnwys a ddaeth a deigryn i'm llygaid.

    Amrywiaeth y mesurau yn y gyfrol sy'n profi dawn y bardd, gan fod yma sonedau, englynion, cywyddau a cherddi yn y wers rydd, ac er bod yna dinc lleddf i sawl un, mae yma hefyd gyffyrddiadau cyfoes sy'n fwrlwm o hiwmor.

    Nid pawb sy'n gallu cyfannu deufyd mor wahanol 芒 jogio a Chaer Arianrhod a rhoi i ni ddau ddarlun mewn lliwiau a geiriau sy'n gweddu i'r dim.

    Dyma Hilda'n jogio:
    ' Cha'i ddim ond joch o dd诺r
    I'w lyncu a mi'n lonciwr.'

    Ac yna'n gweld olion Caer Arianrhod yn Ninas Dinlle:
    'Olion caer ar lan y co',
    A'm hanes yn drwm yno.'

    O gofio iddi raddio mewn Hen Hanes, ac yna derbyn MA mewn Eifftoleg, does ryfedd yn y byd bod yma gerddi sy'n llawn o naws 'y dyddiau gynt' ac mae teitlau fel Tre'r Ceiri, Adfail ac Abaty Llandudoch yn eilio'i dawn a'i diddordeb yn ei 'hen hanes.'

    Dyma'r englyn i Abaty Llandudoch:
    Na, nid muriau ond mawredd-a welaf,
    Nid olion ond gloywedd,
    Fe erys hen gyfaredd,
    Y fan hon yn nwfn ei hedd.

    Diddorol felly oedd iddi ddewis cystadlu yng Nghaerdydd ar y testun Tir Newydd sy'n rhoi teitl i'r gyfrol yma.

    Cerddi amserol
    Fel y dywedodd Yr Athro Gwyn Thomas yn ei feirniadaeth "cerddi amserol a geir yma", cerddi sy'n adleisio cyflwr bregus byd fel y mae heddiw, ac mae'r ymwybyddiaeth o'r hen a'r newydd yn clymu'r casgliad yn gelfydd iawn.

    Cyfoethogir y dweud yn y newid mesurau sydd yma, gyda'r defnydd o'r vers libre cynganeddol yn cysylltu ddoe a heddiw.

    Syndod i mi wedi'r Eisteddfod oedd clywed rhai yn collfarnu'r casgliad ar sail ambell gamgymeriad bach sydd yma - ond y gwirionedd yw bod y casgliad yn canu drwyddo, a'r canu hwnnw'n creu darluniau cofiadwy.

    Uchafbwynt yr Awen
    Er nad oes thema 'trasiedi' fel y ceir yn y cerddi eraill yn y casgliad yn y gerdd olaf, Lleuad, hon i mi yw uchafbwynt yr Awen, gyda sawl brawddeg sy'n rhoi ias o bleser ac ofn hefyd.

    Diolch i Ifor Baines am hybu bardd mor ddawnus, ac i Wasg y Bwthyn am gyfrol a ddaeth i'n dwylo'n fuan iawn wedi i Hilma ddod yn Brifardd, hefyd i Tanwen Haf am glawr trawiadol iawn.

    O gofio mor gynhyrchiol yw Hilma, edrychaf ymlaen at y gyfrol nesaf.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Prifardd Prifddinas!

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy