Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Ran
Trydedd ran camp fawr Mererid Hopwood
  • Adolygiad Vaughan Hughes O Ran gan Mererid Hopwood. Cyfrol Medal Ryddiaith 2008. Gomer. £7.99.


  • Er bod Annes Glynn wedi ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 2004 efo cyfrol o straeon llên micro does dim o'r fath beth i'w gael hyd yma ag adolygiad micro.

    Pe byddai'r fath beth yn dderbyniol, dyma'r hyn fyddwn i wedi ei sgwennu am y nofel a ychwanegodd y Fedal Ryddiaith yng Nghaerdydd at ysbail odidog Mererid Hopwood o brif wobrau'r Brifwyl:

    "Wnes i ddim hoffi "atgofion" cynharaf y prif gymeriad. Fe wnes i fwynhau'r canol. Mae gen i amheuon am y diweddglo."

    Nid ar chwarae bach
    Does gen i, fodd bynnag, fawr i'w ddweud wrth lenyddiaeth micro. Yn bwysicach o lawer na hynny mae camp Mererid yn haeddu amgenach adolygiad na sylw arwynebol o'r fath.

    Gadewch inni gael un peth yn glir.
    Nid ar chwarae bach mae ennill y gadair, y goron a'r fedal. Tri yn unig sydd wedi cyflawni'r gamp. A Mererid ydi'r unig un ohonyn nhw sy'n dal ar dir y byw.

    Gwilym R. Jones ( coron 1935, cadair 1938, medal 1941 ) a Tom Parri Jones ( cadair 1945, medal 1957, coron 1963 ) ydi'r lleill.

    Blynyddoedd goruchafiaeth Mererid yw , 2001, 2003 a 2008: dyddiadau ei chadair hanesyddol, y goron ac yn awr y fedal.

    Clawr y llyfr Fe wn i'n dda nad rhoi crynodeb o'r cynnwys yw priod waith adolygydd ond does dim drwg mewn esbonio bod y nofel yn dilyn y prif gymeriad, Angharad Gwyn, wrth iddi deithio ar y trên o orsaf Paddington i Gaerdydd ei mebyd.

    Gofynnai geiriad testun y gystadleuaeth eleni'n benodol am gyfrol "ac iddi gefndir dinesig neu drefol."
    Er mor gryf yw cysylltiadau teuluol Mererid Hopwood â Sir Benfro, yng Nghaerdydd y cafodd hi ei geni a'i magu.
    Dyna egluro sut y byddai'r testun wedi ei denu.

    Cyfrol gyfarch
    Ar y trên mae Angharad yn darllen proflenni cyfrol gyfarch i'w thad , y cerddor athrylithgar Ifan Gwyn. Cyfrol aml-gyfrannog ydi honno lle mae ffrindiau a chydnabod a ffans Ifan yn ei ganmol i'r cymylau.

    Dyfynnir o nifer o'r llithoedd hyn drwy gydol y nofel, rhai yn y Gymraeg a rhai yn y Saesneg.

    A bod yn onest byddai'r nofel ar ei hennill o fod wedi cael gwared â'r rhan fwyaf o'r Saesneg sy'n ei britho. Efallai nad bob amser,ond yn aml iawn, mae modd cyfleu iaith arall heb ei defnyddio.

    Deallwn yn fuan iawn bod Angharad wedi cael ei magu gan ei thad gweddw ac mae darllen y gyfrol gyfarch ar y siwrnai yn peri iddi hel atgofion am ei magwrfa yn yr Eglwys Newydd, o ganol y Chwedegau hyd at ddiwedd yr Saithdegau, fe fyddwn i'n dyfalu.

    Yn ei beirniadaeth tystiodd Catrin Beard, hithau'n un o blant y brifddinas, ac un a fyddai wedi cyfoesi ag Angharad Gwyn, i gywirdeb a dilysrwydd portread Mererid Hopwood o Gaerdydd y cyfnod.

    Ac o fewn fy mhrofiad innau, delir awyrgylch llefydd yn y ddinas megis y farchnad dan do yn feistrolgar- er mai pysgod a chigoedd i'w bwyta fyddwn i'n eu prynu yno nid crwban, fel y gwnaeth Angharad a'i thad.

    Shimpil
    A minnau wedi dweud eisoes nad oeddwn yn hoffi'r modd mae'r ferch fach yn rhannu ei hatgofion cynharaf efo ni, gadewch imi geisio esbonio pam.
    A defnyddio gair tafodieithol anghyfieithiadwy'r llenor D.J Williams roedd natur dameidiog llawer o'r is- benodau agoriadol - ac eithrio'r prynu crwban - yn "shimpil."

    Er mai benthyciad ydi'r gair o "simple", yn nefnydd Shir Gâr ohono mae cynodiadau anghymeradwyol nid yn annhebyg i "naïf".

    Rydw i'n llawn sylweddoli mai meddyliau merch fach a fynegir ond, i mi roedd gormod o'r meddyliau hynny'n cael ei mynegi'n shimpil - sy'n nam - yn hytrach nag yn syml - sy'n rhinwedd.

    Gwirioneddol dda
    Wrth i Angharad aeddfedu, fodd bynnag, a dod i synhwyro nad yw popeth ynglŷn â'i bywyd yr hyn y mae'n ymddangos, mae'r elfennau roeddwn i, yn gam neu'n gymwys, yn feirniadol ohonynt yn diflannu.
    O hynny ymlaen ceir sgwennu gwirioneddol dda.

    Yr anhawster sydd gen i wrth ei hadolygu yw ceisio gwneud yn siŵr nad ydw i'n difetha'r stori mewn unrhyw ffordd. Maen nhw'n gofyn yng nghystadleuaeth gwobr goffa Daniel Owen am nofel efo llinyn storïol cryf; wel, coeliwch fi, mae Mererid wedi sgwennu cythgam o stori dda yn ogystal â hanes plentyn a orfodwyd i ysgwyddo baich o euogrwydd .

    'Beth yw adnabod'
    Gosodwyd dyfyniad gan Waldo Williams ar gychwyn y nofel; "Beth yw adnabod? "

    Digon yw dweud ei fod yn ddyfyniad addas iawn yn achos yr haenau o adnabod a methu adnabod a ddinoethir yma.

    Mae'r nofel yn brawf hefyd o wirionedd digamsyniol geiriau anfarwol Syr Walter Scott, Oh what a tangled web we weave when first we practice to deceive.

    Gofidio
    Un peth sy'n fy ngofidio.
    Mae Angharad Gwyn y plentyn yn gymeriad real iawn.
    Nid felly'r Angharad Gwyn feichiog, yn ei hoed a'i hamser, ryda ni'n teithio yn ei chwmni o Lundain i Gaerdydd.
    Prin ryda ni'n adnabod honno.

    Ond, diawch, dwi'n ymfalchïo ein bod ni wedi cael hen ddigon o gyfle yma i ddod i adnabod Mererid Hopwood y llenor yn ogystal â'r bardd.

    Wps! Be haru fi? Y Prif Lenor yn ogystal â'r Prifardd ddylwn i ei ddweud.
    Mawr yw ei champ.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Ennill y Fedal Ryddiaith

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý